| Ieuan Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Mawrth 1964 Abertawe |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, entrepreneur |
| Taldra | 178 centimetr |
| Pwysau | 85 cilogram |
| Plant | Cai Evans |
| Gwobr/au | MBE |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Y Barbariaid,Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru,Caerfaddon Rygbi,Clwb Rygbi Llanelli,Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
| Safle | Asgellwr |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyn-chwaraewrrygbi'r undeb Cymreig ywIeuan Evans, (ganed21 Mawrth1964). Enillodd 72 o gapiau drosGymru, fel asgellwr yn bennaf, gan sgorio 33 cais. Er iddo chwarae mewn cyfnod pan nad oedd y tîm cenedlaethol yn llwyddiannus iawn, ystyrir ef yn un o chwaraewyr gorau Cymru.
Ganwyd ef ynMhontarddulais a dechreuodd chwarae rygbi yn yr ysgol ramadeg yngNghaerfyrddin.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli yn 19 oed, pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford. Yn1997 aeth i chwarae iGaerfaddon, gan ennillCwpan Heineken gyda hwy yn1998.
Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbynFfrainc ym Mharis yn 1987. Yn ystod ei yrfa, enillodd 72 cap dros Cymru, ac roedd ei 33 cais yn record ar y pryd. Bu'n gapten Cymru 28 o weithiau. Ef oedd capten tim Cymru a enilloddBencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1994, ond nid oedd y tîm cenedlaethol yn arbennig o lwyddiannus yn y cyfnod yma. Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yn erbynyr Eidal yn 1998.
Bu ar daith gyda'rLlewod dair gwaith; iAwstralia yn 1989, iSeland Newydd yn 1993 ac iDde Affrica yn 1997. Ef oedd sgoriwr uchaf y Llewod yn erbyn y Crysau Duon yn 1993, gyda phedwar cais.