Gwrthrychau Iddewig pwysig (clocwedd o'r pen): Canwyllbrennau Shabbat, Paned Golchi Dwylo, Chumash a Tenach, Sefer Torah, yad, shofar a blwch etrog.
Crefyddundduwiaeth gymharol fychan ywIddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang. Daw'r gair Iddewiaeth o'r gair GroegΙουδαϊσμός a ddaw o'rHebraeg יהודה, Iehŵda. Hi yw crefydd y bobl Iddewig. Sylfaen y grefydd yw'r llyfrau o'rBeiblHebraeg, sef yTanach, sy'n cynnwys llyfrau'rTorah,Nevi'im aKetuvim. Mae'rTalmud yn esboniad ar y llyfrau hyn.
Seren Dafydd, y brif symbol Iddewiaeth a'r Iddewon
Yn 2007, amcangyfrifwyd poblogaeth Iddewig y byd yn 13.2 miliwn, gyda 41% ohonynt yn byw ynIsrael a'r 59% arall ar wasgar. Sylwer nad ydy Iddewiaeth yr un peth âSeioniaeth, mudiad Iddewig y gwrthodir ei syniadaeth gan nifer o Iddewon, e.e. yNeturei Karta.
Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwngDuw acAbraham, sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig, tua 2000 CC yn ôl y gronoleg Feiblaidd draddodiadol. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau a hanes Iddewiaeth wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer ycrefyddau Abrahamig mawr eraill, sefCristnogaeth acIslam.
Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau arabbïau addysgedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y pwysicaf ohonynt yw'r cysyniad o unDuw hollalluog a hollwybodol a greodd ybydysawd ac sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwyMoses arFynydd Sinai yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credant taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol yn seiliedig ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y cawsant eu hysgrifennu yn y Torah a'u hesbonio yn y Talmud.