Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Hwngari

Oddi ar Wicipedia
Hwngari
Magyar Köztársaság
Mathgwladwriaeth sofran,gwlad dirgaeedig,gwlad, gwladwriaeth olynol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlOnogurs, Hungarians Edit this on Wikidata
PrifddinasBudapest Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,603,634 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Rhagfyr 1000 (cannot be confirmed by other sources) Edit this on Wikidata
AnthemIsten, áldd meg a magyart Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethViktor Orbán Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hwngareg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolyr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd,Canolbarth Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd93,011.4 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawNeusiedl Lake,Afon Donaw, Ipoly, Tisza,Afon Drava,Llyn Balaton, Rába Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSlofacia,Wcráin,Rwmania,Serbia,Croatia,Slofenia,Awstria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47°N 19°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Hwngari Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Cenedlaethol Hwngari Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Hwngari Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethTamás Sulyok Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Hwngari Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethViktor Orbán Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$181,848 million Edit this on Wikidata
CMC y pen$37,128 Edit this on Wikidata
Arianforint Edit this on Wikidata
Canran y diwaith8 ±1 canran, 4.2 canran, 4.2 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.35 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.846 Edit this on Wikidata

Gweriniaeth dirgaeëdig yng nghanolbarthEwrop ywGweriniaeth Hwngari neuHwngari. MaeSlofacia i'r gogledd;yr Wcráin i'r gogledd-ddwyrain;Rwmania i'r dwyrain;Serbia,Croatia aSlofenia i'r de; acAwstria i'r gorllewin. Mae'r Hwngariaid yn galw eu hunain ynMagyar (Magyarország).

Hanes

[golygu |golygu cod]
Prif:Hanes Hwngari

Llwyth yMagyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y9g.

Yny Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'rYmerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'rAlmaen. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanoddAwstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn 1919 ffurfiwydGweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oeddBéla Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfogRwmania y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth.

Ynyr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'rAlmaen unwaith yn rhagor a'rNatsiaid a reolai'r wlad.

Ar ôl y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari ynweriniaeth "ddemocrataidd" gyda llywodraethgomiwnyddol. Yn 1956, bugwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yrUndeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945–1989. Roedd Hwngari yn aelod oGytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au.

Gwleidyddiaeth Hwngari heddiw

[golygu |golygu cod]

Heddiw mae hi'n rhan o'rUndeb Ewropeaidd a phleidleisiodd o blaidCyfansoddiad Ewrop yn 2005/2006. Yn 2010 etholwydViktor Orbán yn brif weinidog.

Ym mis Mehefin 2018, newidiodd Senedd Hwngari gyfansoddiad y wlad i'w gwneud hi'n anoddach i fewnfudwyr fynd i mewn.[1] Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, protestiodd miloedd o bobol yn Budapest yn erbyn polisïau llywodraeth genedlaetholgar Hwngari.[2]

Gwleidyddiaeth

[golygu |golygu cod]
Prif:Gwleidyddiaeth Hwngari

Arlywydd Hwngari yw arweinydd y wlad a'rPrif Weinidog sy'n arwainSenedd Hwngari ym Mwdapest.

Siroedd Hwngari

[golygu |golygu cod]

Siroedd Hwngari a'u prifddinasoedd

  • Bács-Kiskun (Kecskemét)
  • Baranya (Pécs)
  • Békés (Békéscsaba)
  • Borsod-Abaúj-Zemplén (Miskolc)
  • Csongrád (Szeged)
  • Fejér (Székesfehérvár)
  • Győr-Moson-Sopron (Győr)
  • Hajdú-Bihar (Debrecen)
  • Heves (Eger)
  • Jász-Nagykun-Szolnok (Szolnok)
  • Komárom-Esztergom (Tatabánya)
  • Nógrád (Salgótarján)
  • Pest (Budapest)
  • Somogy (Kaposvár)
  • Szabolcs-Szatmár-Bereg (Nyíregyháza)
  • Tolna (Szekszárd)
  • Vas (Szombathely)
  • Veszprém (Veszprém)
  • Zala (Zalaegerszeg)

Siroedd Trefol

  • Békéscsaba
  • Debrecen
  • Dunaújváros
  • Eger
  • Győr
  • Hódmezővásárhely
  • Kaposvár
  • Kecskemét
  • Miskolc
  • Nagykanizsa
  • Nyíregyháza
  • Pécs
  • Salgótarján
  • Sopron
  • Szeged
  • Székesfehérvár
  • Szekszárd
  • Szolnok
  • Szombathely
  • Tatabánya
  • Veszprém
  • Zalaegerszeg

Daearyddiaeth

[golygu |golygu cod]

Mae Hwngari yn wastad gan bennaf. MaeAfon Donaw yn ffurfio rhan o ffin gogledd-orllewinol Hwngari gyda Slofacia, ac yna'n llifo i'r de drwyBudapest, gan rannu Hwngari yn ddau ranbarth cyffredinol. Ym mis Hydref 2001 cafoddpont olaf y Donaw a ddinistriwyd yn yrAil Ryfel Byd ei hailagor gan Brif Weinidog Slofacia a Phrif Weinidog Hwngari a'r Comisiynydd EwropeaiddGünter Verheugen. Cydariannwyd ailgodi'r bont gan raglenPhare yr UE gyda €10 miliwn. Budapest, y ddinas fwyaf yw'r brifddinas a hefyd yn ganolfan ddiwylliannol, economaidd a ddiwydiannol Hwngari. Mae'r wlad yn llawn trefibaroc hardd, adeiladaucanoloesol, ffynhonnau thermol a thros fil o lynnoedd. Mae gan Hwngari aeafau oer iawn a hafau cynnes iawn, gyda gwanwyn a hydref mwyn.

Amgylchedd

[golygu |golygu cod]

Parc Cenedlaethol Hortobágy yw mecca adara Ewrop a'r lle i ganfodCeiliog y Waun – un o adar mwyaf y byd.

Demograffeg

[golygu |golygu cod]

Proffil ethnig:Hwngariaid (96.6%) – 13 lleiafrif a gydnabyddir ac a gofrestrwyd yn swyddogol:Almaenwyr,Sipsiwn,Croatiaid,Slofaciaid,Rwmaniaid,Bwlgariaid,Groegwyr,Pwyliaid,Armeniaid,Rutheniaid,Serbiaid,Wcrainiaid,Slofeniaid – a ddiogelir yn arbennig yn yCyfansoddiad – fel cydran o wladwriaeth Hwngari; hawl i gynrychiolaeth yn y Senedd wedi ei goleddu yn y Cyfansoddiad ac yn Neddf Lleiafrifoedd 1993.

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Hwngari oedd mamwladFranz Liszt,Béla Bartók aZoltán Kodály, a ysbrydolwyd gan y traddodiadau gwerin cenedlaethol cyfoethog. Yn y 19g cynhyrchodd Hwngari ei gyfansoddwr brodorol pwysig cyntaf,Ferenc Erkel, a gyfansoddoddanthem genedlaethol Hwngari a'ropera Hwngaraidd gyntaf. Mae Hwngari yn wlad gerddorol iawn; mae ei chwaraewyr fiolin a phiano yn adnabyddus yn fyd-eang. Mae gan Hwngari mwy na 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a mwy na 100 o amgueddfeydd cyhoeddus ledled y wlad. Cenedl bron di-Saesneg yw Hwngari o hyd, a di-Almaeneg. Dan y Sofietwyr roedd hi'n fraint i bob plentyn methu ei gwrs Rwsieg yn llwyr.

Bwyd a diod

[golygu |golygu cod]

Mae danteithion lleol yn cynnwyshalaszle (cawl pysgod),goulash,jokai bableves (cawl ffa) ahideg gyumolcsleves (cawl ceirios oer). Cynhyrchircwrw da abrandi cryf yn y wlad.

Hwngari hoyw

[golygu |golygu cod]

Mae gan Hwngari sinhoyw cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn Hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ymMhrag lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu.

Enwogion

[golygu |golygu cod]

Dyn o Hwngari oeddLászló Bíró, dyfeisydd yr ysgrifbin.

Dolenni allanol

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Aelod-wladwriaethau yr Undeb Ewropeaidd
gw  sg  go
Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO)
Aelodau
Ymgeiswyr
  1. "Tynhau rheolau ffoaduriaid yn Hwngari".Golwg360. 20 Mehefin 2018. Cyrchwyd12 Rhagfyr 2019.
  2. "Protestiadau yn erbyn llywodraeth genedlaetholgar Hwngari".Golwg360. 22 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd12 Rhagfyr 2019.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hwngari&oldid=13762250"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp