Dechreuodd fel "Teyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid" trwy uno Serbia, Croatia, Slofenia a Bosnia-Hertsegofina yn1918. Cymerodd y breninAlecsander I o Iwgoslafia rym absoliwt iddo'i hun yn1929 ond cafodd ei asasineiddio gan genedlaetholwyr Croataidd yn1934. Yn yrAil Ryfel Byd meddianwyd y wlad gan yrAlmaenwyr a ffoesPedr II o Iwgoslafia, olynydd Alecsander, i alltudiaeth ynLlundain.
Rhanwyd y gwrthsafiad yn erbyn yr Almaenwyr rhwng dwy blaid wrthwynebus, sef yTsietniciaid a'rPartisaniaid. Enillodd yr olaf gefnogaeth y Cynghreiriaid yn1943 ac ar ôl y rhyfel sefydlodd eu harweinyddTito lywodraethgomiwnyddol.
Roedd Tito yn anfodlon i Iwgoslafia fod dan ddylanwad yrUndeb Sofietaidd a daeth materion i ben yn1948 pan dorrodd gysylltiadai diplomyddol â'r Sofietiaid. Meiriolwyd y sefyllfa rywfaint yn sgîl marwolaethStalin. Dilynodd Tito bolisi oniwtraliaeth mewn materion tramor ('non-alignment') a datblygodd ffurf ososialaethddatganoliedig unigryw i'r hen Iwgoslafia. Serbo-Croateg oedd yr iaith ffederal swyddogol.
Hall, Brian: The Impossible Country: A Journey Through the Last Days of Yugoslavia. Penguin. Efrog Newydd, 1994
Allcock, John B.:Explaining Yugoslavia. Efrog Newydd: Columbia University Press, 2000
Clark, Ramsey:NATO in the Balkans: Voices of Opposition. International Action Center, 1998
Cohen, Lenard J.:Broken Bonds: The Disintegration of Yugoslavia. Westview Press, 1993
Dragnich, Alex N.:Serbs and Croats. The Struggle in Yugoslavia. Efrog Newydd: Harcourt Brace Jovanovich, 1992
Fisher, Sharon:Political Change in Post-Communist Slovakia and Croatia: From Nationalist to Europeanist. Efrog Newydd: Palgrave Macmillan, 2006
Gutman, Roy.:A Witness to Genocide. The 1993 Pulitzer Prize-winning Dispatches on the "Ethnic Cleansing" of Bosnia. Efrog Newydd: Macmillan, 1993
Jelavich, Barbara:History of the Balkans: Eighteenth and Nineteenth Centuries, Cyfrol 1. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983 ED 236 093
Jelavich, Barbara:History of the Balkans: Twentieth Century, Cyfrol 2. Efrog Newydd: American Council of Learned Societies, 1983. ED 236 094
Silber, Laura and Allan Little:Yugoslavia: Death of a Nation. Penguin, 1997