Mae 'Gwyddonydd' yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am y cylchgrawn Cymraeg gwelerY Gwyddonydd.
Galileo: tad gwyddoniaeth fodern yn ôl llawer.Gwyddonydd wrth ei gwaith
System o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd ffisegol, sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio ywgwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a methodolegol rheysmegol ac at y corff o wybodaeth mae pobl wedi'u casglu trwy ymchwil o'r fath.Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.
Mynna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil wyddonol ufuddhau i'rdull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol na ellir ei brofi. Hynny yw, nid lle gwyddoniaeth ydy gofyn 'Oes na Dduw?'
Dosberthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp:gwyddorau naturiol, agwyddorau cymdeithasol. MaeMathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg (ac yn rhan o) Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis rhif, maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth bur, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.
Ystyr draddodiadol Gwyddoniaeth Naturiol yw astudiaeth o agweddau di-ddynol y byd. Fel casgliad, gwahaniaethwyd y gwyddoniaethau naturiol oddi wrth diwinyddiaeth a'r gwyddoniaethau cymdeithasol ar un llaw, a'r celfyddydau a dyniaethau ar y llaw arall.
Cangen o wyddoniaeth sy'n disgrifio'r gwrthrychau a'r grymoedd mwyaf gwaelodol a sylfaenol ynghyd â'r berthynas rhyngddynt a'r deddfau sy'n eu llywodraethu fel y gellir dweud fod pob ffenomen naturiol yn deillio ohonynt yw gwyddoniaeth bur neu wyddoniaeth waelodol (Saesneg:fundamental science).