AthronyddGroeg oeddHeracleitos (Groeg: Ἡράκλειτος ὁ Ἐφέσιος,Heraklit neuHeraclitus mewn rhai ieithoedd) (fl.500 CC). Cafodd ei eni ynEffesus,Asia Leiaf, yn fab i bendefig lleol. Fe'i ystyrir weithiau'n DadMetaffiseg.
Ysgrifennodd lyfr,Ynglŷn â Natur, ond dim ond darnau sydd wedi goroesi. Ei gysyniad enwocaf oedd fod pob dim mewn cyflwr cyfnewidiol ac mae Newid ei hun yw'r unig beth sy ddim yn newid: "Ni ellwch roi eich troed yn yr un afon ddwywaith". Mae popeth yn ybydysawd yn rhwym wrth y ddeddf sylfaenol hon, gan gynnwys yduwiau eu hunain.
Mae undod ymddangosiadol y bydysawd yn cuddio tensiwn deinamig rhwng grymusterau gwrthwynebol a reolir, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, gan y "Logos" ("Rheswm"). Prif fynegiant corfforol y 'Logos' ywTân, sail y Greadigaeth i gyd. Tân (sef y 'Logos') yw'renaid hefyd, sydd yr un y bôn â'relfen sy'n creu, cynnal a dinistrio'r bydysawd oll. Credai y byddai eneidiau da yn ymuno â'r "Logos" ar ôl marwolaeth y corff.
Tywyll iawn ac agored i sawl darlleniad yw ei ddywediadau. MaeDiogenes Laertius yn ei lyfrBucheddau'r Athronwyr yn cofnodi stori am y dramodyddGroegEwripedes yn rhoi copi o lyfr Heraclitus iSocrates. Gofynnodd iddo wedyn beth oedd yn meddwl ohono. Atebodd, "Mae'r hyn a ddeallais yn wych; ac dwi'n meddwl fod yr hyn na ddeallais yn wych hefyd - ond buasai angen plymiwr oDdelos i gyrraedd ei waelod!" (Roedd pysgotwyrperlau ynys Delos yn enwog am eu gallu i blymio'n ddyfnach na neb arall i'r môr.)
- D. James Jones,Hanes Athroniaeth: Y Cyfnod Groegaidd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1939), pennod 19: "Heracleitos"
- Jonathan Barnes (gol.),Early Greek Philosophy (Penguin, 1987), pennod 8: "Heraclitus"