Mae Iran yn gartref i un o wareiddiadau hyna'r byd,[2][3], gan ddechrau gyda ffurfiad teyrnasoedd yrElamite yn y bedwaredd mileniwm CC. Cafodd ei uno gyntaf gan yMediaid yn y7g CC, a a thyfodd i'w hanterth (yn diriogaethol) yn y6g CC, pan sefydloddCyrus Fawryr Ymerodraeth Achaemenaidd, a ddaeth yn un o'r ymerodraethau mwyaf mewn hanes a'r ymerodraeth 'superpower' gyntaf yn y byd.[4]
Syrthiodd yr ymerodraeth iAlecsander Fawr yn y4g CC ac fe'i rhannwyd yn sawlgwladwriaeth Hellenistig. Sefydlodd gwrthryfel yn IranYmerodraeth Parthian yn y3g CC, a olynwyd yn y drydedd ganrif OC gan yrYmerodraeth Sassanaidd, pŵer mwya'r byd am y pedair canrif nesaf.[5][6] Gorchfygodd Mwslimiaid Arabaidd yr ymerodraeth yn y7g OC, a arweiniodd at Islameiddio Iran. Wedi hynny daeth yn brif ganolfan diwylliant a dysgu Islamaidd, gyda'ichelf,llenyddiaeth,athroniaeth, aphensaernïaeth yn ymledu ar draws y byd Mwslemaidd a thu hwnt yn ystod yrOes Aur Islamaidd. Dros y ddwy ganrif nesaf, daeth cyfres o linachoedd Mwslimaidd brodorol i'r amlwg cyn i'r Twrciaid Seljuq a'r Mongols orchfygu'r rhanbarth.
Yn y15g, ailsefydlodd y Safavids brodorol wladwriaeth unedig Iran a hunaniaeth genedlaethol a throsi'r wlad yn Islam Shia.[7] O dan deyrnasiadNader Shah yn y18g, daeth Iran yn bwer mawr yn y byd unwaith eto,[8] ond erbyn y19g arweiniodd cyfres o wrthdaro âRwsia at golledion tiriogaethol sylweddol.[9][10] Yn gynnar yn yr20g cafwyd Chwyldro Cyfansoddiadol Persia. Arweiniodd ymdrechion i wladoli ei gyflenwad tanwydd ffosil gan gwmnïau’r Gorllewin atcoup Eingl-Americanaidd ym 1953, a arweiniodd at fwy o reolaeth unbenaethol odan Mohammad Reza Pahlavi a dylanwad gwleidyddol cynyddol y Gorllewin.[11] Aeth ati i lansio cyfres bellgyrhaeddol o ddiwygiadau ym 1963.[12] Ar ôlChwyldro Islamaidd Iran, sefydlwyd yWeriniaeth Islamaidd bresennol ym 1979 ganRuhollah Khomeini, a ddaeth yn Arweinydd Goruchaf cynta'r wlad.
Ystyrir yn eang bod llywodraeth Iran yn awdurdodaidd, ac mae wedi denu beirniadaeth eang am ei chyfyngiadau a'i cham-driniaeth yn erbynhawliau dynol a rhyddid sifil,[13][14][15][16] gan gynnwys honiadau o sawl ymateb treisgar i brotestiadau torfol, etholiadau annheg., a hawliau cyfyngedig i fenywod a phlant.
Caiff Iran ei hystyried yn bwer rhanbarthol a chanolig, ac mae ei lleoliad yn cael ei gyfri'n strategol ac yn ddaear-wleidyddol (geopolitaidd) ar gyfandir Asia. Mae'naelod sefydlol o'rCenhedloedd Unedig, yrECO, yrOIC, acOPEC. Mae gan y wlad gronfeydd wrth gefn enfawr odanwydd ffosil - gan gynnwys cyflenwad nwy naturiol ail-fwya'r byd a'r bedwaredd gronfa olew fwyaf.[17] Adlewyrchir etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad yn rhannol gan ei 22Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.[18] Mae Iran yn parhau i fod yn gymdeithas luosog sy'n cynnwys nifer ogrwpiau ethnig, ieithyddol a chrefyddol, a'r mwyaf ohonyn nhw yw'rPersiaid, yr Azeris,y Cwrdiaid, y Mazandaranis a'r Lurs.[19]
Mae'r termIran yn tarddu'n uniongyrchol oĒrān mewn Persieg Canol, a gofnodwyd yn gyntaf mewn arysgrif o'r3g yn Naqsh-e Rostam , gyda'r arysgrif Partheg a oedd gydag ef yn defnyddio'r termAryān, yn cyfeirio at yr Iraniaid. Mae'rērān acaryān Iraneg Canol yn ffurfiau lluosog o enwau gentiligēr- (Perseg Canol) acary- (Partheg), ill dau'n deillio o iaith Proto-Iranaidd* arya- (sy'n golygu " Aryan", hy "o'r Iraniaid"),[20][21] a gydnabyddir fel deilliad o'riaith Proto-Indo-Ewropeg*ar-yo-, sy'n golygu "un sy'n ymgynnull (yn fedrus)".[22]
Yn yrieithoedd Iranaidd, ardystir y gentilig fel hunan-ddynodwr, wedi'i gynnwys mewn arysgrifau hynafol a llenyddiaeth yr Avesta.[21] Yn ôl mytholeg Iran, daw enw'r wlad o'r enw Iraj, tywysog chwedlonol a shah[23]
Yn hanesyddol, cyfeiriwyd at Iran felPersia gan awduron o'rGorllewin,[24] gan gynnwys ysgrifauhaneswyr Gwlad Groeg a gyfeiriodd at Iran felPersís (Groeg Hynafol: Περσίς; o'r Hen Berseg𐎱𐎠𐎼𐎿Pārsa),[25] sy'n golygu "gwlad yPersiaid", tra bod Persis ei hun yn un o daleithiau Iran hynafol a elwir heddiw yn Fars.[26] Oherwydd agosatrwydd yrhen Roegiaid a'r Persiaid, parhaodd y term, hyd yn oed ymhell ar ôl yRhyfeloedd Greco-Persia (499-494 CC).
Mae olion dynol mewn pentrefi wedi'u grwpio yn ardalSusa, fel y'u pennir ganddyddio radiocarbon, yn amrywio o 4395-3955 i 3680-3490 CC.[37] Mae yna ddwsinau o safleoedd cynhanesyddol ar draws Llwyfandir Iran, sy'n tystio fod diwylliannau hynafol ac aneddiadau trefol yma yn y bedwaredd mileniwm CC.[38][39][40]
Yn ystod yrOes Efydd, roedd tiriogaeth Iran heddiw yn gartref i sawl gwareiddiad, gan gynnwysElam, Jiroft, a Zayanderud. Datblygodd Elam, yr amlycaf o'r gwareiddiadau hyn, yn y de-orllewin ochr yn ochr â'r rhai ymMesopotamia, a pharhaodd i fodoli hyd nes i ymerodraethau Iran ddod i'r amlwg. Roedd dyfodiad ysgrifennu yn Elam yn gyfochrog âSumer, a datblygwyd sgript mewnElameg (neu 'Elamiteg') yn y drydedd mileniwm CC.[41]
O'r 34ydd i'r 20g CC, roedd gogledd-orllewin Iran yn rhan o ddiwylliantKura-Araxe, a oedd yn ymestyn i'rCawcasws acAnatolia cyfagos. Ers yr ail mileniwm CC, ymgartrefodd yrAssyriaid yng ngorllewin Iran gan ymgorffori'r rhanbarth o fewn eu tiriogaethau.
Erbyn yr ail mileniwm CC, roedd pobloedd hynafol Iran (y Kura-Araxe) wedi cyrraedd yr hyn sydd bellach yn Iran o'r Steppe Ewrasiaidd,[42] gan gystadlu ag ymsefydlwyr brodorol y rhanbarth.[43] Wrth i'r Iraniaid wasgaru i ardal ehangachIran Fwyaf a thu hwnt, roedd ardal Iran heddiw yn cynnwys y Mediaid,Persiaid a'r Parthiaid.
O ddiwedd y10g CC i ddiwedd y7g CC, roedd pobloedd Iran, ynghyd â'r teyrnasoedd "cyn-Iranaidd", yn dod o dan dra-arglwyddiaeth yrYmerodraeth Assyriaidd, a leolwyd yng ngogleddMesopotamia.[44] O dan y breninCyaxares, aeth y Mediaid a'r Persiaid i gynghrair â'r rheolwr Babilonaidd Nabopolassar, yn ogystal â'r cyd- Scythiaid aChimmeriaid o Iran, a gyda'i gilydd fe wnaethant ymosod ar Ymerodraeth Assyria. Drwy'r rhyfel cartref hwn, ysbeiliwyd Ymerodraeth Assyria (616 - 605 CC), a thrwy hynny ryddhawyd y bobl o dair canrif o reolaeth gan Asyria.[44] Wedi uno'r llwythau Mediaid dan y Brenin Deioces yn 728 CC, sefydlwyd Ymerodraeth y Mediaid a oedd, erbyn 612 CC, yn rheoli bron holl diriogaeth Iran heddiw a dwyrainAnatolia.[45] Roedd hyn yn nodi diwedd Teyrnas Urartu hefyd, a gafodd ei goncro a'i diddymu wedi hynny.[46][47]
Un o aelodau enwocaf bywyd gwyllt Iran yw'r cheetah Asiatig sydd mewn perygl difrifol, a elwir hefyd yncheetah Iran, y gostyngwyd ei niferoedd yn fawr ar ôl Chwyldro 1979.[50] Mae llewpard Persia , sef isrywogaeth llewpard mwyaf y byd sy'n byw yn bennaf yng ngogledd Iran, hefyd wedi'i restru fel rhywogaeth sydd mewn perygl. Collodd Iran ei holl lewod Asiatig a'r teigrod Caspia sydd bellach wedi diflannu erbyn rhan gynharach yr 20fed ganrif.[51]
Mae llwyfandir uchel yng nghanol Iran sy'n cynnwys sawlanialwch a chorsdir. Amgylchynnir hyn gan gyfres o gadwyni mynyddig; y pwysicaf yw mynyddoeddZagros i'r gorllewin,mynyddoedd Alborz aKopet i'r gogledd, a rhanbarth anial o fryniau uchel i'r dwyrain.Mynydd Damavand (18,406 troedfedd, 5,610 m), i'r gogledd o Tehran, yw mynydd uchaf y wlad.
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn y gogledd-orllewin ac ar lanMôr Caspia, sy'n cael y rhan fwyaf o'r glaw; mewn rhannau o'r de a'r dwyrain mae glaw yn brin iawn. Dyma'r 18ed gwlad mwyaf o ran arwynebedd (sef 1,648,195 km², 636,372 milltir sgwâr) a phoblogaeth o dros 70 miliwn.
Er bod y mwyafrif o bobl Iran yn Bersiaid (Iraniaid), ceir yn ogystal sawl grwp ethnig llai, yn arbennig ar ymylon y wlad, e.e.Tyrciaid,Cyrdiaid,Armeniaid acArabiaid, a llwythau brodorol lleiafrifol fel yBakhtyari.
Yn yr hen BersiaZoroastriaeth, crefydd y proffwydZarathustra, oedd y brif grefydd. Datblygodd y grefydd allan o'r grefyddamldduwaidd frodorol gydaAhura Mazda yn brif dduw acAnahita yn dduwies boblogaidd. CymeroddIslam lle'r hen grefydd gyda dyfodiad yr Arabiaid ond parhaodd Zoroastriaeth serch hynny ac mae'r grefydd yn dal i oroesi mewn mannau. Heddiw mae mwyafrif helaeth y boblogaeth yn FwslemiaidShia. Ymhlith canolfannau crefyddol Iran y maedinas sanctaiddQom sy'n atynnu nifer o bererinion.
Ali Khamenei yn pleidleisio yn etholiad arlywyddol 2017
Mae'r system wleidyddol wedi ei sefydlu ar Gyfansoddiad 1979. Yr Uwch Arweinydd sy'n gyfrifol am oruchwylio polisiau'r Llywodraeth.[52] Ef sy'n gyfrifol hefyd am y fyddin a diogelwch y wlad a'r unig un a gaiff benderfynu mynd i ryfel.
Llywydd presennol Iran ydyHassan Rouhani, a gafodd ei ethol yn 2013; bydd ei dymor yn dod i ben yn 2017.
Enwog yn y gorffennol am ei grefftwaith cain a'i charpedi moethus, heddiw mae Iran yn wlad sy'n perchen ar rhai o'r cronfeyddolew pwysicaf yn y byd: ei chronfeydd nwy yw'r ail fwyaf drwy'r byd, yn dilynrwsia, gyda 33.6 triliwn metr ciwb[53] a'r drydedd wlad fwyaf o ran y cynhyrchu, yn dilynIndonesia a Rwsia.
Rhennir Iran yn 31talaith (ostān), a reolir gan lywodraethwyr apwyntiedig (استاندار,ostāndār). Rhennir y taleithiau hyn yn siroedd (shahrestān), a rhennir yn ardaloedd (bakhsh) ac is-ardaloedd (dehestān) yn eu tro.[54]
Taleithiau Iran
Nid yw'r map yn dangos ynysoedd deheuol talaithHormozgan (#20 isod):
↑A. Fishman, Joshua (2010).Handbook of Language and Ethnic Identity: Disciplinary and Regional Perspectives (Volume 1).Oxford University Press. t. 266.ISBN978-0-19-537492-6." "Iran" and "Persia" are synonymous" The former has always been used by the Iranian speaking peoples themselves, while the latter has served as the international name of the country in various languages
↑Whatley, Christopher (2001).Bought and Sold for English Gold: The Union of 1707. Tuckwell Press.
↑Jeffreys, Elizabeth; Haarer, Fiona K. (2006).Proceedings of the 21st International Congress of Byzantine Studies: London, 21–26 August, 2006, Volume 1. Ashgate Publishing. t. 29.ISBN978-0-7546-5740-8.
↑A. Fishman, Joshua (2010).Handbook of Language and Ethnic Identity: Disciplinary and Regional Perspectives (Volume 1).Oxford University Press. t. 266.ISBN978-0-19-537492-6." "Iran" and "Persia" are synonymous" The former has always been used by the Iranian speaking peoples themselves, while the latter has served as the international name of the country in various languages
↑Persia,Encyclopædia Britannica, "The term Persia was used for centuries... [because] use of the name was gradually extended by the ancient Greeks and other peoples to apply to the whole Iranian plateau."
↑Wilson, Arnold (2012). "The Middle Ages: Fars".The Persian Gulf (RLE Iran A). Routledge. t. 71.ISBN978-1-136-84105-7.
↑J. D. Vigne; J. Peters; D. Helmer (2002).First Steps of Animal Domestication, Proceedings of the 9th Conference of the International Council of Archaeozoology. Oxbow Books, Limited.ISBN978-1-84217-121-9.
↑"Emergence of Agriculture in the Foothills of the Zagros Mountains of Iran", by Simone Riehl, Mohsen Zeidi, Nicholas J. Conard – University of Tübingen, publication 10 Mai 2013
Dynodirgwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol ganlythrennau italig. 1 Cydnabyddir ganDwrci yn unig. 2 Gyda'r mwyafrif o'i thir ynAffrica. 3 YnNe Orllewin Asia yn gyfan gwbwl, ond ystyrir yn rhan oEwrop am resymau hanesyddol, gwleidyddol, ac/neu diwylliannol. 4 Yn rhannol neu ddim o gwbwl yn Ewrop, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 5 Ystyrid weithiau yn rhan oOceania. 6 Gyda lleiafrif o'i thir yn Asia. 7 Ystyrid ynysforSocotra yn rhan o Affrica. 8 Gweinyddir gan Weriniaeth Pobl Tsieina. 9 Nid yn llwyr annibynnol.