Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Iorwerth ab y Cyriog

Oddi ar Wicipedia
Iorwerth ab y Cyriog
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Ynys Môn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1350 Edit this on Wikidata
TadGronw Gyriog Edit this on Wikidata

Un oFeirdd yr Uchelwyr a fu yn ei flodau tua chanol y14g oeddIorwerth ab y Cyriog (fl. tua1325 - tua1375). Er nad oes prawf pendant, gellir bod yn weddol hyderus mai mab y barddGronw Gyriog oedd ef a'i fod, fel ei dad, yn hannu oFôn.[1]

Bywyd

[golygu |golygu cod]

Mae'r ychydig a wyddys am y bardd yn deillio o dystiolaeth ei gerddi ei hun a dau gyfeiriad ato yng ngwaith ei gyfoeswyrSefnyn aDafydd ap Gwilym. Yn ei farwnad iddo mae Sefnyn yn awgrymu ei fod ynbencerdd gyda meistrolaeth ar ganu yn nullAneirin (h.y. canu mawl), ac mae'n amlwg fod y ddau fardd yn gyfeillion. Yn ycywydd 'Cae Bedw Madog', awgryma Dafydd ap Gwilym fod Iorwerth wedi canu cerdd i ferch yn gyfnewid am dâl - h.y. fod ei fryd er bethau materol. Ond mae'r ffaith fod dau o feirdd mwyaf y ganrif yn cyfeirio ato o gwbl yn dangos fod y bardd yn adnabyddus ac yn fardd o bwys.[1]

Cerddi

[golygu |golygu cod]

Er ei bod yn debygol iawn fod y bardd yn frodor o Fôn ac yn perchen tir yno, i noddwyr ymMeirionnydd y mae'r cerddi ganddo sydd wedi goroesi. Priodolir pum cerdd iddo, sef dwyawdl (un i Dduw a'r llall i ferch o Feirionnydd o'r enw Efa),cywydd i ddiolch am glasb, cywyddmarwnad i Einion ap Seisyll oFathafarn (plwyfLlanwrin, gerMachynlleth), adychan i Ddrws-y-nant (rhwngLlanuwchllyn aDolgellau).[1] Dim ond y tair cyntaf a dderbynir fel gwaith dilys Iorwerth a cheir cryn ansicrwydd am awduraeth y ddwy olaf. Er mai bychan yw cyfanswm y cerddi a gadwyd, ceir llinellau cofiadwy iawn ynddynt, e.e. am Efa sy'n

Lloer morynion llawr Meirionnydd.[1]

Yn ei gywydd i ddioch am glasb ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf ar glawr atFeddygon Myddfai.[1]

Ceir y testunau hynaf o gerddi Iorwerth ynLlyfr Coch Hergest.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]

Golygir gwaith y bardd gan W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen yn,

  • Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.11.21.31.4Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill.
gw  sg  go
Beirdd yr Uchelwyr

Bedo Hafesb  ·Bleddyn Ddu ·Cadwaladr Cesail ·Casnodyn ·Rhisiart Cynwal ·Wiliam Cynwal ·Dafydd ab Edmwnd ·Dafydd Alaw ·Dafydd ap Gwilym ·Dafydd ap Siencyn ·Dafydd Benwyn ·Dafydd Ddu o Hiraddug ·Dafydd Gorlech ·Dafydd Llwyd o Fathafarn ·Dafydd Nanmor ·Dafydd y Coed ·Edward Dafydd ·Deio ab Ieuan Du ·Lewys Dwnn ·Edward Maelor ·Edward Sirc ·Edward Urien ·Einion Offeiriad ·Gronw Ddu ·Gronw Gyriog ·Gruffudd ab Adda ap Dafydd ·Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan ·Gruffudd ap Dafydd ap Tudur ·Gruffudd ap Llywelyn Lwyd ·Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd ·Gruffudd ap Tudur Goch ·Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed ·Gruffudd Gryg ·Gruffudd Hiraethog ·Gruffudd Llwyd ·Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan ·Guto'r Glyn ·Gutun Owain ·Gwerful Fychan ·Gwerful Mechain ·Gwilym Ddu o Arfon ·Gwilym Tew ·Hillyn ·Huw Cae Llwyd ·Huw Ceiriog ·Huw Cornwy ·Huw Llŷn ·Huw Pennant (I) ·Huw Pennant (II) ·Hywel ab Einion Lygliw ·Hywel ap Mathew ·Hywel Cilan ·Hywel Ystorm ·Ieuan ap Huw Cae Llwyd ·Ieuan ap Hywel Swrdwal ·Ieuan Brydydd Hir ·Ieuan Du'r Bilwg ·Ieuan Dyfi ·Ieuan Gethin ·Ieuan Llwyd ab y Gargam ·Ieuan Tew Ieuanc ·Iocyn Ddu ab Ithel Grach ·Iolo Goch ·Iorwerth ab y Cyriog ·Iorwerth Beli ·Iorwerth Fynglwyd ·Ithel Ddu ·Lewis ab Edward ·Lewys Daron ·Lewys Glyn Cothi ·Lewys Môn ·Lewys Morgannwg ·Llywarch Bentwrch ·Llywelyn ab y Moel ·Llywelyn ap Gwilym Lygliw ·Llywelyn Brydydd Hoddnant ·Llywelyn Ddu ab y Pastard ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon ·Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch ·Llywelyn Goch ap Meurig Hen ·Llywelyn Goch y Dant ·Llywelyn Siôn ·Mab Clochyddyn ·Madog Benfras ·Maredudd ap Rhys ·Meurig ab Iorwerth ·Morus Dwyfech ·Owain Gwynedd ·Owain Waed Da ·Prydydd Breuan ·Tomos Prys ·Gruffudd Phylip ·Phylip Siôn Phylip ·Rhisiart Phylip ·Rhys Cain ·Rhys Nanmor ·Siôn Phylip ·Siôn Tudur ·Raff ap Robert ·Robert ab Ifan ·Robin Ddu ap Siencyn ·Rhisierdyn ·Rhisiart ap Rhys ·Rhys ap Dafydd ab Einion ·Rhys ap Dafydd Llwyd ·Rhys ap Tudur ·Rhys Brydydd ·Rhys Goch Eryri ·Sefnyn ·Simwnt Fychan ·Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan ·Siôn ap Hywel Gwyn ·Siôn Brwynog ·Siôn Cent ·Siôn Ceri ·Sypyn Cyfeiliog ·Trahaearn Brydydd Mawr ·Tudur Aled ·Tudur ap Gwyn Hagr ·Tudur Ddall ·Wiliam Llŷn ·Y Mab Cryg ·Y Proll ·Yr Ustus Llwyd


Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Iorwerth_ab_y_Cyriog&oldid=9887528"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp