Siop Nain, Rhuthun, lle cyhoeddwyd yr anthem am y tro cyntaf.Y copi cynharaf o Hen Wlad fy Nhadau, 1856
Anthem genedlaetholCymru ywHen Wlad fy Nhadau. Ysgrifennwyd y geiriau ganEvan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fabJames James (1833-1902) ym mis Ionawr1856. Roedd y ddau yn drigolion oBontypridd.Gwehydd a bardd oedd y mab, athelynor oedd y tad.
Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yrUnol Daleithiau, lle’r oedd cynifer o Gymry’r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y gân yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef ‘gwlad ei dadau’) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw ‘Glan Rhondda’, gan mai ar lannau’r afon, yn ôl traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr.
Perfformiwyd y gân, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor,Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurfbaled, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth ynEisteddfodLlangollen,1858, ar ôl iLlewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828–79) oAberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James!
Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821–83) yn ei gasgliad cyntaf oGems of Welsh Melody a gyhoeddwyd ganIsaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'.
Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i’r gân y naws emynyddol a’i gwnaeth yn gân dorfol boblogaidd: mae copïau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y gân yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a’i defnyddio’n gân gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn gân i’w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe’i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874.
Fe’i canwyd am y tro cyntaf mewn gêm rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905 a hi oedd yranthem genedlaethol gyntaf i gael ei chanu ar ddechrau gêm fawr. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe’i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a’r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn gân addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe’i hystyrir yn gyffredinol yn un o’r goreuon o blith anthemau cenedlaethol.
Gwnaed y recordiadCymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, ynLlundain ar11 Mawrth1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau yLlyfrgell Genedlaethol.
Defnyddir fersiynau o’r anthem ganGernyw,Bro Goth Agan Tasow ac ynLlydaw ers1902,Bro Gozh ma Zadoù. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael ynIndia yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem ywRi Khasi, ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.
Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni ganTich Gwilym yn null Jimi Hendrix.
Bu cryn dynnu coes arJohn Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o.[1]