Caiff yr enw o'r llygad, sy'n liw melyn tarawiadol yn yr oedolion. Mae gan y ceiliogod ben du gyda gwawr wyrdd arno a darn gwyn bron yn grwn islaw y llygad. Mae'r cefn yn ddu a'r gwddf a'r bol yn wyn. Brown yw lliw pen yr iâr gyda'r corff yn llwyd.
Mae'n nythu yn rhannau gogleddolEwrop,Asia aGogledd America lle bynnag mae afonydd neu lynnoedd a fforestydd o'u cwmpas, gan ddefnyddio tyllau mewn coed ar gyfer y nyth. Defnyddir blychau nythu os bydd rhai ar gael, ac mae darparu'r rhain wedi arwain at gynnydd yn y boblogaeth, er enghraifft ynYr Alban. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu ar lynnoedd neu weithiau mewn mannau cysgodol ar yr arfordir. Maent yn plymio i ddal eu bwyd, sef pysgod bychain neu greaduriaid bychain eraill y gallant eu dal dan y dŵr.
Nid oes prawf fod yr Hwyaden lygad-aur wedi nythu yngNghymru, er fod hynny yn bosibilrwydd yn y blynyddoedd diwethaf. Mae'n aderyn gweddol gyffredin yn y gaeaf.