Heini Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | Gwilym Heinin Griffiths ![]() Mawrth 1946 ![]() Dolgellau ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | academydd,llenor, ymgyrchydd ![]() |
Tad | John Gwyn Griffiths ![]() |
Mam | Kate Bosse-Griffiths ![]() |
Awdur, athro ac ymgyrchydd iaithoGymru ywGwilym Heini Gruffudd (ganwyd Mawrth1946).
Fe'i ganwyd ynNolgellau yn fab i’r llenorion a’r EifftolegyddionKate Bosse-Griffiths aJohn Gwyn Griffiths. Symudodd y teulu yn fuan wedyn i Abertawe, wedi i'w dad gael ei benodi'n ddarlithydd cynorthwyol yn y Clasuron yngNgholeg y Brifysgol, Abertawe. Mae ganddo frawd hŷnRobat Gruffudd.
Bu'n athro ynYsgol Gyfun Ystalyfera, Abertawe. Yn 1979 dyfeisiodd y gêm fwrdd 'Gêm y Steddfod' a ddarluniwyd ganElwyn Ioan.[1] Rhwng 1990 a 2003 roedd yn ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion Prifysgol Abertawe.
Mae wedi llunio nifer o gyrsiau ar gyfer dysgu Cymraeg ac mae ei gyhoeddiadau yn cynnwysWelsh is Fun!, theWelsh Learner’s Dictionary aStreet Welsh. Mae'n awdur y llyfr poblogaiddEnwau Cymraeg i Blant. Seiliwyd ei waith ar ymchwil academiadd cadarn a daeth yn awdurdod rhyngwladol yn ei faes. Cafodd ei wahodd i arwain gweithdai ar draws y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.
Mae hefyd wedi bod yn ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yn enwedig yn ardal Abertawe. Bu'n gadeirydd cenedlaetholRhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG). Roedd yn un o sefydlwyrTŷ Tawe, Canolfan Gymraeg Abertawe, yn 1987. Mae hefyd yn un o sylfaenwyr a Chadeirydd y mudiad Dyfodol i'r Iaith.
Mae wedi cyhoeddi cyfrolYr Erlid sy'n adrodd hanes teulu ei fam yng nghyfnod erlid y Natsïaid. Enillodd y llyfr wobrLlyfr y Flwyddyn yn 2013. Adroddwyd yr hanes mewn rhaglen ddogfenY Trên i Ravensbruck a enillodd ddwy wobr BAFTA.
Ar ôl ymddeol yn gynnar o'r brifysgol, mae’n parhau i weithio fel cyfieithydd ac ymgynghorydd iaith.[2]
Cafodd ei dderbyn i'r Orsedd ynEisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003. Yn 2015 fe'i wnaed yn Gymrodyr er anrhydedd gyda'rColeg Cymraeg Cenedlaethol. Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth yng Ngorffennaf 2017.[3]
Mae ganddo bedwar o blant - Efa, Nona, Anna a Gwydion.