Clwbpêl-droed proffesiynol oLoegr ywIpswich Town Football Club (a elwir hefyd yn 'Ipswich', 'The Tractor Boys', 'Town' a 'The Blues'). Lleolir y clwb ynIpswich,Suffolk. Maent yn chwarae ynUwch Gynghrair Lloegr yn sgil gorffen yn ail yn y Bencampwriaeth, ail haen systemgynghrair pêl-droed Lloegr, yn nhymor 2023–4.
Sefydlwyd y clwb ym 1878 ond ni wnaethant droi’n broffesiynol tan 1936. Fe’i hetholwyd i ymuno â’r Gynghrair Bêl-droed ym 1938. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Portman Road yn Ipswich. Ipswich yw'r unig glwb pêl-droed cwbl broffesiynol yn Suffolk ac mae ganddyn nhw berthynas gystadleuol hirsefydlog a ffyrnig âNorwich City ynNorfolk. Mae'r ddau dîm wedi cystadlu yng ngêm darbiEast Anglia 148 o weithiau ers 1902.[1] Roedd Ipswich yn un o aelodau cychwynnolUwch Gynghrair Lloegr yn 1992. Lliwiau cartref traddodiadol y clwb yw crysau glas gyda siorts gwyn a sanau glas.
Mae Ipswich wedi ennill teitl cynghrair Lloegr unwaith, yn eu tymor cyntaf yn yr adran uchaf yn 1961–62, ac wedi gorffen yn ail ddwywaith, yn 1980–81 a 1981–82. Fe wnaethant ennillCwpan FA ym 1977–78, aChwpan UEFA ym 1980–81. Maent wedi cystadlu ym mhob un o’r tair cystadleuaeth clwb Ewropeaidd, ac nid ydynt erioed wedi colli gartref mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, gan drechuBarcelona,Real Madrid,A.C. Milan,Inter Milan, aLazio, ymhlith eraill.[2]
Sefydlwyd y clwb fel tîm amatur yn 1878 ac fe'u gelwid yn Ipswich A.F.C. tan 1888 pan unwyd â’r Ipswich Rugby Club i ffurfio Ipswich Town F. C.[3] Enillodd y tîm nifer o gystadlaethau cwpan lleol, gan gynnwys y Suffolk Challenge Cup a’r Suffolk Senior Cup.[4] Ar ôl chwarae yn y Norfolk & Suffolk League o 1899 a’r South East Anglian League rhwng 1903 a 1906, fe wnaethant ymuno â’r Southern Amateur League yn 1907 ac wedi i’w canlyniadau wella’n gyson fe ddaethant yn bencampwyr yn nhymor 1921–22.[5] Enillodd y clwb y gynghrair dair gwaith arall, yn 1929–30, 1932–33 a 1933–34, cyn dod yn aelodau sylfaen yr Eastern Counties Football League ar ddiwedd tymor 1934–35. Flwyddyn yn ddiweddarach, troes y clwb yn broffesiynol ac ymuno â’r Southern League. Enillwyd y gynghrair honno ganddynt yn eu tymor cyntaf a daethant yn drydydd yn y flwyddyn ganlynol.
Etholwyd Ipswich i'r Gynghrair Bêl-droed ar 30 Mai 1938, a buont yn chwarae yn y Drydedd Adran (De) tan ddiwedd tymor 1953–54, pan enillwyd yr adran honno ganddynt a'u dyrchafu i’r Ail Adran.
