Acronym amHyperText Transfer Protocol ywHTTP. Dyma'rprotocol cyfathrebu a ddefnyddir i gydgysylltugwasanaethyddion ar yWe. Prif weithrediad HTTP yw sefydlu cysylltiad â gwasanethydd gwe a throsglwyddo tudalennauHTML i'rporwr client neu unrhyw ffeiliau eraill sydd eu hangen gan aplicant HTTP.
Mae cyfeiriadaugwefannau yn cychwyn â'r rhagosodiad http:// ond erbyn heddiw mae porwyr gwe yn cyflwyno'r protocol hynny'n ddiofyn. Felly mae teipio www.wikipedia.org ym mar cyfeiriad eich porwr yn gyfystyr â theipiohttp://www.wikipedia.org er enghraifft.
Diffinnir HTTP fel system gofyn/ymateb "digyflwr"; h.y. nid yw'n bod ond am yr amser sydd ei angen er mwyn gwneud trosglwyddiad data, meicro-eiliad efallai, ac ar ôl hynny mae'n cau. Wedi i orchymyn gofyniad y client HTTP gyrraedd y gwasanaethydd mae cysylltiadTCP yn cael ei greu ac mae'r gwasanethydd yn anfon ei ymateb ac yn cau'r cysylltiad HTTP.
Erbyn hyn mae fersiwn HTTP 1.1 wedi cymryd lle'r fersiwn gwreiddiol HTTP 1.0. Mae hyn wedi caniataumewnlwytho lluosog ac wedi gwella'r broses storiocache a'i gwneud hi'n haws i greulletywyr rhithiol.