Gorchfygwyd yr Arabiaid gan yrYmerodraeth Brydeinig (Lloegr) rhwng 1920 a 1948, a daethdan Fandad Prydeinig a daeth y Rheolaeth Otomanaidd i ben. Unwaith y cytunodd y Lloegr i gyflenwi arfau i'r Brigâd Iddewig a ffurfiwyd ganddynt ym 1944, ymunoddIddewon yr Yishuv gyda Lloegr a'r cynghreiriaid yn swyddogol. Ar ddiwedd y rhyfel, mabwysiadodd yCenhedloedd Unedig (UN), a oedd yn awyddus i apelio at garfanau Arabaidd ac Iddewig,Gynllun Rhaniad ar gyfer Palestina ym 1947 yn argymell creu gwladwriaethau Arabaidd ac Iddewig annibynnol, a gweinyddu Jeriwsalem yn rhyngwladol.[13] Derbyniwyd y cynllun gan yr Asiantaeth Iddewig ond cafodd ei wrthod gan arweinwyr Arabaidd. Y flwyddyn ganlynol, datganodd yr Iddewon annibyniaeth Israel, ac wediRhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, sefydlwyd Israel fwy neu lai lle bu'r tiroedd dan Fandad, tra bod y Lan Orllewinol a Gaza yn cael eu dal gan wladwriaethau Arabaidd cyfagos.[14] Ers hynny, mae Israel wedi ymladdsawl rhyfel â gwledydd Arabaidd,[15] er mwyn ceisio cynnal y titoedd hyn a orchfygwyd ganddynt, ac ers yRhyfel Chwe Diwrnod ym Mehefin 1967 nhw hefyd oedd yn rheoli'r hyn a elwir yn "diriogaethau dan feddiant" sy'n cynnwys yLan Orllewinol,Ucheldiroedd Golan aLlain Gaza.
Ystyrir yn rhyngwladol mai meddiant Israel o diriogaethau Palestina yw'r meddiannaeth filwrol hiraf y byd yn y cyfnod modern. Nid yw'r ymdrechion i ddatrys ygwrthdaro rhwng Israel a Phalestina wedi arwain at gytundeb heddwch terfynol er bod Israel wedi llofnodi cytundebau heddwch gyda'rAifft aGwlad Iorddonen.[16] Cyhuddwyd Israel yn y 2020au ohil-laddiad y Palesteiniaid ynLlain Gaza ac ar 13 Mehefin 2025ymosododd ar Iran gan gychwyn rhyfel Israel-Iran, gan fynnu fod ganIran arfau niwclear - er nad oedd unrhyw dystiolaeth o hynny.
Ganddi hi mae'r 32fed economi fwyaf'r byd yn ôlCMC enwol, yn bennaf oherwydd y nawdd ariannol, blynyddol mae'n ei dderbyn gan UDA,[22] ac mae ganddi'r safon byw uchaf yn yDwyrain Canol. Mae ymhlith gwledydd sydd a'r canran uchaf o: dinasyddion sydd â hyfforddiant milwrol,[23] dinasyddion sydd â gradd addysg drydyddol, gwariant ymchwil a datblygu yn erbyn canran CMC,[24] diogelwch menywod,[25] disgwyliad oes,[26] dyfeisgarwch,[27] a hapusrwydd.[28]
Stele Merneptah (BCE o'r13g CC. Mae rhai archeolegwyr yn cyfieithu'r set yma o hieroglyffau fel "Israel," os yw hyn yn gywir, dyma'r cofnod cyntaf o'r enw.
O danFandad Prydeinig (1920-1948), enw'r tiriogaeth cyfan oedd 'Palesteina'. Ar ôlannibyniaeth yn 1948, mae'r wlad wedi mabwysiadu'n ffurfiol yr enw 'Gwladwriaeth Israel' ar ôl i enwau hanesyddol a chrefyddol arfaethedig eraill gan gynnwys 'Gwlad Israel ' (Eretz Israel),Seion, a <a href="./Jwda" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{"userAdded":true,"adapted":true}">Jwda</a>, gael eu hystyried ond eu gwrthod,[29] tra pasiwyd yr enw 'Israel' (a awgrymwyd ganBen-Gurion) trwy bleidlais o 6–3 gan ei llywodraeth. Yn ystod wythnosau cynnaf annibyniaeth, dewisodd y llywodraeth y term "Israeliad " i ddynodi dinesydd o Israel.[30]
Mae'r term yn un a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal o fewn llawysgrifau Hebraeg. Gelwir yr ardal hefyd yn"Wlad Sanctaidd", gan ei bod yn sanctaidd i bobcrefydd Abrahamig gan gynnwysIddewiaeth,Cristnogaeth,Islam aBahá'í. Trwy'r canrifoedd, roedd y diriogaeth yn hysbys gan amrywiaeth o enwau eraill, gan gynnwysCanaan, Djahy, Samaria,Jwdea, Yehud,Iudaea, Syria Palaestina a De Syria .
Mae'r rhan fwyaf o gymdogion Israel, gan gynnwys yPalesteiniaid, poblLibanus a'rAifft yn ddig wrth Israel am yr hyn a wnaeth yn 1948 ac am beidio â rhoi tir a hawliau llawn i'r Palesteiniaid. Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel ac mae sawl rhyfel wedi bod rhyngddi hi a gwledydd cyfagos yn yr hyn a elwirWrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Un o'r ymosodiadau diweddaraf gan Israel yw'rYmosodiad a wnaeth ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 hyd 2009 sef ('Ymgyrch Plwm Bwrw' fel y'i gelwir) a lansiodd ar y 27ain o Ragfyr 2008.
Caiff Israel lawer iawn o arian ganUnol Daleithiau America a ddefnyddir ganddi i brynu arfau, gan gynnwys arfau niwclear; oddeutu $3 biliwn y flwyddyn.[31]
"If one has to refer to any of the parties as a terrorist state, one might refer to the Israeli government, because they are the people who are slaughtering defenseless and innocent Arabs in the occupied territories, and we don't regard that as acceptable."[32]
Dywedodd Desmond Tutu:
Black South Africans and others around the world have seen the 2010 Human Rights Watch report which "describes the two-tier system of laws, rules, and services that Israel operates for the two populations in areas in the West Bank under its exclusive control, which provide preferential services, development, and benefits for Jewish settlers while imposing harsh conditions on Palestinians."“This, in my book, is apartheid. It is untenable.”[33]
TraethoddNelson Mandela yn helaeth am y tebygrwydd rhwng Israel a'r hen Dde Affrica,“Our freedom is incomplete without the freedom of the Palestinians”.[34] a nododdWinnie Mandela:
“Apartheid Israel can be defeated, just as apartheid in South Africa was defeated”[35].
“a system of apartheid, with two peoples occupying the same land but completely separated from each other, with Israelis totally dominant and suppressing violence by depriving Palestinians of their basic human rights.”[36][37]
Ar y llaw arall ceir rhai'n mynegi nad oes apartheid yma; dywedodd Benjamin Pogrund, cynrychiolydd Israel yn yCenhedloedd Unedig“ Occupation is brutalising and corrupting both Palestinians and Israelis ... [b]ut it is not apartheid. Palestinians are not oppressed on racial grounds as Arabs, but, rather, as competitors — until now, at the losing end — in a national/religious conflict for land.”[38]
Mae bwyd Israelaidd yn gymysgedd o fwyd lleol a bwyd a ddaeth o bedwar ban y byd, wrth i'r Israeliaid grynhoi yma yn yr 1950au. Datblygwyd math o fwyd a elwir ynIsraeli fusion cuisine.Kosher yw'r bwyd mwyaf poblogaidd a chaiff ei goginio yn ôl yrHalakha Iddewig. Gan fod y boblogaeth naill ai'n Iddewon neu'n Fwslemiaid, pur anaml y gwelir cig moch ar y fwydlen.
Ceir sawl cwmni o Israel sy'n allforio eu cynnyrch, ac sy'n cael eu boicotio gan lawer o bobl:
↑Finkelstein, Israel; Silberman, Neil Asher (2001).The Bible unearthed : archaeology's new vision of ancient Israel and the origin of its stories (arg. 1st Touchstone). New York: Simon & Schuster.ISBN978-0-684-86912-4.
*Weill, Sharon (2014).The Role of National Courts in Applying International Humanitarian Law. Oxford University Press. t. 22.ISBN978-0-19-968542-4.Although the basic philosophy behind the law of military occupation is that it is a temporary situation modem occupations have well demonstrated thatrien ne dure comme le provisoire A significant number of post-1945 occupations have lasted more than two decades such as the occupations of Namibia by South Africa and of East Timor by Indonesia as well as the ongoing occupations of Northern Cyprus by Turkey and of Western Sahara by Morocco. The Israeli occupation of the Palestinian territories,Nodyn:Underline has already entered its fifth decade. * Azarova, Valentina. 2017,Israel's Unlawfully Prolonged Occupation: Consequences under an Integrated Legal Framework, European Council on Foreign Affairs Policy Brief: "June 2017 marks 50 years of Israel's belligerent occupation of Palestinian territory, making it the longest occupation in modern history."
↑"Israel".Freedom in the World. Freedom House. 2008. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd20 Mawrth 2012.
↑Rummel 1997. "A current list of liberal democracies includes: Andorra, Argentina, ..., Cyprus, ..., Israel, ..."
↑According tohttp://www.nytimes.com/pages/books/bestseller/index.html "Best Sellers: Hardcover Nonfiction",New York Times, accessed 27 Ionawr 2007:Palestine Peace Not Apartheid was number 6 on the list as of date accessed. It was listed as number 11 in"New York Times Best Sellers: Hardcover Nonfiction"[dolen farw] on 18 Mawrth 2007, on the list for 15 weeks for the week ending 3 Mawrth 2007. As of 6 Mai 2007 it no longer appears on the expanded list featured at that site
Dynodirgwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol ganlythrennau italig. 1 Cydnabyddir ganDwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir ynAffrica. 3 YnNe Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan oEwrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan oOceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysforSocotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.