Ie dros Gymru! yw'r enw a ddefnyddir i gyfeirio at ddau grŵp trawsbleidiol ar wahân o blaiddatganoli a ffurfiwyd yn y cyfnod cyn refferenda datganoli1997 a2011 a gynhaliwyd yng Nghymru.
Cadeirwyd Ie dros Gymru! gan Kevin Morgan, Athro oBrifysgol Caerdydd . Trefnydd cenedlaethol yr ymgyrch oedd Daran Hill.[1]
Yn ystod yr ymgyrch am Gynulliad i Gymru, bu farw'rDywysoges Diana mewn damwain car ym Mharis, Ffrainc. Roedd yr ymgyrch wedi ei gohirio dros dro, ac roedd rhai yn ystyried pa effaith y byddai marwolaeth Tywysoges Cymru yn ei chael ar y refferendwm. Roedd llawer o sylwebwyr yn pryderu y byddai marwolaeth y dywysoges a chanolbwyntio ar yTeulu Brenhinol yn tynnu sylw oddi ar y ddadl ar ddatganoli ac yn effeithio ar y nifer fyddai'n pleidleisio.[2]
Lansiwyd grŵp 2011 ar 4 Ionawr 2011.[3] Cadeirydd y grŵp oedd Roger Lewis, prif weithredwr grŵpUndeb Rygbi Cymru.[4]
Cefnogwyd yr ymgyrch gan ddwy blaid llywodraeth glymblaidCymru'n Un yn y Cynulliad :Plaid Lafur Cymru aPhlaid Cymru, yn ogystal â'rDemocratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Werdd Cymru .[5]