Gorchfygu'r Jacquerie; llun o lawysgrif oGroniclFroissart
Defnyddir y termJacquerie am wrthryfel y werin yng ngogleddFfrainc yn1358, yn ystod yRhyfel Can Mlynedd. YnFfrangeg, defnyddirJacquerie fel term cyffredinol amwrthryfeloeddgwerinol, a gelwir digwyddiadau 1358 yGrand Jacquerie i'w gwahaniaethu.
Roedd byddin Ffrainc wedi ei gorchfygu gan fyddin brenin Lloegr ymMrwydr Poitiers yn1356, aJean II, brenin Ffrainc wedi ei gymeryd yn garcharor. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ymryson ymysg uchelwyr Ffrainc, a chyfnod o galedi mawr i'r werin, gyda threthi uchel a chwmnïau rhydd (routiers) o filwyr Seisnig aGasgwynaidd yn crwydr'r wlad yn ysbeilio.
Canolbwynt y gwrthryfel oedddyffryn afon Oise, i'r gogledd o ddinasParis. Roedd "Jacque" yn enw sarhaus ar werinwyr gan yr uchelwyr, oherwydd eu bod yn gwisgo siaced amddiffynnol a elwid yn "jacque" mewn brwydr, yn hytrach na llurig dur fel yr uchelwyr. Adnabyddid arweinydd y gwrthryfel,Guillaume Cale, fel "Jacques Bonhomme".
Rhoddwyd diwedd ar y gwrthryfel ganSiarl Ddrwg. Ar10 Mehefin1358, roedd ei fyddin ef a byddin Guillaume Cale yn eu wynebu ei gilydd gerMello. Gwahoddwyd Cale i ddod i drafod telerau heddwch gyda Siarl, ond pan ddaeth, cymerwyd ef yn garcharor, ac yn ddiweddarach torrwyd ei ben. Heb eu harweinydd, gorchfygwyd ei fyddin ym Mrwydr Mello.