Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Imperialaeth

Oddi ar Wicipedia
Cecil Rhodes yn stradlu cyfandiryr Affrig mewn posterpropaganda ar gyfer rheilffordd oDref y Penrhyn iGairo. Llwyddodd Rhodes i arwainyr Ymerodraeth Brydeinig o flaen grymoedd Ewropeaidd eraill ynyr Ymgiprys am Affrica.

Polisi owledydd grymus yn estyn a chadw rheolaeth, awdurdod neu ddylanwad drosgenhedloedd llai ywimperialaeth, yn aml yn hanesyddol trwy godiymerodraethau. Gall hyn digwydd naill ai trwygoncwestau uniongyrchol neu drwy ddulliau anuniongyrchol megis dylanwadu ar neu reoligwleidyddiaeth neueconomi rhanbarth. Mae imperialaeth yn debyg iwladychiaeth (modd mwy eithafol o gael awdurdod neu ddylanwad, trwygyfeddiannaeth a cholledsofraniaeth).

Hanes

[golygu |golygu cod]

Hanes cynnar

[golygu |golygu cod]

Dechreuodd imperialaeth ynyr henfyd fel cyfres o ymerodraethau mawr, megis ymerodraethAlecsander Fawr a'rYmerodraeth Rufeinig. Cododd rhain pan ceisiodd un pobl, yn aml yn cynrychioligwareiddiad neugrefydd benodol, i dra-arglwyddiaethu ar eraill trwy greu cyfundrefn unedig o reolaeth.

Hen Imperialaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Hen Imperialaeth

Galwyd imperialaethEwropeaidd gynnar ynHen Imperialaeth, a dywedir taw cymhellion ehangiad trefedigaethol tramor o'rbymthegfed i'rddeunawfed ganrif oedd "aur, gogoniant ac efengyl" (sef cyfoeth, pŵer a lledaeniadChristnogaeth). Yn hytrach nag ungwladwriaeth yn ceisio uno'r byd, yn y cyfnod hwn bu nifer o wladwriaethau yn sefydlu rheolaeth wleidyddol drosdiriogaethau ynNe aDe-ddwyrain Asia a'rByd Newydd. Chwaraeodd egwyddorionmercantiliaeth rôl neilltuol, gyda phob ymerodraeth yn ceisiomonopoleiddiomasnachau'u tiriogaethau i elwa cymaint â gallent o'u tiroedd newydd.

Imperialaeth Newydd

[golygu |golygu cod]
Imperialaeth Newyddgw  sg  go )
Codiad Imperialaeth Newydd
Imperialaeth yn Asia
Yr Ymgiprys am Affrica
Diplomyddiaeth y Ddoler
Damcaniaethau ar Imperialaeth Newydd
Prif:Imperialaeth Newydd

Yng nghanoly bedwaredd ganrif ar bymtheg ymddangosoddImperialaeth Newydd, a seilir arfasnach rydd. Ehangodd rym a dylanwad Ewropeaidd, yn enwedig Prydeinig, trwy ddulliaudiplomyddol aceconomaidd, yn hytrach na drwy reolaeth drefedigaethol ffurfiol. Ond ni pharhaodd imperialaeth fasnach rydd am hir: erbyn diwedd y ganrif roedd pwerau Ewrop unwaith eto yn ymarfer imperialaeth ar ffurfcyfeddiannaeth drefedigaethol dramor, yn ymestyn iAffrica,y Dwyrain Canol,Canolbarth aDwyrainAsia a'rCefnfor Tawel.

Imperialaeth Fodern

[golygu |golygu cod]

Ers diweddyr Ail Ryfel Byd, pan diddymodd y mwyafrif o ymerodraethau, cymerodd imperialaeth modern economaidd, sefglobaleiddio, lle yr hen gysyniadau o imperialaeth. Defnyddir reolaeth yn anffurfiol ac yn llai amlwg. Er enghraifft, mae ganUnol Daleithiau America dylanwad cryf dros wledydd datblygol felarchbwer economaidd a'i huchafiaeth mewn sefydliadau ariannol rhyngwladol megisBanc y Byd a'rGronfa Ariannol Ryngwladol. Hefyd, mae gwladwriaethau Ewropeaidd wedi parhau i gael effaith ar wleidyddiaeth ac economeg eu cyn-drefedigaethau (fel dylanwady Deyrnas Unedig ar wledyddy Gymanwlad), ac o ganlyniad maent wedi cael eu cyhuddo oneo-wladychiaeth, sef sofraniaeth effeithiol heb reolaeth ffurfiol.

Cymhellion

[golygu |golygu cod]

Yn hanesyddol, cymellwyd gwladwriaethau i imperialaeth naill ai am resymau economaidd, gwleidyddol, neu ideolegol. Mae damcaniaethau ynglŷn ag imperialaeth yn dilyn yr un drefn, yn ôl pa gymhellion a welir yn flaenaf.

