Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Defnyddiolaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd oIwtilitariaeth)

Damcaniaeth a dysgeidiaethfoesegol ywdefnyddiolaeth,[1]llesyddiaeth,[1][2]buddioleg[3] neuiwtilitariaeth[1][4] sy'n haeru taw hapusrwydd pennaf y mwyafrif a ddylai fod yn egwyddor sylfaenol ymddygiad. Mae'n uniaethu daioni â defnyddioldeb ac yn dal taw'r unig weithredoedd cywir yw'r rhai sy'n dwyn y bodlonrwydd neu'r llawenydd mwyaf i'r nifer fwyaf o bobl.

Agwedd ddylanwadol atfoeseg normadol yw defnyddiolaeth sy'n ffurf arganlyniadaeth; hynny yw, canlyniadau'r weithred sy'n pennu eifoesoldeb.[5] Mae'n wahanol imyfïaeth gan ei fod yn ystyried buddiannau eraill yn ogystal â buddiannau'r hunan, ac yn groes iddyletswyddeg sy'n barnu moesoldeb heb ystyried canlyniadau. Yn ôl y defnyddiolwr, mae'n bosib i wneud da ar gymhelliad drwg, er nad yw hyn yn rheswm dros geisio gwneud drwg.[6]

Dirnedir safbwyntiau rhag-iwtilitaraidd ers athroniaeth yr Henfyd, megismoeseg Epiciwraidd, ond yn y 19eg ganrif daeth mynegiant llawn yr athrawiaeth a'i diffiniad am y tro cyntaf.Jeremy Bentham aJohn Stuart Mill a osododd sail i ddefnyddiolaeth glasurol gyda'u pwyslais ar eithafu'r hyn sy'n dda ar gyfer y nifer fwyaf o bobl.[5]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.2Geiriadur yr Academi, [utilitarianism].
  2.  llesyddiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  3.  buddioleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  4.  iwtilitariaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  5. 5.05.1(Saesneg) The History of Utilitarianism. Stanford Encyclopedia of Philosophy. Prifysgol Stanford. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.
  6. (Saesneg) utilitarianism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mawrth 2016.

Darllen pellach

[golygu |golygu cod]
  • Matti Häyry,Liberal Utilitarianism and Applied Ethics (Llundain: Routledge, 1994).
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Defnyddiolaeth&oldid=10780139"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp