Gwyn M. Daniel | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1904 ![]() Bryn ![]() |
Bu farw | 31 Hydref 1960 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | addysgwr, ymgyrchydd iaith,athro, ymgyrchydd ![]() |
Cyflogwr |
|
RoeddGwyn M. Daniel enw llawn,Gwynfryn Morgan Daniel (1 Awst1904 -31 Hydref1960) yn athro ac ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yngNghaerdydd ac yn genedlaethol. Ef hefyd oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntafUndeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac Ysgrifennydd cyntafRhieni Dros Addysg Gymraeg.
Ganed Gwyn M. Daniel ym mhentre'rBryn,Port Talbot. Yn dilyn addysg yn Ysgol Pentre Bryn, ac yn Ysgol Sir y Bechgyn, Port Talbot, aeth yn fyfyriwr yngNgholeg y Brifysgol Aberystwyth lle cyfarfu â'i ddarpar briod Annie Evans oYstrad, Rhondda. Priododd y ddau ym 1936 a ymgartrefu yng Nghaerdydd lle ganwyd iddynt dair merch, Nia, Ethni a Lona. Tra'n fyfyriwr ynAberystwyth, bu'nganolwr yn nhîmrygbi'r Coleg. Yn ddiweddarach, bu ef a'i gyfaillEic Davies (1909 - 1993) yn bathu termau rygbi, termau a ddaeth yn rhan naturiol o drafod a sylwebaeth rygbi Cymru.
Ym 1932, fe apwyntiwyd ef ac eraill yn athrawon Cymraeg yn ysgolionCaerdydd. Lleolwyd e yn Ysgol y Grange ac Ysgol Herbert Thompson ynNhrelai.
Diswyddwyd Daniel gan Bwyllgor Addysg Caerdydd oherwydd ei safiad felGwrthwynebydd Cydwybodol adeg yrAil Ryfel Byd. Wedi cyfnod fel clerc cafodd swydd gan Bwyllgor Addysg Morgannwg yn Ysgol Cogan,Penarth. Ym 1952, apwyntiwyd e yn brifathro ysgol gynraddGwaelod-y-garth.
Rhwng 1934 a 1937 bu Gwyn Daniel yn Llywydd Cylch Ysgolion Elfennol CaerdyddUrdd Gobaith Cymru. Yn 1937 roedd yn Ysgrifennydd Adran Athletau Mabolgampau Cenedlaethol yr Urdd ynStadiwm Maendy, Caerdydd gyda'r bechgyn buddugol yn teithio iWembley.
Yn 1939 daeth ef yn Ysgrifennydd Caerdydd y Ddeiseb Genedlaethol drosYmgyrch Senedd i Gymru.
Bu i Gwyn Daniel sefydlu Uwch Aelwyd yrUrdd yng Nghaerdydd yn yr 1930au cynnar a fyddai'n cwrdd ar nos Wener.[1]
Yn 1936-37 arweiniodd Gwyn M. Daniel ymgyrch dros sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yngNghaerdydd ynNhŷ'r Cymry. Yn sgil y Rhyfel gwrthwynebiad y Arglwydd Faer Caerdydd a fynnai mai cyfrifoldeb Pwyllgor Addysg y Ddinas oedd sefydlu pob ysgol, aeth Daniel a'i gyd-ymgyrchwyr ati i sefydlu Ysgol Fore Sadwrn cyfrwng Gymraeg a gynhaliwyd ynNhŷ'r Cymry yn Heol Gordon, yRhâth, Caerdydd. Ceisiwyd agor ysgol Gymraeg breifat yn 1940 (ar sail debyg iYsgol Gymraeg Aberystwyth a agorwyd ar hyd yr un llinellau ym mis Medi 1939), ond bu'n rhaid hepgor y bwriad gan bod gymaint o'r plant wedi eu hel o Gaerdydd i'r cefn gwlad fel efaciwis.[2] Cychwynnwyd ar yr ysgol yn 1943 gan barhau i weithredu drwy gydol yrAil Ryfel Byd nes 1947.[1]
Oherwydd llwyddiant a rhwydwaith sefydlu'r Ysgol Sadwrn, gwelwyd sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg Caerdydd yn 1949. Dyma oedd y drydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru (ar ôlYsgol Gymraeg Aberystwyth acYsgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli). Roedd yr ysgol wreiddiol hon mewn dwy ystafell ddosbarth ynYsgol Saesneg Ninian Park yn ardalGrangetown o Gaerdydd. Maes o law, symudwyd yr ysgol i safle yn ardalHighfields, Llandaf, gan newid yr enw am un daearyddol,Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf.
Gwyn M. Daniel oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntafUndeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac roedd ymhlith y sefydlwyr, ynNhŷ'r Cymry, ar 6 Rhagfyr 1940.[3][4] Sefydlwyd y mudiad chwyldroadol hwn wedi cyfnod hir o rwydweithio, llythyru a theithio Cymru, gan Daniel ac eraill. Bathwyd yr enw Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac nidUndeb Athrawon Cymru gan fod eisoes mudiad o'r enw hwnnw'n bodoli, nad oedd yn undeb. Cytunodd UAC i'r enw.[5]
Mae archifau UCAC a Tŷ’r Cymry, Caerdydd, yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Gwyn Daniel oedd hefyd cadeirydd cyntaf mudiadRhieni Dros Addysg Gymraeg.
Roedd Gwyn Daniel ac Annie yn rhieni i dair merch; Nia (Royles bellach), Ethni (Jones bellach), a Lona (Roberts bellach). Roeddent ymysg disgyblion cyntaf yr Ysgol Fore Sadwrn ac Ysgol Bryntaf. Bu farw Gwyn ar 31 Hydref 1960 ymMangor, odrawiad ar y galon, tra ar daith dros UCAC. Fel eu tad, bu plant Gwyn Daniel hefyd yn frwd a gweithgar dros y Gymraeg ac addysg Gymraeg. Daeth Ethni yn athrawes ieithoedd a bu hi'n brwydro dros addysg Gymraeg i'w mab, Garmon, oedd ag anghenion arbennig. Bu’n allweddol yn sefydlu uned arbennig ynYsgol Gynradd Gymraeg Coed-y-Gof a hynny yn wyneb gwrthwynebiad yr awdurdodau. Roedd Ethni hefyd ymhlith athrawon cyntaf Caerdydd y cwrs dysgu Cymraeg,Wlpan, a ysbrydolwyd o Israel, yn yr 1970au.[6]
Gŵr Ethni, a mab yng nghyfraith Gwyn M. Daniel, yw Michael Jones, ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yn ardal Caerdydd a chynghorydd cyfreithiol RhAG.[7] Ysgrifennodd Michael Jones lyfr a gyhoeddwyd gan RhAG,Twf addysg Gymraeg yng Nghymru: 2012-2020, gan gloriannu peth o ymdrech Gwyn M. Daniel dros addysg Gymraeg.