Dyrchafiad a llwyddo yn yr Adran Gyntaf (1954–1963)
Cwympodd y clwb yn syth yn ôl i’r Drydedd Adran (De) y flwyddyn ganlynol ar ddiwedd tymor gwael, ond gwnaethant well cynnydd wedi i Alf Ramsey ddisodli Scott Duncan fel rheolwr ym mis Awst 1955. Enillodd y clwb y Drydedd Adran (De) eto yn 1956–57, a dychwelyd i'r adran uwch. Y tro hwn, ymsefydlodd Ipswich yn yr Ail Adran, gan ennill dyrchafiad, fel pencampwyr yr adran, i lefel uchaf pêl-droed Lloegr, yr Adran Gyntaf, yn 1960–61.[6]
Yn yr adran uchaf am y tro cyntaf, daeth Ipswich yn Bencampwyr y Gynghrair Bêl-droed ar yr ymgais gyntaf ym 1961–62.[7][8] Fel pencampwyr cynghrair Lloegr, fe wnaethant gymhwyso ar gyferCwpan Ewrop 1962–63, gan drechu Malta Floriana 14–1 rhwng dwy geêm cyn colli i A.C. Milan. Gadawodd Ramsey y clwb ym mis Ebrill 1963 i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol Lloegr; ar ôl i'r tîm ennillCwpan y Byd 1966, fe’u hurddwyd yn farchog am ‘wasanaeth i bêl-droed’ yn 1967.[9]
Rhaglen Ipswich – AC Milan, Cwpan Ewrop 1962–63, yn amgueddfa San Siro yn 2005
Dilynwyd Ramsey gan Jackie Milburn, a fuasai'n chwaraewyr ymosodol enwog iNewcastle United. Ond o dan ei arweiniad ef fe blymiodd ffawd y tîm ar y cae. Ddwy flynedd ar ôl ennill y gynghrair, llithrodd Ipswich i lawr i’r Ail Adran yn 1964, gan ildio 121 o goliau mewn 42 gêm – un o’r recordiau amddiffynnol gwaethaf erioed ym mhêl-droed proffesiynol Lloegr.[10]
Gadawodd Milburn ar ôl un tymor llawn yn unig a daeth Bill McGarry yn ei le yn 1964. Arhosodd y clwb yn yr Ail Adran am bedair blynedd nes i McGarry arwain Ipswich i ddyrchafiad gyda’i gynorthwyydd Sammy Chung yn nhymor 1967–68. Enillwyd yr adran un pwynt ar y blaen iQueens Park Rangers.[11]
Gadawodd McGarry i reoliWolves a daethBobby Robson yn ei le ym mis Ionawr 1969. Roedd Robson wedi chwarae i dîm Lloegr ar ugain achlysur, gan sgorio pedair gôl. Cyn cael ei benodi yn Ipswich ei unig brofiad o reoli tîm proffesiynol oedd ychydig fisoedd ynFulham yn 1968. Sicrhaodd y swydd yn Ipswich wedi iddo gwrdd ar hap ag un o gyfarwyddwyr y clwb, Murray Sangster, pan oedd yn sgowtio yn Portman Road ar ran rheolwrChelsea, Dave Sexton.[12]
Arweiniodd Robson Ipswich i ddau dlws mawr a sawl tymor yn y cystadleuaethau Ewropeaidd. Dechreuodd y cyfnod llwyddiannus ym 1973 pan enillodd y clwb Gwpan Texaco a gorffen yn bedwerydd yn y gynghrair, gan gymhwyso ar gyfer Cwpan UEFA am y tro cyntaf. Yn nhymor 1974–75 fe gyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan FA am y tro cyntaf, gan golli i West Ham United ar ôl ailchwarae, a gorffen yn drydydd yn y gynghrair.
Erbyn diwedd y 1970au, roedd Robson wedi adeiladu tîm cryf gyda thalent ym mhob rhan o’r cae. Arwyddodd y ddau chwaeraewr o'rIseldiroedd, Arnold Mühren a Frans Thijssen, i ychwanegu sbarc i dîm a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol o Brydain gan gynnwys John Wark, Terry Butcher a Paul Mariner, er bod carfan Ipswich efallai heb ddyfnder clybiau mawr sefydledig fel Lerpwl a Manchester United.
Yn y cyfnod hwn roedd Ipswich i’w gweld yn gyson ym mhump uchaf y gynghrair ac yng Nghwpan UEFA. Ar eu hanterth yn nhymor 1979–80, fe guron nhw Manchester United 6–0 mewn gêm gynghrair yn Portman Road, gêm lle arbedodd golwr United Gary Bailey dair cic gosb hefyd. Costiodd y golled ddau bwynt i United – sef y bwlch rhyngddyn nhw a’r pencampwyr Lerpwl ar ddiwedd y tymor.[13]
Daeth llwyddiant mawr ym 1978 pan gurodd IpswichArsenal yn Stadiwm Wembley i ennill eu hunig Gwpan FA.[14] Dilynwyd hynny gan fuddugoliaeth yng Nghwpan UEFA yn 1981 sgil trechu AZ Alkmaar 5–4 yn y rownd derfynol dros ddau gymal. Bu i’r rhediad i'r rownd derfynol gynnwys buddugoliaeth o 4–1 yn St Etienne, lle roeddMichel Platini yn gapten ar y pryd.[15] Gorffennodd y clwb hefyd yn ail yn y gynghrair ym 1981 a 1982.[16][17][18]
Roedd llwyddiant Robson gydag Ipswich wedi denu sylw llawer o glybiau mwy, ac fe gafodd ei gysylltu â Manchester United pan ddiswyddwyd Dave Sexton ym mis Mai 1981, ond aeth y swydd i Ron Atkinson.Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a ddenodd Robson i ffwrdd o Portman Road flwyddyn yn ddiweddarach, pan dderbyniodd eu cynnig i reoli tîm cenedlaethol Lloegr ym mis Gorffennaf 1982.
