RoeddJames Connolly (Gwyddeleg:Séamas Ó Conghaile;5 Mehefin1868 –12 Mai1916) yn arweinydd llafur oIwerddon. Ganed ef yn ardalCowgate,Caeredin,Yr Alban, i deulu tlawd oedd wedi mewnfudo oIwerddon. Gadawodd yr ysgol yn 11 oed, ond er hynny addysgodd ei hun nes dod yn un o feddylwyr amlycaf yr adain chwith yn ei ddydd.
Yn 1882, yn 14 oed, ymunodd a'r Fyddin Brydeinig, a bu yn y fyddin am 7 mlynedd, yn gwasanaethu yn Iwerddon. Tra'r oedd yno cyfarfu a Lillie Reynolds a ddaeth yn wraig iddo yn ddiweddarach. Gadawodd y ffordd y gwelodd y fyddin yn trin pobl gyffredin Iwerddon Connolly gyda chasineb at y fyddin weddill ei oes.
Bu'n gweithio fel llafurwr yng Nghaeredin a daeth yn weithgar gydag undebau llafur a chydaPhlaid Lafur AnnibynnolKeir Hardie. Erbyn1896 roedd ynNulyn yn ysgrifennyddCymdeithas Sosialaidd Dulyn; ffurfiodd Connolly yBlaid Weriniaethol Sosialaidd Wyddelig (Irish Socialist Republican Party neu ISRP). Bu yn yrUnol Daleithiau am gyfnod, lle bu'n weithgar gydag undebau llafur. Dychwelodd i Iwerddon, ac yn1913 ffurfiodd yrIrish Citizen Army (ICA), byddin lafur arfog. Pwrpas y fyddin ar y cychwyn oedd amddiffyn gweithwyr a streicwyr, ond yn fuan daeth i anelu at greu gweriniaeth sosialaidd rydd yn Iwerddon.
Yn ystodGwrthryfel y Pasg. a ddechreuodd ar24 Ebrill,1916, roedd Connolly yn un o'r prif arweinwyr. Clwyfwyd ef yn ddifrifol yn ei goes yn ystod yr ymladd. Wedi'r gwrthryfel dedfrydwyd ef i farwolaeth a saethwyd ef yngNgharchar Kilmainham, yn eistedd mewn cadair am ei fod wedi'i glwyfo'n rhy ddrwg i sefyll. Gadawodd nifer o blant, a daeth un ohonynt,Nora Connolly-O'Brien yn adnabyddus fel awdur ac ymgyrchydd gwleidyddol.
Cerflun o James Connolly yn Nulyn
Mae cerflun o Connolly yn ninas Dulyn o flaenLiberty Hall, swyddfeydd yr undeb llafurSIPTU. Mae un o ddwy brif gorsaf reilffordd Dulyn wedi ei enwi ar ei ôl.
Levenson S.James Connolly A Biography. Martin Brian and O'Keeffe Ltd., Llundain, 1973.ISBN 0-85616-130-6.
Connolly, James. 1987.Collected Works (Two volumes). Dulyn: New Books.
Anderson, W.K. 1994.James Connolly and the Irish Left. Dulyn: Irish Academic Press.ISBN 0-7165-2522-4.
Fox, R.M. 1943.The History of the Irish Citizen Army. Dulyn: James Duffy & Co.
Fox, R.M. 1946.James Connolly: the forerunner. Tralee: The Kerryman.
Greaves, C. Desmond. 1972.The Life and Times of James Connolly. Llundain: Lawrence & Wishart.ISBN 0-85315-234-9.
Lynch, David. 2006.Radical Politics in Modern Ireland: A History of the Irish Socialist Republican Party (ISRP) 1896-1904. Dulyn: Irish Academic Press.ISBN 0-7165-3356-1.
Kostick, Conor & Collins, Lorcan. 2000 "The Easter Rising" Dulyn: O'Brien Press ISBN .0-86278-638-X
Nevin, Donal. 2005.James Connolly: A Full Life. Dulyn: Gill & MacMillan.ISBN 0-7171-3911-5.
Ó Cathasaigh, Aindrias. 1996.An Modh Conghaileach: Cuid sóisialachais Shéamais Uí Chonghaile. Dulyn: Coiscéim.