Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Hannibal

Oddi ar Wicipedia
Hannibal
Ganwyd247CC Edit this on Wikidata
Carthago Edit this on Wikidata
Bu farw183CC Edit this on Wikidata
o meddwdod Edit this on Wikidata
Gebze Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAncient Carthage Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, arweinydd milwrol Edit this on Wikidata
TadHamilcar Barca Edit this on Wikidata
PriodImilce Edit this on Wikidata
PlantEmily Edit this on Wikidata
LlinachBarcids Edit this on Wikidata
Gwobr/auillustrious son Edit this on Wikidata
Am enghreifftiau eraill o'r enw Hannibal, gwelerHannibal (gwahaniaethu).
Hannibal y cyfrif modrwyau a gymerwyd oddi ar gyrff lladdedigion Rhufeinig ym Mrwydr Cannae. Cerflun yn yLouvre.

Cadfridog a gwladweinyddCarthaginaidd oeddHannibal, mabHamilcar Barca, (247 CC – c.183 CC).

Bu Hamilcar Barca, tad Hannibal, yn ymladd yn Sbaen, lle enillodd lawer o diriogaethau newydd i Carthago. Pan laddwyd ef mewn brwydr, daeth brawd-yng-nghyfraith Hannibal,Hasdrubal Hardd, yn arweinydd y fyddin Garthaginaidd yn Sbaen. Pan laddwyd ef yn (221 CC), cyhoeddodd y fyddin Hannibal yn arweinydd, a chadarnhawyd hyn gan lywodraeth Carthago. Daeth Hannibal yn enwog yn ystod yrAil Ryfel Pwnig, a ddechreuodd ynSbaen yn218 CC. Penderfynodd Hannibal ymosod ar yrEidal, ac arweiniodd fyddin oedd yn cynnwyseliffantod dros yrAlpau i ogledd yr Eidal. Yn ystod y blynyddoedd nesaf enillodd nifer o fuddugoliaethau syfrdanol dros y Rhufeiniaid, yn arbennig ym mrwydrauTrebia,Trasimene aCannae. Mae tactegau Hannibal ym mrwydr Cannae yn parhau i gael eu hastudio heddiw. Lladdwyd rhwng 50,000 a 70,000 o Rufeinwyr yn y frwydr yma, sy’n yn ei gwneud yn un o’r brwydrau un diwrnod mwyaf gwaedlyd a gofnodir.

Problem Hannibal oedd nad oedd ganddo’r offer angenrheidiol i gipio dinasoedd caerog. Gobeithiai y byddai’r dinasoedd oedd yn cefnogi Rhufain yn troi i gefnogi Carthago yn dilyn ei lwyddiannau milwrol. Gwireddwyd hyn i raddau; er enghraifft trôdd dinasCapua at y Carthaginiaid. Yn raddol dysgodd y Rhufeiniaid oddi wrth Hannibal ei hun, a gwnaethant eu gorau i osgoi brwydr yn erbyn prif fyddin Hannibal. Yn207 CC gorchfygwyd a lladdwyd ei frawdHasdrubal Barca pan geisiodd arwain byddin arall i’r Eidal i atgyfnerthu Hannibal..

Yn203 CC, gorfododd ymosodiad Rhufeinig ar Ogledd Affrica dan arweiniadScipio Africanus ef i adael yr Eidal i amddiffyn Carthago. Gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ymMrwydr Zama.

Bu raid i Carthago ildio i’r Rhufeiniaid, a derbyn y telerau a osodwyd gan Rufain. Etholwyd Hannibal ynsuffet, ac am gyfnod bu’n rheoli Carthago yn effeithiol iawn. Llwyddodd i wella sefyllfa Carthago yn sylweddol, ond dychrynodd hyn y Rhufeiniaid, ac yn195 CC mynasant fod Hannibal yn cael ei ildio iddynt fel carcharor. Bu raid i Hannibal ffoi o’r ddinas a bu’n byw yn llysAntiochus III, brenin yrYmerodraeth Seleucaidd ynSyria, lle bu’n gynghorydd Antiochus yn ei ryfel yn erbyn Rhufain. Pan orchfygwyd Antiochus, bu raid i Hannibal ffoi iBithynia. Mynnodd y Rhufeiniaid fod Hannibal yn cael ei drosglwyddo iddynt hwy fel carcharor, ac i osgoi hyn, lladdodd ei hun trwy gymryd gwenwyn.

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Hannibal&oldid=11575001"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp