Ar ôl canrifoedd o amarch, cafodd Hermetigiaeth ei hail-gyflwyno i'r Gorllewin ym1460 pan ddaeth dyn o'r enw Leonardo â'rCorpus Hermeticum i ddinasPistoia yn yrEidal. Roedd Leonardo yn un o lawer o asiantau llyw Pistoia,Cosimo de Medici, a gafodd eu hanfon allan i chwilio am ysgrifau hynafol.
Ym1614 cafodd yCorpus Hermeticum ei ddosrannu am ddulliau ieithyddol gan Isaac Casaubon, ieithegydd o'rSwistir. Yn ei farn ef doedd yr ysgrifau a briodolir i Trismegistus ddim yn ddigon hen i hanu o'r Aifft hynafol, yn hytrach roeddent yn deillio o'r Cyfnod Cristnogol. RoeddWalter Scott yn dyddio'r ysgrifau i 200 OC, ond bu i Syr W. Flinders Petrie eu lleoli rhwng 200 a 500 CC. RoeddPlutarch yn sôn am Trismegistus yn y ganrif gyntaf OC, ac roedd Tertullian, Iamblichus a Porphyry i gyd yn gyfarwydd ag ysgrifau Hermetig.
Roedd ysgrifau Hermetig ymhlith y rhai a gafodd eu darganfod gerNag Hammadi ym1945. Roedd yr ysgrifau yn dilyn trefn un o'r sgyrsiau rhwng Hermes ac Asclepius o'rCorpus Hermeticum, a hefyd roedd yna destun ar gyfriniaeth Hermetig, sefAr yr Ogdoad ac Ennead, wedi ei ysgrifennu yn yr iaithGopteg.
Mae'r rhan fwyaf o'r testunau yn cael eu cyflwyno mewn ffurf deialog, dull arferol yCynfyd o drosglwyddo gwybodaeth ddidactig. Mae'r testunau yn trin amrywiaeth o bethau, gan gynnwysalcemeg,dewiniaeth a myfyrdodau ar natur bywyd sydd yn debyg i Gnostigiaeth aNeoplatoniaeth.
Dydy llawer o Hermetigiaid ddim yn ystyried eu credau i fod yn grefydd. Mae llawer ohonynt yn cymysgu eu syniadau cyfriniol âChristnogaeth,Bwdhaeth,Iddewiaeth,Paganiaeth neuIslam. Mae eraill fod gan pob crefydd rai gwireddau cyfriniol, ac eu bod i gyd yn pwyntio at ddaliadau esoterig Hermetigiaeth.
Nod Hermetigiaeth ydy dyrchafu'r unigolyn i gyfuno â chyfatebwyr uwch a chyrraedd Ymwybyddiaeth Dwyfol, neu "doethineb y bydysawd". Yn ôl testun arall a briodolir i Hermes Trismegistus, yTabula Smaragdina, mae yna dair ran i'r doethineb:
Alcemeg: nid newid plwm i aur ydy nod alcemeg; metaffor i ddisgrifio'r ymdrech i newid a dyrchafu'r enaid ydy.
Sêr-ddewiniaeth: credir bod gan symudiadau'r planedau ddylanwad ar y Ddaear, ac bod dod i adnabod y dylanwadau hyn yn arwain at ddeall y meddwl dwyfol, neu Dduw.
Dwyfolwaith: Yn ôlGiovanni Pico della Mirandola, mae yna ddau fath gwahanol o ddewiniaeth. Y cyntaf ydy γοητεια, Goëtia, y gelfyddyd ddu lle mae'r dewin yn cynghreirio gyda chythreuliaid ne ysbrydion drygionus. Yr ail ydy Dwyfolwaith, dewiniaeth ddwyfol lle mae'r dewin yn cynghreirio gydag ysbrydion dwyfol, fel angylion a duwiau.
Mae Hermetigiaeth yn amgylchynu panentheistiaeth ("popeth o fewn Duw") ac Amldduwiaeth monistig, sef bod yna amrywiaeth o fodau dwyfol, fel duwiau neu angylion, ond eu bod nhw i gyd, fel popeth arall yn y bydysawd, yn deillio o'r un "Achos" neu Dduw.