Cymhellion economaidd

[golygu |golygu cod]

Un o brif gymhelliongwladwriaethau ar gyfer imperialaeth yw'r gallu i helaethu'u heconomïau, ennilldeunyddiau crai allafur, a darganfod safleoeddmasnachu. Dau ddamcaniaethwr o fewn yr is-bwnc hwn oeddKarl Marx aLenin.

Cymhellion gwleidyddol

[golygu |golygu cod]

Prif gymhelliad arall ar gyfer imperialaeth ywgwleidyddiaeth: grym, diogelwch, neuddiplomyddiaeth, e.e. ehangiadyr Undeb Sofietaidd ynNwyrain Ewrop ar ôl1945 i ddiogelu'r famwlad rhaggoresgyniad o'r gorllewin.

Cymhellion ideolegol

[golygu |golygu cod]
Cartŵn, gyda'r enw "The White Man's Burden", a gyhoeddwyd ynThe Journal,Detroit yn ystodRhyfel Y Philipinau-Unol Daleithiau America yn dangos Americanwr yn cario brodor an-Orllewinol ystrydebol iysgoldy.

Canolbwyntir un ddosbarth o resymau dros imperialaeth ar gymhellionideolegol amoesol. Yn ôl y safbwynt hwn mae credoau gwleidyddol, diwylliannol neu grefyddol yn arwain gwladwriaethau i weld imperialaeth fel "gweithgaredd cenhadol". Un o gymhellion yr Ymerodraeth Brydeinig oedd y syniad taw "Baich y Dyn Gwyn" oedd hi i wareiddio yr "anwariaid" y tu allan i'rGorllewin. Seilir ehangiad milwroly Drydedd Reich ar gred yNatsïaid yng ngoruchafiaeth yrAlmaenwyr, neu'rAriaid. Yn ystody Rhyfel Oer gwelwyd imperialaeth a yrrir gan bryderon moesol ac ideolegol gan y ddau archbwer: awydd Unol Daleithiau America i "amddiffyn rhyddid" ac awyddyr Undeb Sofietaidd i "ryddhau" poblDwyrain Ewrop a'r byd datblygol.

Damcaniaethau Comiwnyddol ar Imperialaeth

[golygu |golygu cod]

Ni chyhoeddoddKarl Marx gwaith cynhwysfawr ar imperialaeth, er iddo gyfeirio ato ynDas Kapital.

DiffinioddLenin imperialaeth yn "gam uchafcyfalafiaeth", yn benodol, yr oes lle mae cyfalaf monopoli yn tra-arglwyddiaethu. Mae hyn yn gorfodi iwledydd achorfforaethau gystadlu dros reolaethadnoddau a marchanadoedd led-led y byd. Gall hyn fod yn rheolaeth gwleidyddol, milwrol, neu ariannol.

Hanfod damcaniaethau Marxaidd ar imperialaeth yw'r ffaith eu bod yn canolbwyntio ar y berthynaseconomaidd rhwng wledydd, yn hytrach na'u perthynas gwleidyddol swyddogol. Nid yw un wlad o rheidrwydd yn rheoli gwlad arall yn uniongyrchol; yn hytrach, mae un rhanbarth neu grŵp yn goruchafu'n economaidd ar un arall. Mae'r defnydd hwn o'r term, felly, yn wahanol i'r dealltwriaeth arferol ohono fel rhywbeth yn ymwneud âgwladychiaeth yn bennaf.

Yn ôl damcaniaethau Marx, dim ond llafur neu gyfalaf newidiol sy'n creuelw ar ffurf gorwerth. Wrth i'rgymhareb rhwng y gorwerth a'r swm cyfalaf ostwng, gostwng hefyd mae'r cyfradd elw ar fuddsoddiad cyfalaf. Dywedodd Lenin fod imperialaeth yn galluogi i gyfalafwyr o wledydd cyfoethog echdynnu gor-elw o ddosbarth gweithiol gwledydd tlawd, gan alluogi iddynt osgoi gostyngiad yn y cyfradd elw. "Gor-elw" yw'r enw ar elw ar fath am ei fod yn uwch na'r cyfraddau cyfartalog yng ngwledydd yr imperialwyr. Cedwir y rhan fwyaf o'r gor-elw gan y cyfalafwyr eu hunain, ond caiff ychydig ohono ei ranu gyda dosbarth gweithiol y gwlad cyfoethog, er mwyn osgoi chwyldro yno.

Honoddyr Undeb Sofietaidd ei bod yn dilyn egwyddoriol Lenin, a'i bod yn elyn i imperialaeth. Fodd bynnag, ar yr un pryd, roedd yn goruchafu ar wledydd Dwyrain Ewrop. Roedd ei gwrthwynebwyr yn honi fod hyn yn ragrith ar ran y llywodraeth Sofietaidd.

Ymysgcomiwnyddion cyfoes ac eraill, mae llawer yn gweldglobaleiddio yn ffurf fodern ar imperialaeth.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Ffynonellau

[golygu |golygu cod]

Ffynonellau trydyddol

[golygu |golygu cod]
  • Microsoft Encarta Encyclopedia Standard 2005
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon:gor-elw o'r Saesneg "superprofit". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Imperialaeth&oldid=14072300"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp