Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Hela

Oddi ar Wicipedia
HelaBaedd,tacuinum sanitatis casanatensis (14eg ganrif)

Yr ymarfer o erlid anifeiliaid byw ywhela, gan amlaf bywyd gwyllt ar gyferbwyta,adloniant, neumasnach. Me defnydd cyfoes y term yn cyfeirio ar hela cyfreithlon yn hytrach naherwhela. Cyfeirir at yr anifeiliaid a ddelir felhelwriaeth, gan amlaf maent ynfamaliaid neu'nadar.

Gellir hela hefyd gyfeirio at waredu arfermin, fel modd oreoli pla i atal ymledaeniad heintiau a achosir gan or-boblogaeth. Mai rhai sydd o blaid hela hefyd yn dadlau y gall hela fod yn elfen bwysig o reoli bywyd gwyllt,[1] ar mwyn helpu cynnal poblogaeth iach o anifeiliaid o fewn gallu cynhaliaeth system ecoleg yr amgylchedd lle nad yw rheolaeth naturiol megis ysglyfaethwyr yn bodoli.[2]

Pysgota yw'r term a ddefnyddir ar gyfer yr erlid obysgod, a ni gaiff ei gategoreiddio fel hela yn gyffredin.

Yr Oesoedd Canol

[golygu |golygu cod]

SoniaBeirdd yr Uchelwyr yn aml iawn am hela, ac felly hefyd yy cyfreithiau Cymreig. Nodir yr anifeiliaid canlynol yn aml: y carw coch, yr iwrch, y baedd gwyllt, y llwynog, y dyfrgi, y crëyr, aderyn y bwn, y gylfinir, yr aran a gwenyn. Câi unrhyw un ddal y llwynog, y dyfrgi a’r iwrch a chadw gwenyn. YnY Naw Helwriaeth, sef testun a luniwyd tua chanol yr16eg ganrif sy’n crybwyll y carw, yr iwrch, yr ysgyfarnog, y llwynog, y dringhedydd (sef y gath goed, y ffwlbart neu’r wiwer), y ceiliog coed (sef ffesant neu geiliog du'r mynydd, o bosibl, neu 'aderyn helwriaeth' yn gyffredinol), eogiaid, gwenyn, baeddod gwyllt ac eirth, er bod yr anifeiliaid hyn wedi diflannu o wledydd Prydain.[3]

Roedd sawl dull hela, nid yn unig ymlid ganhelgwn a saethu gydabwa ond hefyd drwy ddefnyddio rhwyd rawn (rhawn yw blew ceffyl). Er i r gael eu defnyddio weithiau ar gyfer dal anifeiliaid mawr fel y ceirw a'r baedd gwyllt yn ogystal â chreaduriaid bach fel pysgod, adar, cwningod ac ysgyfarnogod, ystyrid defnyddio rhwyd yn ddull 'dianrhydded' gan rai. Ceid dulliau hela mwy 'gwerinol a chanoddMaredudd ap Rhys gerddi gofyn a diolch am rwyd bysgota. CanoddGruffudd ap Maredudd at y defnydd o dryfer i ddal eog ifanc (neu 'gleisiad'), a chrybwyllodd yr Ustus Llwyd at y defnydd o rwydi ddal dyfrast. Roedd sawl dull o hela adar, fel y gwelir yng nghywyddDafydd ap Gwilym, 'Ymddiddan â'r Cyffylog', sef drwy eu saethu, eu dal mewn magl ac, efallai, eu gyrru i fan agored neu lannerch mewn coed, fel y gellid eu dal mewn rhwydi.

O'r holl anifeiliaid, yr hydd, oedd yr anifail hela uchaf ei fri, ac adlewyrchir hyn yng ngherddi'r cyfnod. SoniaGuto’r Glyn mewn cerdd i ofyn am walch fod Deon Bangor, Risiart Cyffin ab Ieuan Llwyd, yn mwynhau hela hydd (cerdd 60.38).

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Ted Williams (Mawrth 2002).Wanted: More Hunterscopy URL
  2.  Craig A Harper. Quality Deer Management Guidelines for Implementation. Agricultural Extension Service, The University of Tennessee. Adalwyd ar 2006-12-20.
  3. [1]Archifwyd 2016-03-04 yn yPeiriant Wayback adalwyd 21 Rhagfyr 2015
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hela&oldid=13340980"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp