Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Interpol

Oddi ar Wicipedia
Interpol
Math
sefydliad rhynglywodraethol
Sefydlwyd7 Medi 1923
PencadlysLyon
Nifer a gyflogir
756 (2013)
Lle ffurfioFienna
Gwefanhttps://interpol.int Edit this on Wikidata

MaeInterpol yn sefydliad rhyngwladol a grëwyd ar y7 Medi1923, gyda'r nod o hyrwyddo cydweithio rhwngheddluoedd y byd. Lleolir ei phencadlys ynLyon ynFfrainc.

Un o swyddogaethau amlwg Interpol yw cyhoeddihysbysiadau coch, dogfennau rhybudd rhyngwladol, sy'n hwyluso dilyn trywydd troseddwyr sydd eu heisiau. Mae'r dogfennau hyn yn cynnwys elfennau adnabod ac elfennau cyfreithiol yn ymwneud â'r unigolion, ac maent yn cael eu rhannu ar draws 194 o wledydd sy'n aelodau o Interpol. Maent yn hwyluso gwaith heddluoedd cenedlaethol, wrth adnabod, lleoli, ac arestio'r unigolion er mwyn eu hestraddodi.[1].

Ei harwyddair yw "Cysylltu'r heddlu er mwyn byd mwy diogel", a'i nod yw "Atal a mynd i'r afael â throsedd gyda chydweithio rhyngwladol rhwng heddluoedd"[2].

Pencadlys

[golygu |golygu cod]

Lleolir prif swyddfa Interpol yn ardalCité internationale yn Lyon, ar 200 quai Charles-de-Gaule yn y 6ed arrondissement, a hynny ers1 Mai1989. Rhwng1946 a1967 lleolwyd y pencadlys ymMharis, cyn symud iSaint-Cloud.

Yn ogystal, mae saith swyddfa rhanbarthol:

ac mae tri chenhadaeth:

Pencadlys Interpol yn Lyon

Hanes

[golygu |golygu cod]

Sefydlwyd Interpol yn ystod ail Gynghres Rhyngwladol Heddluoedd Troseddol ym1923. Daeth Johann Schober, cyfarwyddwr heddluFienna, â chynrychiolwyr heddluoedd 20 o wledydd ynghyd er mwyn ffurfio Comisiwn Rhyngwladol Heddluoedd Troseddol.

Yn dilyn yrAnschluss ym1938, daeth y Comisiwn dan rheolaeth yGestapo, ac fe drosglwyddwyd y pencadlys o Fienna iBerlin ym1942. Bu i fwyafrif o'r gwledydd oedd yn aelodau peidio â chydweithio. Ail-grëwyd y sefydliad ym1946 dan ofalFfrainc,Gwlad Belg, yDeyrnas Gyfunol a gwledyddScandinafia. Ym1956, diweddarwyd y cyfansoddiad, ac fe'i hail-enwyd ynOrganisation internationale de police criminelle neuInterpol.

Wedi'r rhyfel, polisi mewnol Interpol oedd peidio a dilyn trywydd troseddau oedd yn gysylltiedig â'r drefn Natsïaidd, gan synio eu bod "â natur gwleidyddol".

Fe'i cydnabuwyd fel corff rhyng-lywodraethol gan yCenhedloedd Unedig ym1971, a'r flwyddyn ganlynol llyniwyd cytundeb gyda Ffrainc er mwyn lleoli pencadlys Interpol yno. Yn2003, crëwyd canolfan gyfarwyddo a chydlynnu, ac yn2004, sefydlwyd swyddfa gysylltiol ym mhencadlys y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.

Yn2008 gorfu i Jackie Selebi, llywydd Interpol ar y pryd, ymddiswyddo, wedi iddo gael ei gyhuddo o gael ei lwgrwobrwyo gan fasnachwr cyffuriau. Fe'i dedfrydwyd i 15 mlynedd yn y carchar gan lys ynJohannesburg ar3 Awst2010.

Ar7 Hydref2018, cyhoeddodd Interpol eu bod wedi derbyn ymddiswyddiad Meng Hongwei fel llywydd, nad oedd arwydd ohono wedi iddo ddychwelyd iTsieina ddiwedd fis Medi. Cyhoeddodd swyddfa gwrth-lygredigaeth Tsieina wedi hynny fod ymchwiliadau ar y gweill i dor-cyfraith honedig gan Meng Hongwei.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Le système des notices internationales"(PDF). Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2014-03-15. Cyrchwyd2020-05-02., fiche pratique COM/FS/2012-02/GI-02, interpol.int
  2. Interpol (2014-01-01)."Vision et mission d'Interpol". Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2019-02-05. Cyrchwyd2020-05-02.
  3. "Modification du Protocole d'accord entre l'Union africaine et INTERPOL"(PDF). 2010-11-08. Archifwyd o'rgwreiddiol(PDF) ar 2018-02-23. Cyrchwyd2020-05-02.
  4. "Order on Interpol Work Inside U.S. Irks Conservatives". 2009-12-30.
  5. "Official opening of INTERPOL's office of its Special Representative to the European Union marks milestone in co-operation". 2009-09-25. Archifwyd o'rgwreiddiol ar 2016-11-24. Cyrchwyd2020-05-02.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Interpol&oldid=11014881"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp