Elfen gemegol gyda'r symbol H a'rrhif atomig 1 ywhydrogen. Yr hen enw Cymraeg amdano oedd:ulai,awyr hylosg agwyen. Hydrogen yw'r elfen ysgafnaf a mwyaf cyffredin yn ytabl cyfnodol; mae 75% o faterbaryonaidd wedi'i wneud ohono, ond dylid cofio, wrth gwrs, y ceir mater arall: mater tywyll.[2] Ar dymheredd arferol y labordy, mae'nnwy di-liw, diarogl, anfetalaidd a fflamadwy iawn, ac fe'i ceir yn ffurf molecylau gyda'r fformiwla H2. Yr isotop mwyaf cyffredin ohono, fodd bynnag, ywprotiwm (symbol1H), sydd ag un proton a dimniwtron. Ar y Ddaear, mae i'w gael fel arfer fel moleciwlau fel dŵr,cyfansoddion organig acorganebau byw. Maesêr yn cynnwys hydrogen gan amlaf, ond yn ffurf plasma.
Daw'r enw o'r Groegὕδωρ (hudôr) (dŵr), agennen (creawdwr).
Mae gan hydrogen ran bwysig i'w chwarae mewn adweithiau asid-bâs gan fod cyfnewidprotonau rhwng moleciwlau hydawdd yn rhan mor bwysig o'r adweithiau hynny. Mewn cyfansoddyn ïonig, mae hydrogen yn cymeryd gwefr negydd (h.y. anion), neu wefr bosydd (cation), a ddynodir gan y symbol H+.
Cynhyrchwyd nwy hydrogen mewn labordy am y tro cyntaf yn yr16eg ganrif, drwy gymysgumetalau agasid. Rhwng 1766–81Henry Cavendish oedd y cyntaf i ddatgan fod nwy hydrogen yn sylwedd unigryw, ar wahân,[3] a'i fod yn cynhyrchu dŵr pan fo'n llosgi, ac o hyn y tarddodd yr enw (y Crëwr Dŵr).