Harry Potter Arfbais Hogwarts, sy'n cynrychioli'r pedwar Tŷ (yn glocwedd o'r dde, top: Slafennog, Crafangfran, Wfftipwff, a Lleureurol), gydag arwyddair yr ysgol, sy'n golygu "Paid byth â gogleisio draig sy'n cysgu".[1] |
|
Awdur | J. K. Rowling |
---|
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
---|
Math | Ffantasi,ffuglen oedolyn ifanc,dirgel,cyffrous,Bildungsroman,dod i oed |
---|
Cyhoeddwr | Bloomsbury Publishing |
---|
Dyddiad cyhoeddi | 29 Mehefin 1997 – 21 Gorffennaf 2007 |
---|
Math o'r cyfryngau | Print (clawr caled achlawr papur) Awdiolyfr |
---|
Cyfres o saithnofel ffantasi a ysgrifennwyd gan yr awdures SaesnegJ. K. Rowling ywHarry Potter. Mae'r llyfrau yn croniclo anturiaethaudewin ifanc o'r enwHarri Potter a'i ffrindiau gorau:Ron Weasley acHermione Granger ynYsgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts. Prif thema'r llyfrau yw cwest Harri i oresgyn y dewin drwg, tywyll,Lord Voldemort, sy'n benderfynol o ddarostwng pobl di-hud, gorchfygu'r byd hudol, a dinistrio pawb a phopeth sy'n ei rwystro rhag cyflawni hyn, yn enwedig yr arwr Harri Potter.
Ers 29 Mehefin 1997 pan ryddhawyd y nofel yn gyntaf,Harri Potter a Maen yr Athronydd (Saesneg gwreiddiol:Harry Potter and the Philosopher's Stone), mae'r llyfrau wedi ennill poblogrwydd anferthol, cymeradwyaeth gan y beirniaid a llwyddiant masnachol ledled y byd.[2] Mae'r gyfres hefyd wedi cael ei barnu, gan gynnwys pryder ynghylch y naws ddrwg gynyddol. Ers Mehefin 2011, mae'r gyfres lyfrau wedi gwerthu tua 450 miliwn o gopïau, yn ogystal â chael ei chyfieithu i 67 iaith,[3][4] gan gynnwys yGymraeg.
Mae'r gyfres yn cynnwys llawer ogenres, gan gynnwysffantasi adod i oed (gydag elfennau o ddirgelwch, cyffro a rhamant), ac mae llawer o gyfeiriadau ac ystyron diwylliannol ynddi.[5][6][7][8] Yn ôl Rowling, prif thema'r llyfrau ydy marwolaeth,[9] ond ystyria'r gyfres fel gwaithllenyddiaeth i blant. Ceir themâu eraill yn y gyfres, megis cariad a rhagfarn.[10]
Prif gyhoeddwr y llyfrau gwreiddiol Saesneg yng ngwledydd Prydain oedd Bloomsbury ond cyhoeddwyd y llyfrau gan wahanol gyhoeddwyr ledled y byd erbyn hyn. Addaswyd y gyfres i gynhyrchu wyth ffilm ganWarner Bros. Pictures, gyda rhannu'r seithfed llyfr yn ddwy ffilm; hi yw'r gyfres ffilmiau crynswth mwyaf yn hanes y byd ffilmiau. Mae llawer o nwyddau yn sgil y ffilmiau hefyd, sy'n werth mwy na $15 billion.[11]
Mae'r nofelau yn dilyn bywydHarri Potter: plentyn amddifad un-ar-ddeg oed sy'n darganfod mai dewin ydyw, wrth iddo fyw yn y byd real ymhlith pobl di-hud, neu'r bydMygl.[12] Ganwyd ef gyda dewiniaeth yn gynhenid ynddo, a gwahoddir plant hudol i ysgol sy'n addysgu'r sgiliau angenrheidiol er mwyn iddynt ymdopi yn y byd hudol. Daw Harri'n fyfyriwr ynYsgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts ac mae'r mwyafrif o anturiau Harri Potter yn digwydd yn yr ysgol. Wrth i Harri heneiddio, mae'n dysgu goresgyn y problemau sy'n ei wynebu: problemau hudol, cymdeithasol ac emosiynol, gan gynnwys heriau cyffredin i'r arddegau, megis cyfeillgarwch ac arholiadau, a'r her fwyaf o baratoi ei hunan ar gyfer y gwrthdaro sydd o'i flaen.[13]
Mae pob llyfr yn croniclo un flwyddyn ym mywyd Harri[14] gyda'r prif naratif yn digwydd rhwng 1991 a 1998.[15] Mae gan y llyfrau lawer o ôl-fflachiau a gânt eu profi gan Harri; er enghraifft mae'n gweld atgofion cymeriadau eraill mewn dyfais o'r enw "Pensieve".
- ↑ Visitor's Guide to Hogwarts. The Harry Potter Lexicon (21 Mai 2009).
- ↑Allsobrook, Dr. Marian. Potter's place in the literary canon , BBC, 18 Mehefin 2003. Cyrchwyd ar 15 Hydref 2007.
- ↑Rowling 'makes £5 every second' ,BBC, 3 Hydref 2008. Cyrchwyd ar 17 Hydref 2008.
- ↑ All Time Worldwide Box Office Grosses. Box Office Mojo, LLC. (1998–2008).
- ↑ Living with Harry Potter. BBC Radio 4 (10 Rhagfyr 2005).
- ↑ Harry Up!. ew.com (2000).
- ↑ Nancy Carpentier Brown (2007). The Last Chapter. Our Sunday Visitor.
- ↑ J. K. Rowling. J. K. Rowling at the Edinburgh Book Festival.
- ↑Geordie Greig. 'There would be so much to tell her...' ,Daily Telegraph, 11 Ionawr 2006. Cyrchwyd ar 4 Ebrill 2007.
- ↑Interview with Steve Kloves and J.K. Rowling , Quick Quotes Quill, 28 Gorffennaf 2008.
- ↑ Business big shot: Harry Potter author JK Rowling.
- ↑Lemmerman, Kristin. Review: Gladly drinking from Rowling's 'Goblet of Fire' , CNN, 14 Gorffennaf 2000. Cyrchwyd ar 28 Medi 2008.
- ↑ Plot summaries for the first five Potter books. SouthFlorida.com (14 Gorffennaf 2005).
- ↑Foster, Julie. Potter books: Wicked witchcraft? , Hydref 2001.
- ↑
- Sefydlwyd y blynyddoedd cyntaf gan gacen dydd marwolaethGron Heb Ben Bron yn yr ail lyfr, sy'n nodi ail flwyddyn Harri yn yr ysgol yn digwydd rhwng 1992–93.
- Sefydlwyd y blynyddoedd hefyd gan farwolaeth rheini Harri yn y llyfr olaf