Ho Chi Minh |
---|
 |
Ffugenw | Nguyễn Ái Quốc, Hồ Chí Minh, Nguyễn Tất Thành  |
---|
Llais | Ho Chi Minh reading the Proclamation of Independence of the Democratic Republic of Vietnam on 2 September 1945.wav  |
---|
Ganwyd | Nguyễn Sinh Cung  19 Mai 1890  Kim Liên  |
---|
Bu farw | 2 Medi 1969  omethiant y galon  Hanoi  |
---|
Man preswyl | Hanoi  |
---|
Dinasyddiaeth | Gogledd Fietnam,Indo-Tsieina Ffrengig  |
---|
Alma mater | - Communist University of the Toilers of the East
- Quoc Hoc – Hue High School for the Gifted

|
---|
Galwedigaeth | llenor,bardd,gwleidydd, newyddiadurwr, person milwrol  |
---|
Swydd | member of the National Assembly of Vietnam, General Secretary of the Communist Party of Vietnam, Arlywydd Fietnam, Prif Weinidog Fietnam  |
---|
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Vietnam, Plaid Gomiwnyddol Ffrengig, Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol, Indochinese Communist Party  |
---|
Tad | Nguyễn Sinh Sắc  |
---|
Mam | Hoàng Thị Loan  |
---|
Gwobr/au | Urdd Lenin, Gold Star Order, Uwch Groes Urdd Polonia Restituta  |
---|
llofnod |
---|
 |
Gwladweinydd a chwyldroadwr oFietnam a arweiniodd y wlad honno iannibyniaeth oddi arFfrainc oeddHo Chi Minh (enw genedigol,Nguyễn Sinh Cung,[1]19 Mai1890 -2 Medi1969). Gwasanaethodd felPrif Weinidog Fietnam o1946 hyd1955, ac felArlywydd Fietnam o 1955 tan ei farw. Ail-enwyd dinasSaigon ynDdinas Ho Chi Minh er ei anrhydedd ar ddiweddRhyfel Fietnam ym1976.
Ganwyd Ho mewn cwt gwellt yn Kim Lien, pentref bychan yn ardal Nan Dan, ar 19 Mai 1890. Defnyddiodd yr enw Nguyen Sinh Cung nes oedd tua 10 oed, pan dewisodd ei dad enw arall iddo, Nguyen Tat Thanh.[2] Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed.[3]
Roedd ei dad, Nguyen Sinh Sac neu Nguyen Sinh Huy, yn fab i werinwr. Gweithiodd ar fferm a phriododd merch y ffermwr. Astudioddllenyddiaeth Tsieineeg cyn ennilltrwyddedog a dysgu ynHué aThanh Hoa. Ym 1905, penodwyd yn ysgrifennydd yn swyddfa seremonïol y palas imperialaidd yn Hué, yn fuan wedi marwolaeth ei wraig. Yn hwyrach daeth yn ddirprwy raglaw dros Bin Khe, ond cafodd ei ddiswyddo ganyr awdurdodau Ffrengig oherwydd ei gasineb tuag at ei waith. O hynny ymlaen bu'n bywbywyd crwydrol, gan deithio oSaigon iPhnom Penh acAngkor. Bu farw mewnpagoda yng ngorllewinCochinchina, tua 1930.[4]
- ↑Brocheux (2003), t. 2.
- ↑Lacouture (1968), t. 8.
- ↑Lacouture (1968), t. 10.
- ↑Lacouture (1968), tt. 8–9.
- Brocheux, Pierre.Ho Chi Minh: A Biography (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2003 [2007]). Cyfieithwyd gan Claire Duiker.
- Lacouture, Jean.Ho Chi Minh (Llundain, Allen Lane, 1968 [1967]). Cyfieithwyd gan Peter Wiles.