Diraddio ar ôl Robson a dyrchafiad o dan Lyall (1982–1994)
Olynydd Robson yn Ipswich oedd ei reolwr cynorthwyol Bobby Ferguson. O dan Ferguson, gorffennodd Ipswich ddwywiath tua chanol y tabl,[19][20] ond gyda dirywiad yn safon y chwarae dechreuwyd cael trafferth i aros yn yr adran uchaf. Roedd adeiladu stand newydd wedi cyfyngu ar gyllideb y clwb, er gwaethaf yr arian a gafwyd o werthu chwaraewyr allweddol megis Frans Thijssen a John Wark.
Cafodd Ipswich eu diraddio i’r Ail Adran ar ddiwedd tymor 1985–86. Gwerthwyd Terry Butcher, eu chwaraewr allweddol olaf o dîm llwyddiannus 1981, iRangers yr haf hwnnw.[21][22] Ymddiswyddodd Ferguson, a oedd wedi aros wrth y llyw er gwaethaf y diraddio, ym mis Mai 1987 ar ôl cyrraedd y gemau ail-gyfle ond methu ag ailesgyn i'r Adran Gyntaf. Penodwyd yr Albanwyr John Duncan yn rheolwr. Roedd y tîm yn dal yn yr Ail Adran pan gafodd ef ei ddiswyddo ar 8 Mai 1990.
Ei olynydd oedd cyn-reolwrWest Ham, John Lyall.[23] O dan arweinyddithiaeth Lyall enillodd Ipswich yr Ail Adran a'u dyrchafu i Uwch Gynghrair newydd yr FA, yn barod ar gyfer tymor 1992–93.[24] Wedi wyth gêm o’r tymor hwnnw, Ipswich oedd yr unig dîm diguro yn yr Uwch Gynghrair. Roeddent yn bedwerydd ym mis Ionawr 1993 yn sgil colli dwy gêm yn unig.[25] Ond wedi hynny gwelwyd dirywiad a gorffennodd y clwb yn yr 16eg safle.[26] Bu’r tymor canlynol yn un anodd a llwyddodd Ipswich i osgoi diraddio o drwch blewyn wedi iSheffield United ildio gôl yn amser anafiadau a cholli 3–2 ynChelsea ar ddiwrnod olaf y tymor. Chwe mis yn ddiweddarach, nid oedd safon y chwarae wedi gwella, a diswyddwyd Lyall fel rheolwr ym mis Rhagfyr 1994 a’r clwb wedi ei sodro i waelod yr Uwch Gynghrair.
Diraddio ac adfywio o dan George Burley (1994–2002)
Ni lwyddodd olynydd Lyall,George Burley, i weddnewid perfformiadau’r tîm, a dioddefodd Ipswich eu canlynaid gwaethaf yn yr Uwch Gynghrair drwy golli 9–0 iManchester United ar eu ffordd i gael ei diraddio.[27][28] Yn ôl yn ail haen y gynghrair, fe arweiniodd Burley y clwb i’r gemau ailgyfle deirgwaith o’r bron, ond cawsant eu trechu yn y rownd gynderfynol bob tro. Dychwelodd Ipswich i’r Uwch Gynghrair o’r diwedd yn 2000 ar ôl dod o’r tu ôl i guroBarnsley 4–2 ynStadiwm Wembley.
Perfformiodd Ipswich yn rhagorol yn eu tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair drwy orffen yn y pumed safle, gan idlio lle yng Nghynghrair y Pencampwyr i Lerpwl ar ddiwrnod olaf y tymor. Roedd cysur i’w gael y ffaith i’r tîm sirhau lle yng Nghwpan UEFA ac i Burley ennill Gwobr Rheolwr y Flwyddyn yn yr Uwch Gynghrair.[29]
Fodd bynnag, dim ond un fuddugoliaeth a gafodd y tîm yn eu dwy gêm ar bymtheg gyntaf yn y gynghrair y tymor canlynol gan eu gadael ar y gwaelod ym mis Rhagfyr. Er gwaethaf rhediad da ym mis Ionawr a mis Chwefror, ni allai Burley arbed y clwb rhag cael ei ddiraddio’n ôl i'r Bencampwriaeth. Yn sgil colli incwm oherwydd diraddiad aeth y clwb i weinyddiaeth ariannol.[30] Cafwyd peth cysur unwaith eto drwy gyfrwng Cwpan UEFA, y tro hwn ar sail cynllun Chwarae TegUEFA, a goroesodd Ipswich ddwy rownd cyn colli yn yr ail rownd lawn i Slovan Liberec o’rWeriniaeth Siec.[31] Cafwyd dechrau araf i'r tymor hwnnw yn y gynghrair, gan gynnwys colli 0-3 iGrimsby Town, a chafodd Burley ei ddiswyddo ym mis Hydref 2002 ar ôl bron i wyth mlynedd.[32]
Cafodd hyfforddwr y tîm cyntaf, Tony Mowbray, bedair gêm fel rheolwr dros dro, gan ennill unwaith, ond cafodd ei ddisodli fel rheolwr gan gyn-reolwr Oldham Athletic, Everton a Manchester City, Joe Royle, a oedd wedi chwarae i’r gelyn lleol Norwich City.[33] Etifeddodd Royle dîm a oedd yn ymlafnio tua gwaelod yr Adran Gyntaf, ond adfywiodd hynt y tîm fel eu bod bron â chyrraedd y gemau ailgyfle.[34] Yn nhymor 2003–04 daeth y clwb allan o weinyddiaeth a pharhau i gystadlu am ddyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair.[35] Gorffennon nhw'r tymor hwnnw yn bumed, ond fe'u trechwyd yn rownd gynderfynol y gemau ailgyfle gan West Ham United.[36]
Yn sgil methu â chael dyrchafiad uniongyrchol yn 2004–05, aeth Royle ag Ipswich i'r gemau ailgyfle, ond unwaith eto fe gollon nhw i West Ham United yn y rownd gynderfynol.[37] Yn 2005–06 gorffennodd Ipswich yn y pymthegfed safle – y safle isaf i’r clwb ers 1966.[38] Ymddiswyddodd Joe Royle gyda chydsyniad y clwb ar 11 Mai 2006,[39] a mis yn ddiweddarach, enwyd Jim Magilton yn rheolwr newydd.[40] Ym mis Tachwedd 2007, bu'r clwb yn rhan o drafodaethau gyda'r gŵr busnes Marcus Evans a chyn-gyfarwyddwr Birmingham City, David Sullivan.[41][42] Ym mis Rhagfyr 2007, prynodd Evans gyfran o 87.5% yn y clwb, gan fuddsoddi oddeutu £ 44 miliwn, a oedd yn cynnwys prynu dyled y clwb o £32 miliwn.[43] Cytunodd Ipswich gytundeb nawdd gyda Grŵp Marcus Evans ar 20 Mai 2008, a barhaodd tan 2018, yr hwyaf yn hanes y clwb.[44]
Ar ôl methu â chyrraedd y gemau ailgyfle er gwaethaf buddsoddiad sylweddol, diswyddwyd Magilton ym mis Ebrill 2009, ac fe apwyntiwyd Roy Keane yn ei le gan y Prif Weithredwr newydd, Simon Clegg.[45] Daeth cyfnod Keane fel rheolwr i ben ar ôl 18 mis aflwyddiannus, pan gafodd ei ddiswyddo ym mis Ionawr 2011. Bu Ian McParland yn rheolwr dros dro cyn i Paul Jewell gymryd yr awenau yn barhaol.[46] Cafwyd dechrau gwael i’r tymor newydd gydag Ipswich ar waelod y Bencampwriaeth ar ôl ennill dim ond un o’u deuddeg gêm gyntaf. Gadawodd Jewell ei swydd ar 24 Hydref 2012 gyda chydsyniad y clwb.[47]
Bu Chris Hutchings yn rheolwr dros dro ar gyfer un gêm, cyn i gyn-reolwr Wolves, Mick McCarthy, gael ei benodi ar 1 Tachwedd 2012.[48] Diogelodd McCarthy statws Ipswich yn y Bencampwriaeth, gan fynd â nhw o waelod y gynghrair ym mis Tachwedd i orffen yn y 14eg safle,[49] nawfed y tymor canlynol[50] ac yn 2014–15 yn y chweched safle a'r gemau ailgyfle. Ond collodd y clwb yn y rownd gynderfynol i Norwich City.[51] Daeth Ipswich i ben tymor 2016–17 yn yr 16eg safle, eu safle isaf ers tymor 1958–59.[52] Ar 23 Mawrth 2018, cyhoeddodd McCarthy y byddai’n gadael y clwb ar ddiwedd ei gytundeb ar ddiwedd tymor 2017–18. Fodd bynnag, yn dilyn buddugoliaeth 1–0 dros Barnsley ar 10 Ebrill 2018, gadawodd McCarthy yn gynnar a chyhoeddi ei ymddiswyddiad.[53] Bu Bryan Klug yn rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor.[54] Gorffennodd Ipswich yn 12fed ar ddiwedd y tymor.
Ar 30 Mai 2018, penodwyd Paul Hurst yn rheolwr newydd y clwb ar gontract tair blynedd.[55] Ond cafodd Ipswich ddechreuad trychinebus i’r tymor, gan gipio un fuddugoliaeth yn unig yn eu pedair gêm ar ddeg agoriadol yn y gynghrair. Gyda’r tîm ar waelod y tabl, cafodd Hurst ei ddiswyddo ym mis Hydref 2018 ar ôl llai na phum mis wrth y llyw – gan hynny ef, yw’r rheolwr byrraf ei wasanaeth yn hanes y clwb.[56] Penodwyd cyn-reolwr Norwich, Paul Lambert, yn ei le ar 27 Hydref.[57] Yn y pen draw, ni lwyddodd Lambert i wella canlyniadau'r tîm a chafodd y clwb ei israddio yn swyddogol ar 13 Ebrill 2019, gan ddod ag arhosiad 17 mlynedd yn y Bencampwriaeth i ben. Gan hynny, aeth y clwb i drydedd haen y Gynghrair am y tro cyntaf ers 1957.[58]
Cynghrair Un (2019–2023) a dychwelyd i'r Uwch Gynghrair yn 2024
Arhosodd Lambert fel rheolwr ar gyfer y tymor newydd yn y drydedd haen. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr 11eg safle, safle isaf y clwb ers 1953. Penderfynwyd ar y safleoedd terfynol ar sail pwyntiau-y-gêm oherwydd cwtogi'r tymor ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i'r panedemigCOVID-19.[59] Ar ôl methu â chynnal ymdrech ystyrlon i enilll dyrchafiad yn ystod y tymor canlynol, gadawodd Lambert y clwb trwy gydsyniad ar 28 Chwefror 2021.[60] Penodwyd cyn bennaeth Wigan, Paul Cook, yn ei le dridiau'n ddiweddarach.[61]
Ar 7 Ebrill 2021, cyhoeddodd y clwb fod Gamechanger 20 Cyf., grŵp buddsoddi oUDA, wedi prynu cyfran fwyafrifol. Roedd y consortiwm yn cynnwys grŵp buddsoddi ORG o Ohio, y 'Three Lions Fund' (sy'n cynnwys tri aelod o fwrdd Phoenix Rising FC) a'r cyn-berchennog Marcus Evans, a arhosodd yn gyfranddaliwr lleiafrifol.[62] Gorffennodd Ipswich dymor 2020–21 yn y nawfed safle, tri lle y tu allan i’r gemau ail gyfle.[63] Roedd disgwyliadau yn uchel ar gyfer y tymor canlynol, ond yn dilyn cyfres o ganlyniadau siomedig, cafodd Cook ei ddiswyddo ym mis Rhagfyr 2021.[64] Ar 16 Rhagfyr 2021, penodwyd Kieran McKenna, hyfforddwr tîm cyntafManchester United, i gymryd lle Cook, gyda Martyn Pert yn gynorthwyydd iddo.[65] Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr 11eg safle.
Kieran McKenna a chwaraewyr Ipswich yn dathlu ar ôl sicrhau ail ddyrchafiad mewn dwy flynedd ym Mai 2024.
