Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Jakob Böhme

Oddi ar Wicipedia
Jakob Böhme
Portread o Jakob Böhme gan Christoph Gottlob Glymann (dechrau'r 18g)
FfugenwTeutonicus Philosophus, Desiderius Philadelphus Edit this on Wikidata
Ganwyd24 Ebrill 1575 Edit this on Wikidata
Stary Zawidów Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 1624 Edit this on Wikidata
Görlitz Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, diwinydd,ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Aurora Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://jacob-boehme.org/ Edit this on Wikidata

Athronydd,cyfrinydd Cristnogol adiwinyddProtestannaidd o'rAlmaen oeddJakob Böhme (24 Ebrill157517 Tachwedd1624). Mae ei waithMysterium Magnum (1623) yn cyfunocyfriniaeth natury Dadeni ag athrawiaethFeiblaidd, a'i draethawdVon der Gnadenwahl (1623) yn ymdrin â rhyddid yng nghyd-destunCalfiniaeth. Cafodd ddylanwad pwysig ar fudiadau diweddarach yn yr Almaen gan gynnwysDelfrydiaeth aRhamantiaeth.[1]

Ganed ef yn Alt Seidenberg (bellach Stary Zawidów,Gwlad Pwyl), gerGörlitz,Bohemia, ynyr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd ei fagu yng nghyfnod diweddary Diwygiad Protestannaidd, ac yn niwedd ei arddegau aeth i Görlitz ym mha le'r oedd dadleuon ffyrnig rhwng yr amryw sectau a ffynnai yn y dref honno:cudd-Galfiniaid,Ailfedyddwyr, ySchwenckfeldiaid, meddygonParacelsiaidd, adyneiddwyr, yn ogystal âLwtheriaid uniongred.Crydd ydoedd o ran ei alwedigaeth, a chan ei fod o duedd fyfyrgar, ymroddodd yn ei oriau hamddenol i astudio diwinyddiaeth, anianaeth, asêr-ddewiniaeth. Mae'n debyg i ffydd Böhme gael ei deffro dan ddylanwad Martin Möller, y gweinidog Lwtheraidd yn Görlitz, mewn un o'i gêl-gyfarfodydd crefyddol ym 1600. Yn ôl yr hen chwedl ysbrydol, honnai i Böhme gael ei amgylchu fwy nag unwaith ganoleuni dwyfol, ac iddo, yn nerth y goleuni hwnnw, ddarganfod hanfod, rhin, a defnydd-lysiau y maes. Yr oedd Böhme yn ddyn uniawn a difrifol ym mhob peth. Erlidid ef yn dost gan wŷr eglwysig, ond perchid a mawrygid ef gan bawb arall – hyd yn oed gan bendefigion, meddygon, a marsiandwyr. Bu farw Jakob Böhme yn Görlitz yn 49 oed.

Mae dysgeidiaeth Böhme yn gysegredig yn yr ymgais i brofi angenrheidrwydd pethau trwy olrhain eu tarddiad ibriodoliaethau Duw. Oherwydd hyn, cyhuddir ef gan ddarllenwyr arwynebol, a rhagfarnllyd, o goledduathrawiaeth y Manicheaid. Ond olrhain y gyfatebiaeth y mae sydd rhwng y byd gweledig ac anianol a'r byd anweledig ac uwch-anianol. Er gwaethaf llawer o syniadau gwylltion a gynhwysant, y mae yn ei lyfrau wirioneddau mor ddyfnion, a meddyliau mor odidog, fel y maent wedi derbyn cymeradwyaeth y meddylwyr mwyaf. Ysgrifennodd Böhme tua 30 o lyfrau, gan gynnwys ei gyfrol gyntaf,Aurora ("Y Gwawrddydd", 1612).

Rhennir awduriaeth Böhme yn dri chyfnod, yn cyfateb i ddosbarthiad triphlyg ei weithiau:—(1.) Athroniaeth; sef ymgais i ddyfod o hyd i Dduw fel y mae ynddo ei hun. Gwneir hyn yn eiAurora. (2.) Bydhaniad; yr amlygiad o'r dwyfol yn y creadur. (3.) Diwinyddiaeth; yr amlygiad o Dduw yn enaid dyn. Y mae ei ddylanwad fel awdur yn gyfyngedig i ddysgedigion. Un o'i brif feddyliau ydyw, mai Duw ydyw gwaelod pob peth, a'i fod yn gorwedd o dan y cyfan. Yr ydym ni, gan hynny, i ddisgyn i lawr at Dduw, ac nid i ymddyrchafu ato. Y mae Duw i'w gael yn y gweithredol, nid yn y drychfeddyliol. Dylem gychwyn gyda Duw, ac nid ceisio cyrraedd ato trwy ymdrech meddyliol.

Yr oedd Böhme yn ddyledus am ymadroddion a drychfeddyliau cynorthwyol iParacelsus,Valentin Weigel, a Schwenckfeld; ond am y gweddill, nyddodd ei holl gyfundraeth o ddefnyddiau ei feddwl ffrwythlawn ei hun. Ymdaenodd ei syniadau yn brysur, a darllenid ei weithiau yn ddyfal gan wŷr o fathIsaac Newton,Friedrich Schelling, aGeorg Hegel. Franz Baader ydyw y mwyaf hynod fel eglurydd ei weithiau.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. (Saesneg) Jakob Böhme. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2021.

Darllen pellach

[golygu |golygu cod]
  • Goronwy Wyn Owen,Rhwng Calfin a Böhme: Golwg ar Syniadaeth Morgan Llwyd (Caerdydd, 2001).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu oY Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn yparth cyhoeddus.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Jakob_Böhme&oldid=12911538"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp