Ystyr y termhadith (Arabeg:حديث,ḥadīṯ; lluosogʾaḥādīṯأحاديث) yw dywediad llafar ganMohamed, proffwydIslam, neu un o'r gweithiau sy'n cynnwys casgliadau o'r dywediadau hynny a thraddodiadau eraill am Fohamed a'i gydymdeithion, a ystyrir gan Fwslemiaid fel canllawiau ynglŷn â bywyd personol pob Mwslim a chymuned yrUmma. Maent yn rhan o'r hyn a elwir yn "Draddodiad y Proffwyd" gan Fwslimiaid: dydyn nhw ddim yn rhan o'rCoran ei hun.
Ceir sawl casgliad o ddywediadau a thraddodiadau a elwir yn hadithau. Mae ei awdurdod yn y byd Islamaidd yn amrywio. Mae'r hadithau cynharaf yn rhai y credir iddynt gael eu casglu o fewn cenhedlaeth neu ddwy ar ôl marwolaeth Mohamed tra bod y rhai mwy diweddar yn dyddio o'r 9fed neu'r 10g. Mae graddfa eu derbyniaeth gan Fwslemiaid yn amrywio hefyd. Yn achos yr hadithau mwy diweddar, er enghraifft, mae rhai yn rhan o draddodiad y MwslemiaidSunni ac eraill yn perthyn i draddodiad yShia neu enwadau eraill.
Cafodd traddodiadau am fywyd Mohamed a hanes cynnar Islam eu trosglwyddo ar lafar am dros gan mlynedd ar ôl marwolaeth y proffwyd yn 632 OC.
Dywed haneswyr Mwslemaidd mai'rCaliffUthman (y trydydd khalifa, neu olynydd ysbrydol Mohamed), oedd y cyntaf i annog y Mwslemiaid i roi'rCoran ar glawr mewn ffurf safonol, ac i gofnodi'r hadith. Ond lladdwyd Uthman gan wrthryfelwyr yn 656.
Mae barn haneswyr, o fewn a'r tu allan i Islam, yn rhanedig am yr hyn a ddigwyddodd nesaf. Mae rhai yn credu fod llawer o'r hadithau yn perthyn i'r 7fed a'r 8g ond mae eraill o'r farn mai traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am y trosglwyddiad, yn bennaf neu'n gyfangwbl. Does dim hadith ysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw wedi goroesi.
Roedd ysgolheigion y cyfnodAbbasid yn gorfod wynebu'r ffaith fod y corff mawr o hadithau yn cynnwys tradoddiadau amrywiol iawn gyda gwahaniaethau mawr mewn rhai ohonynt. Roedd angen gosod safonau a phenderfynu pa hadithau oedd yn ddilys a gwahaniaethu rhwng y rhai y gellid eu hystyried yn perthyn i gyfnod Mohamed a'i ddilynwyr a'r lleill, diweddarach, oedd yn aml yn cefnogi barn enwadol neu wleidyddol ar faterion sy'n ganolog i Islam. Ar ddechrau'r 7g dechreuodd trosglwyddwyr yr hadith ymchwilio ffynhonnell y dywediad. Dyma gychwyn y syniad oIsnad, sef 'dilysrwydd yr hadith'. Credir i'r casgliadau cynharaf sydd ar glawr heddiw gael eu hysgrifennu yn yr 8g.
Ceir chwe phrif gasgliad o hadithau a ystyrir yn hollol ddilys yn y traddodiadSunni; cyfeirir atynt fel 'y chwesahîh' (al-sihah al-sitta). Y ddau gyda'r awdurdod mwyaf yw:
Ysahih eraill yw:
- CasgliadAbû Dawud (817-889), sef yKitâb as-Sunnan.
- CasgliadIbn Majah (824-887), sefSunan Ibn Majah.
- CasgliadAt-Tirmidhi (824-893), sefSunan At-Tirmidhi.
- Casgliad Al-Nasa'i (830-916).
Ceir hefyd:
- Casgliad Hammam bin Munabbih,al Sahifa as-Sahihah, cynnar ond anghyflawn.
- CasgliadMalik Ibn Anas (712-795), sefydlwr yr ysgol Malekite, sefKitab al-Muwatta.
- Casgliad Ahmad ibn Hanbal Musnâd, sefydlwr yr ysgol Hanbalite (780-855).
- YMishkat Shareef.
Ceir sawl casgliad o haithauShia. Y pwysicaf yw:
- Casgliad Ya'qub al-Kolayni (m. 939).
- Casgliad Saduq Ibn Babuyeh (m. 991).
- Casgliad Al-Hasan at-Tusi (m. 1068).