Cymeriad yn yGyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi sy'n herioArawn breninAnnwn am reolaeth y deyrnas honno unwaith bob blwyddyn ywHafgan. Cyfeirir ato fel "Hafgan brenin Annwn".[1]
I wneud iawn am eiansyberwydd (anghwrteisi) yn llithro ei helgwn ar y carw a ddaliwyd gan helgwn Arawn, cytunaPwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn gan gymryd arno bryd a gwedd y brenin. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â Hafgan arryd ar ffin y deyrnas ac yn ei drechu gan achub y deyrnas i Arawn. CredaiW. J. Gruffydd fod Hafgan yn ymrithiad arall o Arawn ei hun.[2] Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.
Cafodd Pwyll gyngor gan Arawn pan gytunodd newid lle ag ef. Dywed Arawn wrtho i beidio â gwrando ar Hafgan, ar ôl ei glwyfo'n angheuol, pan ymbilia iddo dorri ei ben. Pe dorrai ei ben byddai Hafgan yn fyw eto ac yn ei drechu.[3] Ceir motif cyffelyb mewn sawl chwedl, yn cynnwys y gerdd Saesneg Canol hirSir Gawain and the Green Knight (sy'n deillio o ffynonellau Cymreig/Brythonig).
Credir fod Hafgan, fel mae ei enw yn awgrymu, yn ymgnawdoliad o'rHaf sy'n cael ei drechu gan yGaeaf bob blwyddyn. Os felly, mae rhan o'r chwedl yn eisiau, gan y byddai Hafgan ei hun yn trechu Arawn (y Gaeaf) mewn brwydr arall, ar ddechrau'r haf, ac yn rheoli'r deyrnas am hanner y flwyddyn.