Aderyn arhywogaeth o adar ywGwybedog mannog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: gwybedogion mannog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonolMuscicapa striata; yr enw Saesneg arno ywSpotted flycatcher. Mae'n perthyn ideulu'r Gwybedogion (Lladin:Muscicapidae) sydd ynurdd yPasseriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yngNghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml ynM. striata, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod ynAsia,Ewrop acAffrica. Mae'r Gwybedog Brith ynaderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf ynAffrica i'r de o anialwch ySahara ac yn ne-ddwyrainAsia. Aderyn brown ydyw, gyda'r bol yn wyn, heb unrhyw nodwedd darawiadol. Maent yn nythu mewn coedwigoedd llydanddail, parciau a gerddi.
Er ei fod yn parhau i fod yn aderyn gweddol gyffredin yngNghymru, mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Safonwyd yr enwGwybedog mannog gan un o brosiectau. Mae cronfeydd dataLlên Natur (un o brosiectauCymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agoredCC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adranBywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.