Arwr ymmytholeg Roeg oeddIason (Hen Roeg:Ἰάσων).Yn y fersiwn mwyaf cyfarwydd o'i stori fel y'i hadroddir yn y gerdd epigArgonautica (3g CC), roedd yn fab i Aeson, brenin Iolcos ynThesalia. Ar ôl i'w ewythr Pelias yn cipio'r deyrnas, mae Iason yn dod yn alltud ac yn cael ei fagu gan ydynfarchChiron. Mae'n dychwelyd i Iolcos yn ddyn ifanc. Mae Pelias yn addo i Iason ei etifeddiaeth os bydd yn llwyddo i ddod â'rCnu Aur iddo. Mae Iason yn hwylio yn y llongArgo ynghyd â chriw o arwyr - yrArgonawtiaid. Ar ôl llawer o dreialon ac anturiaethau maen nhw'd dod o hyd i'r Cnu Aur, croen hwrdd aur, ym meddiant y Brenin Aeëtes oColchis. Maen nhw'n cipio'r cnu gyda chymorth y swynwraigMedeia merch i Aeëtes, sy'n priodi ag Iason. Ar ôl iddynt ddychwelyd i Iolcos, mae Medeia yn achosi marwolaeth Pelias. Mae hi a Iason yn cael eu gyrru allan gan fab Pelias ac yn llochesu gyda Brenin Creon o Gorinth. Yn ddiweddarach mae Iason yn gadael Medeia er mwyn canlyn Creusa, merch Creon; roedd yr anffyddlondeb hwn a’i ganlyniadau yn destun y ddramaMedeia ganEwripides.[1]