Ibwproffen Ibuprofen generic o Archfarchnad Tesco |
Delwedd:Ibuprofen2.svg, Ibuprofen.svg |
Enghraifft o: | par o enantiomerau  |
---|
Math | aromatic compound,asid carbocsylig  |
---|
Màs | 206.131 uned Dalton  |
---|
Fformiwla gemegol | C₁₃h₁₈o₂  |
---|
Enw WHO | Ibuprofen  |
---|
Clefydau i'w trin | Poen, gorwres,osteoarthritis, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, gout attack, sbondylitis asiol,llid, crydcymalau gwynegol, enthesopathy, bwrsitis, tyndra'r mislif, osteoarthritis susceptibility 1,tonsilitis,cur pen eithafol, fibromyalgia, llid y sinysau,gowt, nasopharyngitis,gwynegon,gastroenteritis,dolur gwddw, sleep-wake disorder, nephrogenic diabetes insipidus  |
---|
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c  |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Maeibwproffen ynfeddyginiaeth yn y dosbarth cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd (NSAID) a ddefnyddir i drin poen,twymyn allid.[1] Mae hyn yn cynnwys cyfnodaumisglwyf poenus, ymeigryn,y ddannoedd, a'rgwynegon. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₈O₂. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i gaupatent ductus arteriosus mewn babanod cynamserol. Gellir ei ddefnyddio trwy'r geg, yn fewnwythiennol ac fel jel argroenol. Fel arfer mae'n dechrau gweithio o fewn awr[2].
Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys llosg cylla abrechod. O'i gymharu â NSAIDau eraill, gallai fod llai o sgil effeithiau megis gwaedu gastro-berfeddol. Mae'n cynyddu'r risg o fethiant y galon, methiant yr arennau, a methiant yr iau. Mewn dosau isel, nid yw'n ymddangos ei fod yn cynyddu'r perygl o gaeltrawiad ar y galon; fodd bynnag, o gymryd dosau uwch efallai y bydd. Gall Ibuprofen hefyd arwain at waethyguasthma. Er nad yw'n glir os yw'n ddiogel yn ystodbeichiogrwydd cynnar, ymddengys ei fod yn niweidiol mewn beichiogrwydd yn ddiweddarach ac felly nid yw'n cael ei argymell. Fel NSAIDau eraill, mae'n gweithio drwy atal cynhyrchu prostaglandinau trwy ostwng gweithgaredd yr ensym cyclooxygenase. Mae Ibuprofen yn gyffurgwrthlidiol gwannach na NSAIDau eraill.
Darganfuwyd Ibuprofen ym 1961 ganStewart Adams (1923−2019)) o gwmniBoots, a oedd yn chwilio am foddion ar gyfer eiben mawr. Cafodd ei farchnata i ddechrau fel Brufen. Mae ar gael o dan nifer o enwau masnachol, gan gynnwys Advil and Motrin. Cafodd ei farchnata gyntaf yn y Deyrnas Unedig ym 1969 ac yn yr Unol Daleithiau ym 1974. Mae arRestr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd[3], y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael felmeddyginiaeth generig. Mae'n feddyginiaeth gellir ei brynu dros y cownter mewnsiopau acarchfarchnadoedd heb yr angen ambresgripsiwn na phresenoldebfferyllydd.
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
poengorwresOsteoarthritiscrydcymalau gwynegol ieuengaiddsbondylitis asiolllidcrydcymalau gwynegolbwrsitistyndra'r misliftonsilitisCur pen eithafolllid y sinysaucymalwstGwynegonGastroenteritisDolur gwddwCaiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hwn yw Ibwproffen, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnciechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |