Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'rUndeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yrewro fel arian y wlad yn2001.
Saif Gwlad Groeg yn ne-ddwyrain Ewrop, ar ran ddeheuolPenrhyn y Balcanau a'r ynysoedd o'i amgylch ymMôr y Canoldir. Dim ond darn cul o dir sy'n cysylltu rhan ddeheuol y penrhyn, yPeloponnesos, a'r tir mawr. Yn y gogledd, mae Groeg yn ffinio arBwlgaria,Weriniaeth Macedonia acAlbania, ac yn y dwyrain arTwrci. Mae rhwng 1,400 a 2,000 o ynysoedd yng Ngwlad Groeg, yn dibynnu sut y diffinnir ynys, ond dim ond ar 227 ohonynt mae poblogaeth barhaol, a dim ond ar 78 o'r rhain mae mwy na 100 o drigolion. Ymhlith y rhain maeCreta,Euboea,Lesbos,Chios,Rhodos,Kerkyra, yDodecanese a'rCyclades.
Gwlad fynyddig yw Groeg, gyda tua 80% o'i harwynebedd yn fynyddig. Ynghanol y penrhyn, mae mynyddoedd yPindus yn ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, ac yn codi i 2637 medr o uchder. Copa uchaf Groeg ywMynydd Olympus, 2919 medr o uchder. Ar y ffin rhwng Groeg a Bwlgaria maeMynyddoedd Rhodope.
Ar lannau'rMôr Aegeaidd y datblygodd gwareiddiadau cyntaf Ewrop. Y cynharaf oedd yGwareiddiad Minoaidd ar ynysCreta, gydaKnossos fel ei ganolfan. Yn ddiweddarach, datblygodd yGwareiddiad Myceneaidd ar y tir mawr. Wedi diwedd y gwareiddiad yma, bu cyfnod a adwaenir fel Oesodd Tywyll Groeg, ond yna blodeuodd y cyfnod clasurol. Yn draddodiadol, dyddir hwn o ddyddiad cynnal y Gemau Olympaidd cyntaf yn 776 CC.
Y ffurf nodweddiadol ar lywodraeth yn y cyfnod yma oedd ypolis (dinas-wladwriaeth). Lledaenodd y diwylliant Groegaidd a gwladychwyr Groegaidd iAsia Leiaf a deyr Eidal (Magna Graecia). YmladdoddAthen aSparta gyda'i gilydd i drechu ymosodiadYmerodraeth Persia yn y5 CC. Yn ddiweddarach, ymladdwydRhyfel y Peloponnesos rhyngddynt, gyda Sparta yn gorchfygu Athen i ddod yn brif rym milwrol Groeg am gyfnod. Yn ddiweddarch, gorchfygwyd Sparta ganThebai.
DaethMacedonia yn feistr ar y ddinas-wladwriaethau Groegaidd ganPhilip II, brenin Macedon, a than ei fab ef,Alecsander Fawr, gorchfygwyd a dinistriwyd yr Ymerodraeth Bersaidd. Dechreuodd hyn yCyfnod Helenistaidd. Wedi marwolaeth Alecsander, bu ymladd rhwng ei gadfridogion, a rhannwyd ei ymerodraeth. Concrwyd Groeg yn derfynol gan y Rhufeiniaid yn146 CC, a daeth yn rhan o Ymerodraeth Rhufain.
Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, datblygodd yrYmerodraeth Fysantaidd, gydaChaergystennin fel prifddinas. Parhaodd yr ymerodraeth hyd at gwymp Caergystennin yn 1453. Daeth Groeg yn rhan o'rYmerodraeth Otomanaidd, a pharhaodd dan reolaeth Otomanaidd hyd atRyfel Annibyniaeth Groeg (1821–1829). Sefydlwyd teyrnas gan y brenin Otto.
Wedi diwedd yRhyfel Byd Cyntaf, ymladdodd Groeg yn erbynTwrci (1919-1922), gan feddiannu tiriogaethau sylweddol am gyfnod cyn cael eu gyrru'n ôl gan |Mustafa Kemal Atatürk. Yn 1940, ymosododd yr Eidal ar Wlad Groeg, ond gorchfygwyd yr Eidalwyr gan y Groegiaid, a bu'n rhaid i fyddinyr Almaen ymyrryd a meddiannu Groeg.
Ar ddiwedd yrAil Ryfel Byd, ymladdwydRhyfel Cartref Groeg rhwng byddinoedd Comiwnyddol a Brenhinol. Yn 1967, cipiwyd grym ganjunta milwrol adain-dde. Adferwyd democratiaeth yn 1975. Ymunodd Groeg a'rUndeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1981, ac arweiniodd hyn at gynnydd economaidd sylweddol. Mabwysiadwyd yrEwro yn 2001.
Yn ôl Cyfrifiad2001, roedd poblogaeth Groeg yn 10,964,020. Yn Ionawr2008, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn 11,240,000. Yn 2005. roedd y boblogaeth yn cynyddu o 0.19% y flwyddyn. Roedddisgwyliad bywyd yn 76.59 mlynedd i ddynion a 81.76 mlynedd i ferched.
Ar ôl yRhyfel Byd Cyntaf, bu cyfnewid poblogaeth ar raddfa fawr rhwng Groeg a gwledydd felTwrci aBwlgaria, gyda tua 2 filiwn o Roegiaid o ardaloedd megisAsia Leiaf, Bwlgaria,Albania a'r Balcanau yn symud i Wlad Groeg, a nifer cyffelyb yn gadael.