Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Herodraeth

Oddi ar Wicipedia

Gwyddor a chelfyddyd arfau ac arwyddion ywherodraeth.[1] Defnyddir symbolau herodrol i gynrychioli unigolion a theuluoedd, lluoedd milwrol, sefydliadau, corfforaethau a gwledydd. Tarddodd y fath arwyddion fel modd o adnabod unigolion ar faes y gad. Rhoddid yrarfbeisiau gwreiddiol ynarwyddnod milwrol ardarian ymarchog a'i ryfelwyr. Ffynodd ddyluniadau herodrol ynyr Oesoedd Canol er mwyn dynodi teuluoedd brenhinol, tai'rbonedd, teitlaupendefigaidd, urddau crefyddol ac eglwysi, abyddinoedd. Dros amser daeth y dyluniadau'n hynod o gymhleth a herodraeth yn faes arbenigol. Datblygodd system ffurfiol iawn o dynnu arfbeisiau ac iaith dechnegol i ddisgrifio nodweddion a motiffau'r arwyddion. Rhoddir arwyddluniau ac arfbeisiau ar fathodynnau,baneri aseliau.

Hen enw arni ywarwyddfarddoniaeth.[2]

Rheol Tintur

[golygu |golygu cod]

Ceir rheolau neu canllawiau ar gyfer y defnydd o liw mewn herodraeth a luniwyd gan y Cymro,Humphrey Lhuyd. Yr enw ar y rheol ywRheol Tintur a'i byrdwn sylfaenol, syml yw, "dim metal ar fetal, na lliw ar liw", hynny yw, er enghraifft, ni ddilyn rhoi delwedd melyn ar gefndir gwyn neu ddelwedd goch ar gefndir las.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1.  herodraeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  2.  arwyddfarddoniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2019.
Eginyn erthygl sydd uchod amherodraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Herodraeth&oldid=11849424"
Categorïau:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp