Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Idwal Foel

Oddi ar Wicipedia
Idwal Foel
Ganwyd885 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw942 Edit this on Wikidata
Teyrnas Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadAnarawd ap Rhodri Edit this on Wikidata
MamNn Edit this on Wikidata
PriodAnhysbys Edit this on Wikidata
PlantIago ab Idwal,Ieuaf ab Idwal, Rhodri ab Idwal Foel, Meurig ab Idwal Foel, Elisedd ap Anarawd Edit this on Wikidata
LlinachLlys Aberffraw Edit this on Wikidata

Idwal Foel ab Anarawd (bu farw942), BreninGwynedd o916 hyd ei farwolaeth.

Bywgraffiad

[golygu |golygu cod]

Etifeddodd Idwal orsedd Gwynedd ar farwolaeth ei dad,Anarawd ap Rhodri, yn916. Bu'n rhaid iddo dalu teyrnged iAethelstan Brenin Lloegr. Yn dilyn marwolaeth Athelstan, cododd Idwal a'i frawd Elisedd mewn gwrthryfel yn erbyn y Saeson, ond lladdwyd y ddau mewn brwydr yn942.[1]

Gellid disgwyl y byddai teyrnas Gwynedd yn awr yn cael ei rhannu rhwng meibion Idwal,Iago ab Idwal ac Idwal, a elwir yn y croniclau ynIeuaf ab Idwal. Fodd bynnag ymosododdHywel Dda, BreninDeheubarth ar Wynedd a gyrru meibion Idwal ar ffo. Ar ôl marw Hywel yn950, llwyddodd meibion Idwal i gael y deyrnas yn ôl.[1]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1John Edward Lloyd (1911).A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).
Idwal Foel
Ganwyd:  ? Bu farw:942
Rhagflaenydd:
Anarawd ap Rhodri
Brenin Gwynedd
916942
Olynydd:
Hywel Dda
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Idwal_Foel&oldid=13327380"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp