Huw Llwyd | |
---|---|
Ffugenw | Huw Llwyd ![]() |
Ganwyd | c. 1568 ![]() Cynfal-fawr ![]() |
Bu farw | c. 1630 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Bardd yn yGymraeg a milwr oeddHuw Llwyd (1568? -1630?), a aned yng Nghynfal-fawr (filltir i'r de oFfestiniog) ym mhlwyfMaentwrog yn yr henSir Feirionnydd (deGwynedd heddiw),gogledd Cymru. Roedd Huw yn perthyn i'r un teulu â'r llenor achyfrinyddMorgan Llwyd.
Fel milwr bonheddig gwasanaethai dan SyrRoger Williams ynFfrainc a'rIseldiroedd ym myddin yr Iseldirwyr a oedd yn ymladd i ennill rhyddid i'w gwlad oddi arSbaen.
Fel bardd canai ar ei fwyd ei hun yn hytrach na fel bardd proffesiynol. Ymhlith ei hoff bynciau oedddewiniaeth ahelwriaeth. Tyfodd i fod yn cymeriadllên gwerin a gysylltid â dewiniaeth. Gelwir craig fawr gerAfon Cynfal yn Bwlpud Huw Llwyd; dywedir ei fod yn mynd yno i synfyfyrio ac i gonsurio ac o'r herwydd tybiai pobl ei fod ynDdyn Hysbys.
Ei gerdd fwyaf adnabyddus efallai yw 'Cyngor y Llwynog'. Ymddiddan cellweirus rhwng y bardd allwynog ydyw, gyda'r llwynog yn cynnig cyngor iddo ar sut i lwyddo yn y byd drwy ddichell.[1]