Gwobr Goffa Daniel Owen
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu/allforio
Mewn prosiectau eraill
| Enghraifft o: | gwobr |
|---|---|
| Dynodwyr | |
Un o brif wobrauEisteddfod Genedlaethol Cymru ywGwobr Goffa Daniel Owen. Mae'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod. Rhoddir gwobr o £5000 amnofel ynGymraeg sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen.
Sefydlwyd y wobr yn 1978 ac fe'i enwyd ar ôl y nofelydd Cymraeg nodedigDaniel Owen (1836-1895). Y wobr yn y flwyddyn gyntaf oedd £500, yn rhoddedig ganHTV Cymru. Yn y blynyddoedd cynnar nid oedd y wobr yn cael seremoni ar lwyfan y Pafiliwn ond fe gychwynwyd wneud hynny yn 1999, er nad yw'n seremoni orseddol lawn. Yn 2000, cododd y wobr ariannol i £5000, gan roi fwy o statws ac amlygrwydd i'r gystadleuaeth.[1]