Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Ivar Aasen

Oddi ar Wicipedia
Ivar Aasen
Ganwyd5 Awst 1813 Edit this on Wikidata
Ørsta Edit this on Wikidata
Bu farw23 Medi 1896 Edit this on Wikidata
Christiania Edit this on Wikidata
Man preswylMøre og Romsdal Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNorwy Edit this on Wikidata
Galwedigaethieithegydd, geiriadurwr, ieithydd, cyfieithydd,ysgrifennwr, botanegydd,bardd, cyfieithydd y Beibl, cymrodoriaeth, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
llofnod

RoeddIvar Andreas Aasen, (5 Awst181323 Medi1896) ynieithegwr,geiriadurwr allenorNorwyaidd, a aned ynØrsta yn fab i Ivar Jonsson, gwerinwr tlawd.

Roedd yn genedlaetholwr driw, ac ef oedd creawdwriaith genedlaethol o'r enwlandsmålet (Nynorsk Norwyeg newydd), yn seiliedig ar dafodieithoedd Norwyaidd orllewinol. Cyhoeddodd yn 1836 ei fod am gynllunio 'iaith annibynnol a chenedlaethol' wedi selio ar gyfuniad o dafodieithoedd gwledig a oedd yn disgyn o'r Hen Norseg, i gymryd lle'r iaith Dano-NorwyaiddRiksmål (iaith y wlad). Yn y pen draw, enillodd ei iaith newydd gydnabyddiaeth ochr yn ochr â Riksmål ym 1885. Cyhoeddodd Gramadeg y Tafodieithoedd Norwyaidd ym 1848, ac yna Geiriadur y Tafodieithoedd Norwyaidd ym 1850. Bu farw ynChristiania (Oslo), a chladdwyd ef gydag anrhydeddau cyhoeddus[1].

Cyhoeddiadau

[golygu |golygu cod]

Cyhoeddodd Aasen ystod eang o ddeunydd, a rhyddhawyd peth ohono ar ôl ei farwolaeth.

Teitlteitl wedi ei gyfieithuDyddiad cyhoeddiMathSylwadau
Det norske Folkesprogs GrammatikGramadeg y Tafodieithoedd Norwyaidd1848gramadeg[2]
Ordbog over det norske FolkesprogGeiriadur y Tafodieithoedd Norwyaidd1850geiriadur[2]
SymraSymra1863Barddoniaeth[2]
I MarknadenYn y farchnad1854Drama[2]
ErvingenYr etifedd1855Drama[2]
Reise-Erindringer og Reise-IndberetningerAtgofion Teithio ac Adroddiadau Teithio1842-1847Rhyddiaithgolygwyd gan H. Koht (1917)[2]
Skrifter i SamlingYsgrifau, y casgliad1912Rhyddiaith3 cyfrol[2]
DiktingBarddoniaeth1946[2]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Chambers Biographical Dictionary, cyfrol 1990, gol Magnus Magnusson tud 1AASEN, Ivar Andreas (1813-96)
  2. 2.02.12.22.32.42.52.62.7Bredsdorff, E. L. (1954). "Aasen, Ivar Andreas". In Steinberg, S. H. Cassell's Encyclopædia of World Literature. 1: Articles & Biographies: A-H. New York, NY: Funk & Wagnall's Company. LCCN 54001255


Awdurdod


Baner NorwyEicon personEginyn erthygl sydd uchod amun oNorwy. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Ivar_Aasen&oldid=9887358"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp