Hugh Price | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1495 ![]() Aberhonddu ![]() |
Bu farw | Awst 1574 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr ![]() |
Cyfreithiwr a chlerigwr oGymru oAberhonddu oeddHugh Price (tua1495–1574). Roedd yn un o brif sefydlwyrColeg yr Iesu, Rhydychen, y coleg cyntaf i'w sefydlu ynRhydychen ar ôl yDiwygiad Protestannaidd.[1] Cofnodir ei enw ar adegau fel 'Hugh Aprice'. Yn 1571 perswadiodd y frenhinesElisabeth I i roi siarter brenhinol i'r sefydliad a daeth hwnnw i rym ar 27 Mehefin 1571. Noda'r siarter hon mai'r frenhines yw sefydlydd y coleg, a chyfeirir at Hugh Price fel 'y noddwr cyntaf'.
Cyfrannodd yn ariannol at godi'r coleg hwnnw; ar ei farwolaeth gadawodd hefyd 100 Marc a £60 y flwyddyn (a'i lyfrgell), ar yr amod y cydnabyddir ef (yn hytrach na'r frenhines) yn 'Sefydlydd y Coleg'. Amod arall oedd ei hawl i benodi Prifathrawon, Cymrodorion a myfyrwyr i'r coleg. Pan y bu farw, rhan o'r coleg oedd wedi'i godi; cychwynwyd ar y gwaith o adeiladu'r 'cwod' yn 1571.
Ganwyd Hugh Price yn Aberhonddu, yn fab i gigydd lleol, Rhys ap Rhys. Nid oes sicrwydd ym mhle y cafodd ei addysg cynnar: naill ai yn Aberhonddu ei hun neu yn Osney Abbey gerRhydychen. Aeth yn ei flaen i Brifysgol Rhydychen ble y derbyniodd radd Bachellor mewn Cyfraith Sifil (BCL) ac yna Bachellor yng Nghyfraith yr Egwlys (neu 'Gyfraith Ganon'). Yn 1526 gorffennodd ddoethuriaeth mewn Cyfraith Ganon.
Gwyddom iddo fod yn un o farnwyr a ddyfarnodd James Bainham i farwolaeth am heresi yn 1532.[2] Yn 1541 fe'i penodwyd yn Drysorydd dwy gadeirlan:Tyddewi a Rochdale ac erbyn 1572 gwyddom iddo ddychwelyd i Aberhonddu i fyw. Parhaodd yn y swydd yn brebendari eglwys Rochdale am weddill ei oes.