Yn nhymor llawn cyntaf Mckenna wrth y llyw, roedd y tîm yn fwy llwyddiannus. Yn dilyn rhediad diguro o ddeunaw gêm gynghrair dyrchafwyd Ipswich yn ôl i'r Bencampwriaeth. Gorffennodd Ipswich y tymor yn yr ail safle, gyda record clwb o 98 pwynt a 101 o goliau cynghrair.[66]
Yn sgil ennill gêm olaf tymor 2023-24, seliodd Ipsiwch ddyrchafiad am yr eildro mewn dwy flynedd, y pumed tîm i wneud hynny. Cawsant eu dyrchafu yn yr ail safle wedi 22 o flynyddoedd y tu allan i'r haen uchaf.[67] Daethant yn ail gyda 96 phwynt a 92 o goliau, y nifer uchaf yn y gynghrair.[68][69]
Rhwng 1878 a 1884, chwaraeai Ipswich Town ar ddau faes yn y dref, sef Broom Hill a Brook’s Hall.[70] Yn 1884, symudodd y clwb i Portman Road ac maent yn chwarae yno ers hynny.[70] Yn eu cartref newydd, yn 1890, Ipswich oedd un o’r clybiau cyntaf i ddefnyddio rhwydi gôl. Ni ddechreuwyd datbygu’r maes o ddifri hyd nes 1901, pan adeiladwyd ffatri brosesu tybaco wrth ei ymyl deheuol.[70]
Adeiladwyd y stand gyntaf (a oedd â strwythur pren) ar ochr Portman Road o’r cae yn 1905. Yn 1911 chwythwyd y to i ffwrdd, ac yn ddiweddarach cafodd y maes ei meddiannu ganFyddin Prydain trwy gydoly Rhyfel Byd Cyntaf.[71] Troes y clwb yn broffesiynol yn 1936, a dechreuodd y gwaith ar y banc teras cyntaf ym mhen gogleddol y maes. Y flwyddyn ganlynol, yn sgil ennill Cynghrair y De, adeiladwyd teras tebyg ym mhen deheuol y 'Churchmans'. Rhoddwyd teras ar bob ochr erbyn 1954 a chodwyd llifoleuadau yn 1959.[70]
Yn 1971, adeiladwyd y Portman Stand ar ddwy lefel ar hyd ochr ddwyreiniol y maes yn lle'r terasau, ac estynnwyd Stand y Gorllewin yn 1982 trwy ychwanegu trydedd lefel. Ailenwyd Stand y Gorllewin yn Pioneer Stand o ganlyniad i noddi’r clwb gan y cwmni electroneg Pioneer Corporation ac fe’i troswyd i fod â seddi yn unig yn 1990. Yn y flwyddyn honno, yn dilyn argymhellion Adroddiad Taylor yn sgilTrychineb Hillsborough y flwyddyn flaenorol, troswyd y terasau yn y standiau gogledd a de yn seddi yn unig, gan greu'r stadiwm holl-sedd gyflawn gyntaf yn lefel uchaf pêl-droed yn Lloegr gyda chapasiti o 22,600.[70]
Arweiniodd llwyddiant ar y cae at fuddsoddiad pellach yn yr isadeiledd, wrth i'r clwb wario dros £22 miliwn ar ailddatblygu standiau’r Gogledd a’r De, gan arwain at gapasiti cyfredol o 30,311, y capasiti mwyaf mewn cae pêl-droed yn East Anglia. Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, dadorchuddiwyd cerfluniau o Syr Alf Ramsey a Syr Bobby Robson y tu allan i'r stadiwm.[72][73] Ailenwyd Stand y Gogledd er anrhydedd i'r cyn-reolwr Bobby Robson ym mis Medi 2009. Ar 31 Mawrth 2012, ar y cyd â dathlu hanner canrif ers i Ipswich Town ennill yr Adran Gyntaf ar eu hymgais gyntaf, ailenwyd Stand y De er anrhydedd i gyn-reolwrLloegr ac Ipswich, Syr Alf Ramsey. Erbyn hyn, felly, mae gan Portman Road ddwy stand wedi eu henwi ar ôl dau reolwr mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb, a dau reolwr mwyaf llwyddiannus Lloegr. Ar 10 Gorffennaf 2012, ailenwyd Stand y Gorllewin, a elwid gynt yn Pioneer Stand a’r Britannia Stand, yn East of England Co-operative Stand yn dilyn cytundeb nawdd gyda’r East of England Co-operative Society.[74] Enwyd Stand y Dwyrain, yr hen Portman Stand, yn Cobbold Stand, ar ôl cyn berchnogion y clwb.[75]
Mae'r arwyneb chwarae yn Portman Road yn uchel ei barch ac fe'i pleidleisiwyd y cae gorau yn y gynghrair ar sawl achlysur. Derbyniodd y cyn-dirmon, Alan Ferguson, nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Tirmon Uwch Gynghrair y Flwyddyn a Thirmon y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.[76][77] Mae'r stadiwm hefyd wedi cynnal llawer o gemau rhyngwladol ieuenctid Lloegr, ac un gêm ryngwladol gyfeillgar i Loegr, yn erbyn Croatia yn 2003.[78]
Llysenw diweddar ar gyfer Ipswich yw ‘The Tractor Boys’, a fathwyd yn ystod cyfnod y clwb yn yr Uwch Gynghrair rhwng 2000-01 a 2001–02, pan oeddent yn cystadlu’n gyson yn erbyn clybiau mwy ffasiynol. Mae'r llysenw yn enghraifft o hiwmor hunanddibrisiol sy'n cyfeirio at dreftadaeth amaethyddol ardal Ipswich. Nid yw gwreiddiau'r llysenw’n sicr, ond derbynnir yn gyffredinol iddo ddod i'r amlwg yn dilyn gêm yn erbynLeeds United yn 2000–2001: roedd Ipswich yn ennill y gêm 2-1 a dechreuodd cefnogwyr Leeds ganu, ‘We're being beaten by a bunch of tractor drivers’. Fe wnaeth heclo gan gefnogwyr clybiau mwy sefydledig yn yr Uwch Gynghrair arwain at y defnydd o’r siant eironig ‘1–0 to the Tractor Boys’ gan gefnogwyr Ispwich. Erbyn heddiw, defnyddir y llysenw yn gyffredin gan y cyfryngau.[79][80] Dywedodd cyn-reolwr Ipswich, Jim Magilton, yn y wasg leol nad oedd yn hoff o’r llysenw a dywedodd ei fod yn cyfleu ‘images of carrot-crunching yokels’,[81] tra bo chwaraewyr fel Matt Holland yn derbyn y siant yn llawen.[82]
Mae gan Ipswich gefnogaeth fyd-eang, ac mae gan Glwb Cefnogwyr Ipswich ganghennau ledled y byd. Mae gan y clwb gysylltiad arbennig o gryf â chlwb Fortuna Düsseldorf yn yr Almaen, gyda chefnogwyr Fortuna yn ymweld yn flynyddol â Portman Road er 2006. Mae cefnogwyr Ipswich hefyd yn trefnu ymweliadau â’r Merkur Spiel-Arena yn Düsseldorf i gefnogi Fortuna yn eu gemau cartref. Trefnodd y ddau glwb gêm gyfeillgar cyn y tymor yn Düsseldorf yn 2015, sef y gêm gyntaf erioed rhwng y ddau.
Prif gystadleuydd y clwb ywNorwich City. Pan fydd y ddau dîm yn cyfarfod, cyfeirir at y gêm fel DarbiDwyrain Anglia, neu, yn anffurfiol, fel yr ‘Old Farm Derby’, cyfeiriad cellweirus at yr ‘Old Firm Derby’ a chwaraeir rhwngCeltic aRangers yn yrAlban ac amlygrwyddamaethyddiaeth yn Nwyrain Anglia. Dechreuodd y gyfres yn gynnar yn yr 20fed ganrif, pan oedd y ddau glwb yn sefydliadau amatur. Cynhaliwyd y darbi cyntaf rhwng y ddau glwb ar 15 Tachwedd 1902, a'r un cyntaf proffesiynol yn 1939. Yn lleol, gwneir yn fawr o’r teitl anffurfiol ‘Pride of Anglia’. Mae cefnogwyr yn hawlio’r teitl am naill ai ennill Darbi Dwyrain Anglia, am orffen uchaf yn y gynghrair, am fod mewn safle gwell yn y gynghrair ar hyn o bryd neu ar sail hawlio hanes mwy llwyddiannus.[83]
Mick Mills sy'n dal y record am ymddangosiadau cynghrair i Ipswichyn sgil chwarae 741 o gemau tîm cyntaf rhwng 1966 a 1982. Prif sgoriwr cynghrair y clwb yw Ray Crawford, a sgoriodd 203 o goliau rhwng 1958 a 1969, tra bo Ted Phillips yn dal y record am y nifer fwyaf o goliau cynghrair mewn tymor, sef 41 yn nhymor 1956–57 yn Nhrydedd Adran y De. Allan Hunter enillodd y nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol tra'n chwaraewr yn y clwb, gan wneud 47 ymddangosiad iOgledd Iwerddon yn ystod ei gyfnod yn Ipswich.[84]
