Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Hoyw

Oddi ar Wicipedia
Mae'r dudalen hon am y gair "hoyw". Am wybodaeth am y cyfeiriadedd rhywiol gwelercyfunrywioldeb.
Symbol dynion hoyw
Cyfeiriadedd rhywiol
rhan orywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb ·Cyfunrywioldeb ·Deurywioldeb ·Heterorywioldeb ·Hollrywioldeb ·Paraffilia ·Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu ·Hoyw ·Lesbiad ·Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey ·Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg ·Demograffeg ·Meddygaeth ·Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb ·Trawsrywedd ·Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

AnsoddairCymraeg ywhoyw sydd, yn draddodiadol, yn golygusionc neubywiog, ond sydd yn aml mewn defnydd cyfoes yn cael ei ddefnyddio fel y term anffurfiol amgyfunrywiol.

Yn wreiddiol mae'r gair yn golyguhapus,llon,sionc,bywiog neudiofal.[1] Mae ganhoyw yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr odarddeiriau, yn cynnwyshoywad (addurniad neu daclusiad),hoywi (i wneud rhywbeth yn hoyw),hoywaidd (bron yn gyfystyr âhoyw),hoywder (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer ogyfansoddeiriau megishoywdon,hoywfro ahoyw-wyrdd.[2]

Cymuned hoyw yn yr Ariannin

Ynyr ugeinfed ganrif lledaenodd y defnydd ohoyw fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gairSaesneggay, sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf athoyw; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw maehoyw wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,[3] gydaghoywon fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bodhoyw yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r termlesbiad yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddirhoyw ahoywon i ddisgrifio dynion yn unig (gwelerterminoleg cyfunrywioldeb).[4] Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gairhoyw i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifftpriodas hoyw, er bod rhai cefnogwyrLHDT yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio poblddeurywiol athrawsryweddol ac yn annog defnyddiocyfunryw yn lle.

Yn y Saesneg, defnydd dadleuol o'r termgay yw i ddisgrifio rhywbeth annymunol, e.e.that's so gay ("mae hwnna mor hoyw"). Nid yw'r cymhwysiad hwn fel term dirmygus wedi'i drosglwyddo i Gymraeg gyffredin.[5]

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 1901.
  2.  Fersiwn Cryno o Argraffiad CyntafGeiriadur Prifysgol Cymru. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 20 Ebrill, 2008. Chwiliwch y ffeil am "hoyw".
  3. Gweler defnydd o'r gairhoyw gan yBBC ([1]),Cynulliad Cenedlaethol Cymru ([2]),Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ([3]), a'r mudiad hawliauLHDTStonewall ([4]Archifwyd 2008-08-21 yn yPeiriant Wayback).
  4.  Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau. Stonewall Cymru. Adalwyd ar 1 Medi 2012.
  5. Er hyn, gweler defnydd ar un sgwrs armaes-e ohoyw fel gair sarhaus.[5]Archifwyd 2016-03-13 yn yPeiriant Wayback
PynciauLHDT
Cyfunrywioldeb
Deurywioldeb
Trawsrywedd
Pynciau eraill
Hanes
Diwylliant
Gwleidyddiaeth, cymdeithas a'r gyfraith
Meddygaeth
Chwiliwch amHoyw
ynWiciadur.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hoyw&oldid=11816495"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp