Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Homo naledi

Oddi ar Wicipedia
Homo naledi
Amrediad amseryddol:0.335–0.236 Ma[1]
Enghreifftiau o rai o'r esgyrn
Lleoliad y darganfyddiad yn Ne Affrica
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mamalia
Urdd:Deudroedolyn
(Primates)
Teulu:Hominidae
Genws:Homo
Rhywogaeth:H. naledi
Enw deuenwol
Homo naledi
Lee R. Bergeret al., 2015

Rhywogaeth ohominin addifodwyd ywHomo naledi a ddarganfuwyd yn 2013 yn 'Ogof y Seren sy'n Codi', De Affrica; fe'i haseiniwyd i'rgenwsHomo.[2] Cyhoeddwyd gwybodaeth am y darganfyddiad mewn cyhoeddiad academaidd yn 2015 a chludwyd dros 1,550 o esgyrn 15 unigolyn oOgof y 'Rising Star' ynNe Affrica i'r wyneb mewn ymchwiliad dan arweiniad yrarchaeolegyddLee Berger oJohannesburg.[3] Erbyn heddiw (2023) credir fod yr esgyrn yn 335,000–236,000 o flynyddoedd oed, felly roedd y rhywogaeth hon yn byw yn yPleistosen Canol (neu'rChibanian). Er i gymaint o esgyrn ddo i'r fei, mae union ddosbarthiad o ran rhywogaethau Homo eraill ychydig yn aneglur.[4]

Yn 2017 cafwyd adroddiad ganHawkset al. (2017) fod o leiaf 3 unigolyn arall (dau oedolyn a phlentyn) wedi'u canfod mewn ail siambar, a elwir yn Lesedi ("golau" yn yr iaith Sotho-Tswana).[5][6]

Ceir tystiolaeth i'r cyrff gael eu taflu neu iddynt ddisgyn i fewn i'r ogof tua'r un amser ag y buont farw. Ceir peth tystiolaeth iddynt gael eu gosod ymhen pellaf yr ogof yn fwriadol, mewn defod, sy'n golygu wedyn nad Homo sapiens yn unig oedd yn cael gwared a'u meirw mewn dull arbennig.[6][7][8]

Dyddio

[golygu |golygu cod]

DisgrifiwydHomo naledi yn ffurfiol ym Medi 2015 gan 47 o awduron a gynigiodd fod yr esgyrn yn perthyn i rywogaeth newydd sbon a rhoddwyd dwy filiwn o flynyddoedd fel oedran, cyn gwneud unrhyw arbrofion.[9] Yn dilyn technegau dyddio amrywiol cyhoeddwyd mai rhwng 335,000 a 236,000 o flynyddoeddCP y bu'r Homo naledi yn byw.[1]

Disgrifiad ohoni

[golygu |golygu cod]

Mae gan y rhywogaeth gorff tebyg o ran mas i berson bychan ei daldra, gydag ymennydd llai, ac sy'n debycach i'r Australopithecus, a phenglog tebyg o ran siâp i rywogaeth cynnar o Homo. Mae anatomi'r sgerbwd yn gyfuniad o nodweddion australopitheciaid a'r homininiaid cynnar.

Geirdarddiad

[golygu |golygu cod]

Daw'r gair 'Dinaledi', sef yr enw ar y prif siambr lle darganfuwyd yr esgyrn o'r iaith leol, frodorol, sef yr iaith Sotho (a elwir hefyd ynSesotho); ei ystyr yw 'siambr o sêr'. Bathwyd yr enw hwn a'r enw Homo naledi yn ystod hirdaith 2013.[10]

Darganfod Ogof yRising Star

[golygu |golygu cod]
Prif:Ogof y 'Rising Star'

Ar 13 Medi 2013, tra'n archwilio'r system hon o ogofâu, daeth Rick Hunter a Steven Tucker ar draws rhan nad oedd wedi'i harchwilio oherwydd ei bod mor gyfyng. Roedd y siafft hon yn fertigol, o fath 'simnai' ac yn mesur 12 metr o hyd, gyda lled cyfartalog o 20 cm yn unig.[11]

Roedd Tucker a Hunter wedi clywed am archaeolegydd enwog oJohannesburg,Lee Berger, a oedd "yn chwilio am esgyrn" ac aethant ato gyda lluniau o'r hyn roeddent wedi ei ddarganfod. Trefnodd Berger grŵp o archaeolegwyr i archwilio'r ogof a chywain yr esgyrn i'r wyneb ble roedd tîm arall mewn pebyll yn eu harchwilio a'u dosbarthu. Erbyn Medi 2015 roedd tua 1,550 o ffosiliau wedi'u codi i'r wyneb a rhyddhawyd dau bapur academaidd am y canfyddiadau cychwynnol.[9]

Cymharu penglogau

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1Paul H.G.M. Dirks; Eric M. Roberts; Hannah Hilbert-Wolf; Jan D. Kramers; John Hawks; Anthony Dosseto; Mathieu Duval; Marina Elliott et al. (9 Mai 2017). "The age ofHomo naledi and associated sediments in the Rising Star Cave, South Africa". eLife 6: e24231. doi:10.7554/eLife.24231. https://elifesciences.org/content/6/e24231.
  2. Berger, Lee R. (10 Medi 2015). "Homo naledi, a new species of the genusHomo from the Dinaledi Chamber, South Africa". eLife 4. doi:10.7554/eLife.09560. PMC 4559886. PMID 26354291. http://elifesciences.org/content/4/e09560.full. Adalwyd 10 Medi 2015. Lay summary. "If the fossils prove to be substantially older than 2 million years,H. naledi would be the earliest example of our genus that is more than a single isolated fragment. [...] A date younger than 1 million years ago would demonstrate the coexistence of multipleHomo morphs in Africa, including this small-brained form, into the later periods of human evolution."
  3. National Geographic News ; adalwyd 10 Medi 2015
  4. Schroeder, L.Gwall mynegiad: Heb adnabod y gair "etal". (2017). "Skull diversity in theHomo lineage and the relative position ofHomo naledi". Journal of Human Evolution 104: 124–135. doi:10.1016/j.jhevol.2016.09.014. PMID 27836166.
  5. John Hawks; Marina Elliott; Peter Schmid; Steven E. Churchill; Darryl J. de Ruiter; Eric M. Roberts; Hannah Hilbert-Wolf; Heather M. Garvin et al. (9 Mai 2017). "New fossil remains ofHomo naledi from the Lesedi Chamber, South Africa". eLife 6: e24232. doi:10.7554/eLife.24232. https://elifesciences.org/content/6/e24232.
  6. 6.06.1Rincon, Paul (9 Mai 2017)."Amazing haul of ancient human finds unveiled". Cyrchwyd9 Mai 2017.
  7. scienceworldreport.com; adalwyd 1 Awst 2016
  8. Berger et al. (2015):"If the fossils prove to be substantially older than 2 million years,H. naledi would be the earliest example of our genus that is more than a single isolated fragment. [...] A date younger than 1 million years ago would demonstrate the coexistence of multiple Homo morphs in Africa, including this small-brained form, into the later periods of human evolution."
  9. 9.09.1Shreeve, Jamie (10 Medi 2015)."This Face Changes the Human Story. But How?".National Geographic News. Cyrchwyd10 Medi 2015.Italic or bold markup not allowed in:|work= (help)
  10. YnSesotho maedinaledi yn enw lluosog sy'n amrywiad o'r gairnaledi "seren"(Bukantswe v.3Archifwyd 2015-09-23 yn yPeiriant Wayback - geiriadur).
  11. Dirks, Paul H. G. M. (2015). "Geological and taphonomic context for the new hominin speciesHomo naledi from the Dinaledi Chamber, South Africa". eLife 4: e09561. doi:10.7554/eLife.09561. ISSN 2050-084X. PMC 4559842. http://elifesciences.org/content/4/e09561. Adalwyd 12 Medi 2015.
    Rhestr lawn o awduron
    • Paul HGM Dirks
    • Lee R Berger
    • Eric M Roberts
    • Jan D Kramers
    • John Hawks
    • Patrick S Randolph-Quinney
    • Marina Elliott
    • Charles M Musiba
    • Steven E Churchill
    • Darryl J de Ruiter
    • Peter Schmid
    • Lucinda R Backwell
    • Georgy A Belyanin
    • Pedro Boshoff
    • K Lindsay Hunter
    • Elen M Feuerriegel
    • Alia Gurtov
    • James du G Harrison
    • Rick Hunter
    • Ashley Kruger
    • Hannah Morris
    • Tebogo V Makhubela
    • Becca Peixotto
    • Steven Tucker
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Homo_naledi&oldid=11846751"
Categorïau:
Gategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp