Abed al-Salam Haniyeh, Amir Haniyeh, Hazim Haniyeh, Mohammad Haniyeh
Prif arweinydd y blaid ddemocrataiddHamas oeddIsmail Abdel Salam Ahmed Haniyeh (Arabeg:إسماعيل عبد السلام أحمد هنية,Ismaʻīl Haniyya; a gyfieithir weithiau felIsmail Haniya,Ismail Haniyah (1962 ,1963 -31 Gorffennaf2024). Roedd hefyd yn gyn-Brif WeinidogAwdurdod Cenedlaethol Palesteina ers i Hamas ennill mwyafrif y pleidleisiau yn Etholiad Cyffredinol Palesteina, 2006.
Ar bapur, ac oherwydd y cweryl rhwngFatah a Hamas, collodd ei swydd ar 14 Mehefin 2007 ond parhaodd i wneud y gwaith ynLlain Gaza,[1] a chadarnhawyd ei safle fel Prif Weinidog gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina.
Ganwyd Haniyeh yng Ngwersyll Ffoaduriaid Al-Shati yn Llain Gaza. Roedd ei rieni wedi ffoi yno oAshkelon (yn Israel heddiw) yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948.[2] Mynychodd ysgol yCenhedloedd Unedig ac yna Prifysgol Islamaidd Gaza.[2][3] Tra yno, daeth i gysylltiad â Hamas a rhwng 1985 a 1986 roedd yn Arweinydd cyngor y myfyrwyr, gan gynrychioli'rFrawdoliaeth Fwslemaidd.[3]