Prysgwydden gordeddog yn nheulu'rCaprifoliaceae yw'rgwyddfid neulaeth y gaseg (enw unigol ac enw lluosog) sy'n gynhenid i hemisffêr y gogledd. Mae'n blanhigyn dringol ac ymnyddol o deulu’rCaprifoliaceæ ac mae'n tyfu mewn llwyni a gwrychoedd.[1] Melyn-pinc ydy lliw'r blodau sy'n eitha persawrus ac ar ffurf utgyrn; mae'r aeron a dyf yn yr hydref o liw coch. Mae tua 180 o rywogaethau gwahanol ac mae 20 ohonynt yn gynhenid iEwrop. Adwaenir y gwyddfid hefyd fel llaeth y gaseg, ymysg nifer o enwau gwahanol. Y math mwyaf cyffredin yw'r Lonicera periclymenum.
Blodau'r gwyddfid ger Heolgerrig, Merthyr Tudful; Medi 2017 (llun gan Morgan Owen).
Mae'r dail mewn parau, yn syml ac yn hirgrwn. Yn ôl y naturiaethwraig Bethan Wyn Jones:Mae arogl y gwyddfid yn drymach ar awel yr hwyr am mai gwyfynod yn bennaf sy'n peillio'r gwyddfid, ac er mwyn denu'r gwyfynod hynny i beillio'r blodau mae'r gwyddfid yn rhyddhau perarogl.[2]
Cyfeirir at "laeth-y-gaseg" gan Dafydd Rowlands yn ei gerddDangosaf iti Lendid.[3]
Mae'r gwyddfid yn blanhigyn cyffredin mewn gerddi - yn bennaf gan eu bod yn gorchuddio hen waliau ac oherwydd lliw ac arogl y blodau. Mae'r mathau sy'n dringo'n hoffi gwreiddio yn y cysgod. Gallant ordyfu, gan dyfu'n wyllt, os nad ydynt yn cael eu tocio.[4]