Buddugoliaethau mwyaf y clwb yn y gynghrair yw eu buddugoliaethau 7-0 yn erbynPortsmouth yn yr Ail Adran yn 1964, yn erbynSouthampton yn yr Adran Gyntaf yn 1974 ac yn erbynWest Bromwich Albion yn yr Adran Gyntaf yn 1976. Eu colledion trymaf yn y gynghrair yw 10–1 yn erbynFulham yn 1963 a 9–0 yn erbynManchester United yn 1995.[84]
Torf fwyaf Ipswich gartref yw 38,010 ar gyfer gêm chweched rownd Cwpan FA Lloegr yn erbynLeeds United ar 8 Mawrth 1975. Ers dyfodiad meysydd seddi-yn-unig, mae'n annhebygol y bydd y record hon yn cael ei churo yn y dyfodol agos.[84]
Y ffi drosglwyddo uchaf a dderbyniwyd ar gyfer un o chwaraewyr Ipswich yw £8.1 miliwn fel rhan o gytundeb gwerth dros £12 miliwn ganSunderland ar gyfer Connor Wickham ym mis Mehefin 2011.[85] Y ffi fwyaf a dalwyd gan y clwb yw £20 miliwn am Omari Hutchinson oChelsea ym mis Mehefin 2024, yn dilyn dyrchafiad y clwb i’r Uwch Gynghrair.[84]
Bobby Robson yw'r rheolwr sydd â'r gwasanaeth hwyaf yn y clwb o ran gemau, gan iddo reoli Ipswich ar gyfer 709 o gemau rhwng 1969 a 1982. Scott Duncan yw'r rheolwr â'r gwasanaeth hwyaf o ran amser ar sail rheoli'r clwb am 6,487 o ddiwrnodau rhwng 1937 a 1955.[86]
Mae gan Ipswich record gartref heb ei gorchfygu mewn cystadleuaethau Ewropeaidd. Dechreuodd y record hon yn 1962, pan gymhwysodd y clwb am y tro cyntaf ar gyferCwpan Ewrop. Am 45 mlynedd, Ipswich oedd yn dal y record am y rhediad diguro hwyaf o gemau gartref mewn cystadleuaethau Ewropeaidd, gyda rhediad o 31 gêm gartref heb eu trechu. Mae'r record hon bellach wedi'i thorri gan y clwb o'r Iseldiroedd AZ Alkmaar, ond mae'n parhau i fod yn record i glybiau Prydain.[87]
Rhestrir chwaraewyr yn ôl dyddiad eu gêm gyntaf i'r tîm. Mae ymddangosiadau ar gyfer gemau cystadleuol tîm cyntaf yn unig, gan gynnwys ymddangosiadau fel eilydd, tra bo gemau cwpan amser rhyfel a chwpan lleol (fel yr Ipswich Hospital Cup) wedi eu heithrio.
Roedd yr ystadegau'n gywir ar 18 Gorffennaf 2024.
*
Aelod o Oriel Anfarwolion Ipswich Town
+
Wedi cynrychioli Cymru pan oedd yn chwarae dros Ipswich (gan gynnwys ar fenthyg gyda'r clwb)
↑Cheese, Caroline (31 Gorffennaf 2006)."World Cup 1966 flashback".BBC Sport. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 10 Mai 2007. Cyrchwyd16 Mawrth 2007.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)
↑"Arsenal 7–0 Everton".BBC Sport. 11 Mai 2005. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 6 Rhagfyr 2006. Cyrchwyd17 Mawrth 2007.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)
↑Francis, Tony (23 Chwefror 2003)."Tractor Boys ploughed out".The Daily Telegraph. London. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 14 Hydref 2007. Cyrchwyd16 Mawrth 2007.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)
↑"Town out of UEFA Cup".BBC Suffolk. 14 Tachwedd 2002. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 29 Tachwedd 2002. Cyrchwyd19 Mawrth 2007.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)
↑"Ipswich sack Burley".BBC Sport. 11 Hydref 2002. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 28 Gorffennaf 2004. Cyrchwyd17 Mawrth 2007.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)
↑"FA chooses Portman Road". BBC Sport. 18 Mehefin 2003. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 12 Hydref 2003. Cyrchwyd12 Hydref 2007.Unknown parameter|deadurl= ignored (help)