Hannah Waddingham
Adnoddau
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu/allforio
Mewn prosiectau eraill
| Hannah Waddingham | |
|---|---|
| Ganwyd | 28 Gorffennaf 1974 Wandsworth |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr, actor llwyfan, actor ffilm, cyflwynydd teledu,actor |
| Gwobr/au | Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi |
Actores, cantores a chyflwynydd teledu oLoegr ywHannah Waddingham (ganwyd28 Gorffennaf1974)[1]. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y gyfres deledu gomediTed Lasso (2020-presennol), ac enillodd sawl gwobr amdani.[2] Mae hi wedi ymddangos mewn sioeau yn y West End felSpamalot. Mae hi wedi derbyn tri enwebiad Gwobr Olivier.
Cafodd Waddingham ei geni ynWandsworth, Llundain, yn ferch i'r gantores opera Melodie Kelly.[3] Roedd Kelly yn aelod o’rEnglish National Opera.[3][4]
Graddiodd Waddingham o Academi Celfyddydau Byw a Recordiedig .[5] Dechreuodd ei gyrfa mewn theatr ginio, gan berfformio yn y comedi rhyngweithiolJoni a Gina's Wedding.[3][6]