- Gweler hefydHebron (gwahaniaethu).
Dinas ary Lan Orllewinol ywHebron (Hebraeg: חברוןChevron;Arabeg: الخليلAl Khalil). Ers dechrau1997, mae 80% o'r ddinas dan reolaethAwdurdod Cenedlaethol Palesteina a'r gweddill yn cael ei rheoli ganIsrael. Roedd y boblogaeth yn2006 tua 167,000, bron i gyd yn Balestiniaid, ac eithio tua 600 o Iddewon.
Mae Hebron yn un o ddinasoedd hynaf yDwyrain Canol. Gerllaw Hebron maeOgof y Patriarchiaid, lle dywedir bodAbraham,Sara,Isaac aRebecca wedi eu claddu. Mae'n fangre sanctaidd mewnIddewiaeth,Cristnogaeth acIslam. Yn Hebron y cyhoeddwydDafydd yn frenin teyrnas Israel ac oddi yno y bu'n teyrnasu hed nes iddo goncroJeriwsalem.
Yn 1929, lladdwyd 69 o Iddewon gan y Palestiniaid, a gorfodwyd y gweddill o'r boblogaeth Iddewig i ffoi. Yn1994 lladdwyd 29 o bobl oedd yn gweddio ymMosg Ibrahimi gan Baruch Goldstein, meddyg Americanaidd-Israelaidd, ac anafwyd 125 arall.