Ymlusgiad enfawr a fu unwaith i'w cael yn y moroedd ywichthyosor (Groeg am ‘pysgfadfall, pysgymlusgiad’ -ichthys (ιχθυς) ‘pysgodyn’ asauros (σαυρος) ‘madfall’); mae felly'n perthyn i gyfnod o ddau gan miliwn o flynyddoedd yn ôl (200,000,000). Roedd yr ichthyosor yn un o brifysglyfaethwr y môr ac edrychai feldolffin gyda dannedd miniog, gan ei fod yn gigysydd. Gallai'r oedolyn fesur dros 15m o hyd, a'u prif fwyd oedd amonitau a belemnitau.
Cafwyd hyd i ffosiliau o'r ichthyosor yn 2008 ar draethPenarth, gerCaerdydd; roedd y ffosil hwn yn 7tr (2.1 metr).[1][2]
Mae'r ichthyosoriaid yn perthyn i'r urdd a elwir ynIchthyosauria neuIchthyopterygia '‘pibellau pysgod’ (dynodiad a gyflwynwyd gan ypaleontolegwr CymreigRichard Owen yn 1840, er bod y term bellach yn cael ei ddefnyddio yn fwy ar gyfer rhiant-gytras yrIchthyosauria.
Bu'r ichthyosoriaid yn byw yn ystod llawer o'r cyfnodMesosöig; gwyddom hyn o dystiolaeth gyfoethog offosiliau. Ymddangosodd yn gyntaf oddeutu 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl a goroesodd o leiaf un rhywogaeth tan oddeutu 90 miliwn o flynyddoedd yn ôl - i'rCretasaidd Hwyr.
Ichthyosor (chwith) yn ymaflyd gydaplesiosor (dde).
Cafwyd hyd i ffosiliau o'r ichthyosor yn y2010au ar draethPenarth, gerCaerdydd; roedd yn 7tr (2.1 metr).
Yn y cyfnod Jwrasig cynnar, roedd de ddwyrain Cymru wedi'i orchuddio â môr cynnes, bas a oedd yn fwrlwm o fywyd. Roedd yr ichthyosor yn un o'r prif ysglyfaethwyr a edrychai feldolffin. Gallai'r oedolyn fesur dros 15m o hyd, a'u prif fwyd oedd amonitau a belemnitau. Mae esgyrn a dannedd ichthyosoriaid yn ffosilau unigol cymharol gyffredin yn ne Cymru ac yn Dorset a Gwlad yr Haf, ond mae sgerbydau llawn yn brinach. Mae'r ffosil a ddarganfuwyd ym Mhenarth yn cynnwys rhan isaf y pen, asgell sy'n debyg i rwyf, darn o'r ysgwydd a nifer oasennau.[3]