Peiriant tanio mewnol V6 o garMercedes.Injan Boulton & Watt; 1788Animeiddiad o'r injan 4-stroc: 1. Mewnsugnad (tanwydd i fewn) 2. Cywasgiad 3. Tanio (llosgir y tanwydd) 4. Allyrru (exhaust)
Peiriant ydyinjan a gynlluniwyd er mwyn trawsnewid un math o ynni yn ynni mecanyddol, symudol. Mae'r injan, fel arfer, yn llosgitanwydd er mwyn creu gwres, sydd yn ei dro'n creu grym symudol. Mae'rmotor trydan yn fath o injan yn yr ystyr ei fod yn trawsnewid ynni trydanol yn symudiad mecanyddol. Gellir dweud, felly, fod y tegan a weindir ei sbring yn fath o injan, gan fod un math o ynni'n cael ei drawsnewid yn fath arall. Felly hefyd, mewnbioleg, gellir dweud mai injan ar ryw ystyr ydyw'rmiosin yn ycyhyrau sy'n defnyddio ynni cemegol i greu egni, ac yna symudiad.
Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae'r gair 'injan' fel arfer yn cyfeirio at fath arbennig o beiriant sy'n defnyddio tanwydd i greu symudiad e.e. injan car,injan stêm, injan ddyrnu neu injan wnïo. Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn 1757 fel bathiad amrwd o'rSaesneg gan rai o deuluMorysiaid Môn:engine ddŵr ag engine wynt ac yna ganWiliam Williams, Pantycelyn yn 1762-79 (P 321):Hwy a oddefasant y Rhufeiniaid i osod i fynu eu hengins ar ddydd Sabbath. Ar y llaw arall, gair modern iawn ydymotor neu 'fodur' na fathwyd tan 1909.[1] Gellir dweud fod 'injan' a 'motor' yn ddau 'beiriant'. Mae'r gair 'injan' yn tarddu o'rLladiningenium.
Injan stêmJames Watt oedd un o'r peiriannau cyntaf i ddefnyddio stêm (neu "ager|") ychydig uwch nagwasgedd atmosfferig i yrru piston, mewngwactod rhanol. Datblygodd Watt yr injan rhwng 1763 AC 1775 a defnyddiwyd ei gynllun gan lawer o ddyfeiswyr ar ei ôl. Fe'i defnyddiwyd gan ffatrioedd ac yna arreilffyrdd. Dyma fan cychwyn yr injan.
Ychydig wedyn, yn 1807, ynFfrainc datblygwyd ypeiriant tanio mewnol gan ddyn o'r enw 'de Rivaz' ac erbyn 1853-57 dyfeisiwyd a chofrestrwydbreinlen (neu 'batent') gan Eugenio Barsanti a Felice Matteucci yr injan 4-cylch.
Karl Benz a greodd ycar masnachol llwyddiannus cyntaf, a daeth creu injan ysgafn, cyflym yn dipyn o her! Defnyddiwyd injans 4-stroc Otto ar gyfer injanspetrol ceir gan fwyaf ac injans disl, hynod o ddarbodus o ran milltiroedd-y-galwyn, ar gyfer faniau, bysiau a loriau.
Yn 1896 cofrestrodd Karl Benz freinlen ar ei gynllun o injan gyda'r pistonau wedi'u gosod yn llorwedd. Dyma'r math a oedd yn gyrru'rVolkswagen Beetle tan yn ddiweddar - a rhai ceir Porsche, Subaru ac awyrennau.