Mae'rHwyaden Goch (Oxyura jamaicensis) ynhwyaden weddol fychan, yn wreiddiol o gyfandirAmerica. Mae tri is-rywogaeth, sydd weithiau yn cael eu hystyried yn rywogaethau ar wahan:
Mae'r ceiliog yn hawdd ei adnabod ac yn aderyn trawiadol iawn, gyda'r corff yn goch, wyneb gwyn a chap du ar y pen, a pig glas. Mae'r iâr yn llwydfrown ond hefyd gyda pen du. Maent yn nythu ger corsydd, llynnoedd ac afonydd, lle mae digon o dyfiant ger y dŵr. Fel rheol mae'naderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf. Eu prif fwyd yw pryfed a phlanhigion sy'n byw yn y dŵr, a gallant blymio i'w casglu.
Mae poblogaeth sylweddol o'r hwyaden yma wedi datblygu ymMhrydain wedi i adar ddianc o gasgliadau. Oherwydd fod yr hwyaid yma yn symud tua'r de ac yn medru paru gyda'rHwyaden BenwynOxyura leucocephala mewn gwledydd felSpaen, lle mae niferoedd ye Hwyaden Benwyn yn isel iawn, mae ymgais ar droed i geisio rheoli nifer yr Hwyaden Goch neu hyd yn oed i'w difa'n llwyr o Brydain.
YngNghymru bu poblogaeth sylweddol iawn arYnys Môn gyda niferoedd llai ym mhobman arall. Dewiswyd Môn fel un o'r ardaloedd i arbrofi gyda lleihau'r niferoedd, a bu gostyngiad sylweddol yn y boblogaeth. Erbyn hyn mae'r niferoedd yma wedi dechrau cynyddu eto.