Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Gwrth-Ddiwygiad

Oddi ar Wicipedia
Gwrth-Ddiwygiad
Enghraifft o:religious controversy, mudiad cymdeithasol, athrawiaeth, reformism, Religious revival Edit this on Wikidata
Rhan oy Diwygiad Protestannaidd,Catholigiaeth Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1545 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1545 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1648 Edit this on Wikidata
LleoliadGorllewin Ewrop,Canolbarth Ewrop Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyngor Trent (hen engrafiad)

Mudiad o fewn yrEglwys Gatholig wedi'i ymgysegredu i frwydro yn erbyn canlyniadau'rDiwygiad Protestannaidd a'u dadwneud trwy ddiwygio camarferion yn yr Eglwys a dileuheresïau, ac ati, oedd yGwrth-Ddiwygiad (neu'rGwrth-Ddiwygiad Catholig). Gellid dadlau iddo ddechrau'n ffurfiol gydaChyngor Trent (1545 -1563), a agorwyd gan yPabPawl III yn unswydd er mwyn atgyfnerthu'r Eglwys yn wyneb y datblygiadau chwyldroadol yng ngwledydd Protestannaidd gogleddEwrop.

Roedd ceisio adfer "Yr Hen Ffydd" yn y gwledydd Protestannaidd newydd, felLloegr,Cymru,Yr Iseldiroedd a gwladwriaethau gogleddYr Almaen yn rhan ganolog o'i strategaeth.

Roedd y Gwrth-Ddiwygiad ar ei anterth yn ail hanner yr16g ond parhaodd hyd ganol y ganrif olynol. Gwelwyd sefydluCymdeithas yr Iesu (y Jeswitiaid) a'i datblygu i fod yn gorff cenhadol a anfonai offeiriad i bob rhan o'r byd, oBeriw iTsieina aSiapan, ymestyn yChwil-lys i wledydd eraill felSbaen a'rAmerig, a cheisio adfer bywyd ysbrydol a seiliau athronyddol yr Eglwys.

Ar waethaf yr erlid danElisabeth I, brenhines Lloegr ceisiodd y Catholigion wrthsefyllProtestaniaeth. Roedd angen cael cenhadon cyfrinachol i efengylu yngNghymru aLloegr. Mewn canlyniad sefydlwydColeg Douai ynFfrainc i'w hyfforddi.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod amhanes. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod amGristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Gwrth-Ddiwygiad&oldid=10966782"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp